Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Morris 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns.

(09:16 - 10:15)

2.

Gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009: Sesiwn Dystiolaeth

Llywodraethwyr Cymru

Terry O’Marah – Cadeirydd Llywodraethwyr Cymru

Hugh Pattrick – Is-Gadeirydd Llywodraethwyr Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Holodd yr Aelodau’r tystion ynghylch gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

 

Camau i’w cymryd:

Bydd Llywodraethwyr Cymru yn darparu gwybodaeth ychwanegol am sut y mae ysgolion ffydd yn bodloni’r gofynion o ran cydweithio a gweithio mewn partneriaeth, ac am nifer y cyrff llywodraethu a sefydlwyd yng Nghymru ers cyflwyno’r Mesur.

 

(10:30 - 11:30)

3.

Gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009: Sesiwn Dystiolaeth

ColegauCymru

 

John Graystone, Prif Weithredwr ColegauCymru

Mark Jones, Pennaeth Coleg Penybont ac Uwch Is-gadeirydd ColegauCymru

Ian Dickson, Is-bennaeth, Cwricwlwm, Cynllunio ac Ansawdd, Coleg Glannau Dyfrdwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Holodd yr Aelodau’r tystion ynghylch gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

 

Camau i’w cymryd:

Cytunodd ColegauCymru i gynnal arolwg i gadarnhau faint o rwydweithiau sy’n paratoi un prosbectws ar gyfer addysg ôl-16, a chytunodd y byddai’n rhoi enghreifftiau i ddangos sut y mae colegau’n manteisio ar addysgu digidol a thechnoleg newydd.

(11.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd yr Aelodau ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill busnes y cyfarfod.

(11.30-11.35)

5.

Ystyried y cylch gorchwyl

Ystyried y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad yn y dyfodol i fabwysiadu.

Cofnodion:

5.1 Cytunodd yr Aelodau ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad i fabwysiadu, sydd i’w gynnal yn y dyfodol.

6.

Papur i'w nodi

Gwybodaeth atodol gan Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) a Chymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT) ar ôl iddynt ymddangos o flaen y Pwyllgor ar 17 Tachwedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

Trawsgrifiad