Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Claire Morris
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | |
---|---|---|---|
(09:15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
||
(09.16 - 10.15) |
Gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009: Sesiwn Dystiolaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru Dr Chris Llewelyn – Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru) Karl Napieralla – Cyfarwyddwr Addysg, Castell-nedd Port Talbot (Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru)
Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion ynghylch gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009. Camau i’w cymryd · Cytunodd Karl Napieralla i ddarparu nodyn ynghylch sut mae Awdurdod Addysg Lleol Castell-nedd Port Talbot wedi trefnu i gydweithio ag eraill · Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu gwybodaeth am sut mae’r holl awdurdodau addysg lleol yng Nghymru wedi mynd i’r afael â’r mater o gydweithio, ac yn enwedig sut mae ysgolion a cholegau yn cydweithio’n effeithiol. · Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn i’r holl awdurdodau addysg lleol ddarparu rhagor o fanylion am faterion teithio a thrafnidiaeth er mwyn cael darlun cliriach ar lefel genedlaethol. |
||
(10.30 - 11.15) |
Gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009: Sesiwn Dystiolaeth Estyn Ann Keane – Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru Meilyr Rowlands - Cyfarwyddwr Strategol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion ynghylch gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009. |
||
(11.15 - 11.16) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn: Cofnodion: 4.1 Cytunodd yr Aelodau ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer gweddill y cyfarfod. |
||
(11.16 - 11.45) |
Ymchwiliad i iechyd y geg - ystyried y prif faterion Cofnodion: 5.1 Bu’r Aelodau yn trafod y prif faterion a godwyd yn ystod yr ymchwiliad i iechyd y geg gan nodi y bydd argymhellion drafft ar gael iddynt i’w hystyried yn y cyfarfod ar 7 Rhagfyr. |
||
(11.45 - 12.00) |
Trafod y flaenraglen waith Cofnodion: 6.1 Bu’r Aelodau yn trafod yr awgrymiadau ar gyfer ymchwiliadau i’r dyfodol gan nodi y bydd y Clerc yn paratoi amserlen ddrafft ar gyfer tymor y gwanwyn i’r Pwyllgor ei hystyried. |
||
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod. |