Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Cyswllt: Claire Morris
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
||
(09:15 - 10:45) |
Gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009: Sesiwn Dystiolaeth Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau Chris Tweedale, Cyfarwyddwr Grwp - Ysgolion a Phobl Ifanc Jo-Anne Daniels, Dirprwy Gyfarwyddwr – Is-adran Cwricwlwm John Pugsley, Pennaeth y Gangen Llwybrau Dysgu 14 - 19 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion ynghylch gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ddarparu enghreifftiau o arfer gorau lle mae cydweithio’n well wedi creu arbedion ariannol. · Cytunodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ddarparu nodyn ynghylch y cynllun gliniadur peilot. · Cytunodd y Cadeirydd ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau gyda thystiolaeth ynghylch ysgolion sy’n addysgu ieithoedd tramor modern y tu allan i oriau craidd yr ysgol. |
|
(11:00 - 12:00) |
Dechrau'n Deg Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol Martin Swain, Pennaeth Is-adran y Strategaeth Plant a Phobl Ifanc Glyn Jones, Pennaeth Gwasanaethau Ystadegol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion ynghylch y rhaglen Dechrau’n Deg. Camau i’w cymryd · Cytunodd y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch teuluoedd sy’n cael Cymhorthdal Incwm sy’n rhan o’r rhaglen Dechrau’n Deg. ·
Cytunodd y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymchwilio i’r honiadau
bod byrddau iechyd lleol yn rhewi’r
broses o recriwtio ymwelwyr
iechyd generig o ganlyniad i’r gyllideb
ar gyfer ymwelwyr iechyd ychwanegol sydd ar gael yn
y rhaglen Dechrau’n Deg. |
|
(12:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn ac ar gyfer y cyfarfod ar 1 Chwefror 2012: Cofnodion: 4.1 Cytunodd yr Aelodau ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer y cyfarfod ar 1 Chwefror. |
|
(12:00 - 12:30) |
Iechyd y Geg mewn Plant yng Nghymru Ystyried yr adroddiad drafft Cofnodion: 5.1 Yn amodol ar wneud rhai mân newidiadau, cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft ar Iechyd y Geg mewn Plant. |
|
(12:30 - 12:45) |
Yr ymchwiliad i fabwysiadau - Penodi cynhghorydd arbenigol Cofnodion: 6.1 Cytunodd yr Aelodau ar benodi cynghorydd arbenigol er mwyn cynorthwyo â’r ymchwiliad i fabwysiadu. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth gan Addysg Uwch Cymru Dogfennau ategol: |
||
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod. |