Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

2.

Ymchwiliad i Iechyd y Geg mewn Plant yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth

Huw Bennett, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Hugh Bennett i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tyst.

3.

Craffu ar waith y Gweinidog: Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Tony Jewell - Prif Swyddog Meddygol
Chris Jones – Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru a’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y Gweinidog.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am:

 

-        y sylwadau anghyson a wnaed gan Goleg Brehinol y Bydwragedd ynghylch niferoedd y bydwragedd yng Nghymru;

 

-        lle mae problemau recriwtio mewn gwasanaethau newyddenedigol;

 

-        nifer y gwelyau ar gyfer mamau â babannod sy’n dioddef o iselder ôl-enedigol;

 

-        enwaedu benywod;

 

-        y gwerthusiad o effeithiolrwydd y rhaglen MEND (Mind, Exercise, Nutrition...Do It!) yng Nghymru.

 

3.3 Cytunodd y Cadeirydd i anfon y cwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y cyfarfod at y Gweinidog. 

 

 

4.

Ymchwiliad i Iechyd y Geg mewn Plant yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth

Mechelle Collard, Cymdeithas Deintyddol Pediatrig Prydain

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeiryddd Mechelle Collard a Shannu Bhatia i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.

 

 

5.

Ymchwiliad i Iechyd y Geg mewn Plant yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth

Nigel Monaghan, Cymdeithas Prydain ar gyfer Astudio Deintyddiaeth Gymunedol

Maria Morgan, Cymdeithas Prydain ar gyfer Astudio Deintyddiaeth Gymunedol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Croesawodd y Cadeirydd Nigel Monaghan a Maria Morgan i’r cyfarfod.  Holodd yr Aelodau y tystion.

6.

Papurau i'w nodi

CYP(4)-03-11 Papur 5 - Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi

Trawsgrifiad