Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd

Cyswllt: Claire Morris 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

(09:30 - 10:15)

2.

Gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009: sesiwn dystiolaeth

 

Cynghorau Sgiliau Sector

 

Sioned Williams – Gofal a Datblygu

Gareth Williams – SgiliauAdeiladu

Bill Peaper – Semta

Tony Leahy - Semta

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion ynghylch gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

 

Cam i’w gymryd:

 

Cytunodd Sioned Williams i ddarparu rhagor o wybodaeth am pam fod rhai awdurdodau lleol yn recriwtio gweithwyr cymdeithasol o du allan i’r Deyrnas Unedig pan ei bod yn ymddangos fod colegau yng Nghymru yn hyfforddi niferoedd digonol o weithwyr cymdeithasol.

(10:30 - 11:30)

3.

Gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009: sesiwn dystiolaeth

 

Cyngor Sir Ceredigion

 

Eifion Evans, Cyfarwyddwr yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cymunedol

Arwyn Thomas, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cymunedol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion ynghylch gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

(11:30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

 

Bydd yr Aelodau’n ystyried y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd yr Aelodau ar y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

(11:30 - 11:40)

5.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Lles

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr ymateb gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i baratoi a chyflwyno adroddiad byr erbyn 20 Ionawr.

(11:40 - 12:00)

6.

Yr ymchwiliad i fabwysiadau: dulliau o weithio

Cofnodion:

6.1 Cytunodd yr Aelodau mewn egwyddor i benodi cynghorydd arbenigol i gynorthwyo â’r ymchwiliad hwn a gwnaethant gais am bapur erbyn y cyfarfod nesaf.

7.

Papurau i'w nodi

7a

Gwybodaeth ychwanegol am weithrediadau ar lefel yr UE yn erbyn masnachu rhywiol plant (fel y nodwyd yn y cyfarfod ar 1 Rhagfyr 2011) (Saesneg yn unig)

Dogfennau ategol:

7b

Gwybodaeth ychwanegol gan Llywodraethwyr Cymru (fel y nodwyd yn y cyfarfod ar 7 Rhagfyr 2011) (Saesneg yn unig)

Dogfennau ategol:

7c

Gwybodaeth ychwanegol gan ColegauCymru (fel y nodwyd yn y cyfarfod ar 7 Rhagfyr 2011) (Saesneg yn unig)

Dogfennau ategol:

7d

Gwybodaeth gan Sefydlwyd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Dogfennau ategol:

Trawsgrifiad