Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Claire Morris
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
||
(09:15 - 09:30) |
Iechyd y geg mewn plant yng Nghymru: Ystyried yr adroddiad terfynol Cofnodion: 2.1 Cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft ar iechyd y geg mewn plant a chytunwyd y dylid lansio’r adroddiad mewn ysgol sy’n cymryd rhan yn Cynllun Gwên. |
|
(09:30 - 10:00) |
Gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009: Ystyried y materion allweddol Cofnodion: 3.1 Ar wahân i rai awgrymiadau, cytunodd yr Aelodau ar y prif faterion a godwyd yn ystod yr ymchwiliad i weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009. |
|
(10:00 - 10:30) |
Dechrau'n Deg Ystyried y cylch gorchwyl. Cofnodion: 4.1 Yn dilyn y sesiwn graffu ar y rhaglen Dechrau’n Deg gyda’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 26 Ionawr, cytunodd yr Aelodau y byddai’n fwy priodol ailystyried y mater hwn ymhen chwe mis. |
|
(10:30 - 10:45) |
Ystyried y ddeiseb sy'n galw am roi eli haul am ddim i bawb o dan 11 oed yng Nghymru Cofnodion: 5.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i bolisi amddiffyn rhag yr haul ac i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn rhoi gwybod iddo am y penderfyniad. |
|
Papurau i'w nodi |
||
Ymchwiliad i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 - Gwybodaeth ychwanegol gan Semta Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 - gwybodaeth ychwanegol gan ConstructionWales Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 - gwybodaeth ychwanegol gan Cyngor Gofal Cymru Dogfennau ategol: |