Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Cyswllt: Polisi: Claire Morris / Is-ddeddfau: Sarah Beasley
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
(09:00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd
unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(09:00 - 09:45) |
Ymchwiliad i ofal newyddenedigol Bwrdd Iechyd Addysgu
Powys Andrew Cottom – Prif Weithredwr Carol Shillabeer – Cyfarwyddwr Nyrsio Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Addysgu Iechyd Powys ar wasanaethau newyddenedigol. |
|
(09:45 - 10:45) |
Ymchwiliad i ofal newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Paul Hollard – Prif Weithredwr Dros Dro Dr Jennifer Calvert – Neonatolegydd Ymgynghorol Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf Allison Williams – Prif Weithredwr Kath McGrath – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd
Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf ar wasanaethau
newyddenedigol. Camau i’w cymryd: Bydd y Clerc yn anfon y dystiolaeth a ddaeth i law gan Goleg
Brenhinol y Nyrsys at y ddau fwrdd gan ofyn am eu sylwadau ynghylch yr honiad
bod rhai nyrsys newyddenedigol wedi ariannu eu hyfforddiant eu hunain ac wedi
gwneud yr hyfforddiant yn eu hamser eu hunain. Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at y Ddeoniaeth i ofyn am
esboniad ynglŷn â’r prinder honedig o
feddygon iau mewn gwasanaethau newyddenedigol. |
|
(11:00 - 11:45) |
Ymchwiliad i ofal newyddenedigol Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan Dr Andrew Goodall – Prif Weithredwr Judith Paget, Cyfarwyddwr Cynllunio a Gweithrediadau / Dirprwy Brif Weithredwr Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Aneurin
Bevan ar wasanaethau newyddenedigol. Camau i’w cymryd: Cytunodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i ysgrifennu at y
Cadeirydd ynghylch a yw cyflwr unrhyw fabi wedi gwaethygu wrth ei drosglwyddo
gan ambiwlans o Bowys i Ysbyty Brenhinol Gwent, a chytunodd hefyd i roi
ffigyrau am nifer y trosglwyddiadau heb eu cynllunio o gymuned de-ddwyrain
Cymru. |
|
|
Papurau i'w nodi |
||
|
Ymchwiliad i ofal newyddenedigol: Gwybodaeth ychwanegol gan Goleg Brenhinol y Nyrsys Cymru Dogfennau ategol: |
||
|
Trawsgrifiad |
PDF 216 KB