Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Cyswllt: Claire Morris 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

(12:45 - 13:30)

2.

Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol - Sesiwn dystiolaeth 3

Dr Sybil Barr, Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Holodd yr Aelodau’r tystion am wasanaethau newyddenedigol.

(13:30 - 14:30)

3.

Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol - Sesiwn dystiolaeth 4

Dr Iolo Doull, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru

Dr Mark Drayton, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Holodd yr Aelodau’r tystion am wasanaethau newyddenedigol.

 

Cam i’w gymryd

 

Cytunodd Dr Drayton i ysgrifennu at y Cadeirydd gyda manylion am wasanaethau allgymorth newyddenedigol a ddarperir yng Nghymru.

(14:30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn a'r cyfarfod ar 22 Chwefror

Cofnodion:

4.1 Cytunodd yr Aelodau ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill busnes y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 22 Chwefror.

(14:30 - 15:00)

5.

Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol - Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Cytunodd yr Aelodau bod angen rhagor o dystiolaeth ynghylch y mater hwn ac y byddai’r Clerc yn ysgrifennu at y byrddau iechyd lleol i geisio gwybodaeth am wasanaethau newyddenedigol. Cytunwyd hefyd y byddai’r byrddau iechyd lleol a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael eu gwahodd i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol i roi tystiolaeth.

Trawsgrifiad