Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Claire Morris
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, Ymddiheuriadau a Dirprwyon Cofnodion: 1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau. Croesawodd y Cadeirydd Aled Roberts i’w gyfarfod swyddogol cyntaf o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc. |
|
Ymchwiliad i Iechyd y Geg mewn Plant yng Nghymru: Sesiwn Dystiolaeth ( 9:20 -10:00) Dr Sue Greening, Cadeirydd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain - Cyngor Cymru Stuart Geddes, Cyfarwyddwr Cymdeithas Ddeintyddol Prydain Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr Sue Greening a Stuart Geddes i’r cyfarfod. Holwyd y tystion gan Aelodau. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion er mwyn gofyn y cwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y cyfarfod. |
|
Rhwydwaith Dechrau'n Deg - Trafod y Prif Faterion (10:00 - 11:15) Karen Jones; Rheolwr Dechrau’n Deg, Gogledd Cymru Nia McIntosh; Rheolwr
Dechrau’n Deg, Gorllewin Cymru Fran Dale; Rheolwr Dechrau’n Deg, Dwyrain Cymru Chris Koukos; Rheolwr Dechrau’n Deg, De Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion i’r cyfarfod. Holwyd y tystion gan Aelodau. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Blant yng Nghymru ynghylch y mater yn ymwneud â’r gofrestr amddiffyn plant a godwyd ym mhapur y sefydliad. 3.3 Cytunodd cydgysylltwyr Dechrau’n Deg i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor ar yr elfennau y gellid eu cynnwys wrth greu fersiwn lai o Dechrau’n Deg. 3.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion er mwyn gofyn y cwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y cyfarfod. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Cynigiodd y Cadeirydd gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod er mwyn trafod materion yn ymwneud â threfniadau mewnol y Pwyllgor. 4.2 Derbyniwyd y cynnig gan y Pwyllgor. |
|
Trafod y Flaenraglen Waith (11:15 - 12:00) Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor bynciau posibl ar gyfer ei waith yn y dyfodol. |
|
Papurau i'w nodi Gohebiaeth gan Gwenda
Thomas, Y Dirprwy
Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Ynghylch Cyfarfod y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar 14 Gorffennaf
2011
Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod. |