Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Claire Morris
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns, Jenny Rathbone ac Aled Roberts. Roedd Mark Drakeford ac Eluned Parrott yn dirprwyo. |
||
(09:15) |
Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol - Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Nodwyd y papur gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|
(09:15 - 10:15) |
Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol - Sesiwn dystiolaeth 1 Helen Kirrane, Rheolwr Ymgyrchoedd a Pholisi, Bliss Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd y tyst. Holodd yr Aelodau’r tyst am wasanaethau newyddenedigol. Cam i’w gymryd Cytunodd Helen Kirrane i anfon cyfeiriadau i ategu’r datganiad yn ei phapur bod babanod yn cael eu rhoi mewn perygl lle nad oedd nyrs yn gofalu amdanynt drwy’r amser. |
|
(10:30 - 11:30) |
Ymchwiliad i Ofal Newyddenedigol - Sesiwn dystiolaeth 2 Coleg Brenhinol y Nyrsys Lisa Turnbull, Cynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus, Coleg Brenhinol y Nyrsys Cymru Dr Jim Richardson, Aelod o Fwrdd Coleg Brenhinol y Nyrsys Cymru dros Blant a Phobl Ifanc Cymdeithas y Nyrsys Newyddenedigol Pamela Boyd, Cymdeithas y Nyrsys Newyddenedigol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Holodd yr Aelodau’r tystion am wasanaethau newyddenedigol. Camau i’w cymryd Cytunodd Lisa Turnbull i ysgrifennu at y Cadeirydd gyda manylion am ddiffyg crudiau lefel 1. Cytunodd hefyd i ddarparu eglurhad ynghylch y cymwysterau gwahanol y gall nyrsys babanod newydd-anedig eu gwneud ynghyd â’r costau a’r amser a gymerir i hyfforddi. |
|
|
Papurau i'w nodi |
||
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch eli haul am ddim i bawb o dan 11 oed Dogfennau ategol: |
||
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ynghylch eli haul am ddim i bawb o dan 11 oed Dogfennau ategol: |
||
|
Adolygiad y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi o ofal newyddenedigol Dogfennau ategol: |
||
|
Trawsgrifiad |
PDF 234 KB