Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Claire Morris
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd
bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(09:16 - 09:45) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion Ewropeaidd Gregg Jones – Y Gwasanaeth Ymchwil (drwy gynhadledd fideo) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y Pwyllgor y newyddion diweddaraf am faterion Ewropeaidd sy’n effeithio ar bortffolio’r Pwyllgor. Camau i’w cymryd: ·
Y
Gwasanaeth Ymchwil i roi rhagor o wybodaeth
am yr ystadegau am bobl ifanc nad oedd mewn addysg, cyflogaeth
na hyfforddiant yn 2010. ·
Y
Gwasanaeth Ymchwil i roi rhagor o wybodaeth
am gydweithio traws-Ewropeaidd
i atal masnachu mewn plant. ·
Y
Gwasanaeth Ymchwil i roi rhagor o wybodaeth
am arfer gorau yn Ewrop ar
y ddarpariaeth o sgiliau peirianyddol (gan gynnwys dysgu yn
seiliedig ar waith). |
|
(10:00 - 11.00) |
Gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009: Sesiwn Dystiolaeth Ffederasiwn
Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru Arwyn Watkins – Cadeirydd, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru Rachel Searle - Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru Ffederasiwn Busnesau
Bach Iestyn Davies - Ffederasiwn Busnesau Bach Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Holodd yr Aelodau y tystion am weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009. Camau i’w cymryd: · Cytunodd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru i roi rhagor o wybodaeth am pa mor aml y caiff eu haelodau eu gwahodd i ymuno â phwyllgorau cynllunio Rhwydweithiau 14-19 ac i gyfrannu at gynllunio’r ddarpariaeth 14-19 yn ardal y Rhwydwaith. |
|
(11:00 - 11:45) |
Gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009: Sesiwn Dystiolaeth Gyrfa Cymru Joyce M’Caw – Prif Weithredwr, Gyrfa Cymru Gogledd-ddwyrain Cymru Steve Hole – Uwch-reolwr, Gyrfa Cymru Morgannwg Ganol a Phowys Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Holodd yr Aelodau y tystion am weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009. Camau i’w cymryd: · Cytunodd Gyrfa Cymru i gytuno i wirio a yw ysgolion dwy ffrwd yn wynebu anawsterau i gynnig yr ystod lawn o ddewisiadau. · Cytunodd Gyrfa Cymru i roi’r ffigurau o gyflogwyr mewn sesiynau yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer Cymru gyfan ac hefyd i roi rhai enghreifftiau o brospectysau cyffredin. · Cytunodd Gyrfa Cymru i roi gwybodaeth am y gwaith y mae Prifysgol Warwick yn ei wneud i ddiweddaru gwefan Gyrfaoedd Cymru gyda gwybodaeth am y farchnad lafur. |
|
(11:45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn: Cofnodion: 5.1 Cytunodd yr
Aelodau ar gynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
|
(11:46 - 12:15) |
Trafod y flaenraglen waith Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau yr amserlen ddrafft ar gyfer tymor y Gwanwyn. |
|
Papurau i'w nodi Gohebiaeth oddi
wrth y Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau ynghylch gweithredu Mesur Dysgu
a Sgiliau (Cymru) 2009, ar ôl cyfarfod y Pwyllgor ar 17 Tachwedd (Saesneg yn
unig) Rhagor o
wybodaeth oddi wrth John Fabes, Cydgysylltydd rhwydwaith 14-19 Caerdydd,
ynghylch gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, ar ôl cyfarfod y
Pwyllgor ar 9 Tachwedd (Saesneg yn unig) Llythyr oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol (31.10.11) ynghylch materion yn ymwneud ag iechyd plant (Saesneg yn unig) Llythyr oddi wrth
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (31.10.11) ynghylch rôl nyrsys
ysgol (Saesneg yn unig) Llythyr oddi wrth
y Gweinidog Addysg a Sgiliau (02.11.11) ynghylch gwariant awdurdodau lleol ar
addysg feithrin (Saesneg yn unig) Llythyr oddi wrth
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Plant a
Gwasanaethau Cymdeithasol (03.11.11) ynghylch gwariant ar ddarparu cadeiriau
olwyn i blant a gwasanaethau plant a theuluoedd (Saesneg yn unig) Llythyr oddi wrth
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (03.11.11) gydag adroddiad
cynnydd ar ganllawiau i weithwyr profesiynol ynghylch asesu anghenion iechyd
plant (Saesneg yn unig) Llythyr oddi wrth
y Gweinidog Addysg a Sgiliau (15.11.11) ynghylch y prif grŵp gwariant
addysg a sgiliau yn y gyllideb ddrafft (Saesneg yn unig) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. |
||
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod. |