Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Cyswllt: Helen Finlayson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth Lynne Neagle a Keith Davies. |
||
(09:15 - 10:45) |
Craffu ar adroddiad blynyddol Estyn 2010-11 Ann Keane – Prif Arolygydd
Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru Simon Brown – Cyfarwyddwr Strategol Meilyr Rowlands – Cyfarwyddwr Strategol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y
Cadeirydd y tyst. Bu’r Aelodau’n holi’r tyst am Adroddiad Blynyddol Estyn 2010-11.
Oherwydd cyfyngiadau amser, ni ofynnwyd sawl cwestiwn, felly cytunwyd y byddai’r
Clerc yn ysgrifennu at y Prif Arolygydd yn gofyn am ei hymateb i’r materion
hyn. Cam i’w gymryd: Cytunodd y Prif Arolygydd i baratoi crynodeb o nifer o gasgliadau’r adroddiad sy’n ymwneud â’r bwlch rhwng y ddau ryw ac i’w anfon ymlaen at Gadeirydd y Pwyllgor. |
|
(10:45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn ac ar gyfer y cyfarfod ar 25 Ebrill. Cofnodion: 3.1 Derbyniodd yr Aelodau y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 25 Ebrill. |
|
(10:55 - 11:10) |
Adroddiad blynyddol Estyn: Trafod y camau nesaf Cofnodion: 4.1 Cytunodd yr Aelodau y byddant yn cyhoeddi adroddiad ar yr adroddiad blynyddol, ond nodwyd y byddai hyn yn cael ei lunio yn ystod tymor yr haf ar ôl ystyried y wybodaeth ychwanegol gan Estyn. |
|
(11:10 - 11:25) |
Gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009: Trafod yr adroddiad terfynol Cofnodion: 5.1 Cytunwyd ar yr adroddiad. |
|
(11:25 - 11:40) |
Ymchwiliad i fabwysiadu: ystyried tystion posibl Cofnodion: 6.1 Yn amodol ar rai mân-newidiadau, cytunodd yr Aelodau ar y papur. |
|
Papurau i'w nodi |
||
Gwybodaeth ychwanegol am rôl Ymwelwyr Iechyd yn rhaglen Dechrau'n Deg gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth ychwanegol am y polisi ar amddiffyn plant rhag yr haul mewn ysgolion Dogfennau ategol: |
||
Trawsgrifiad |