Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones, Bethan Jenkins, Aled Roberts, Lynne Neagle a Suzy Davies.  Nid oedd neb yn dirprwyo ar eu rhan.

09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Papur briffo ar ddarparu'r Gwasanaethau ar lefel gofal sylfaenol

Carol Shillabeer, Prif Weithredwr - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Shane Mills, Arweinydd Clinigol ar gyfer Comisiynu ar y Cyd

Cofnodion:

Cafodd y pwyllgor wybodaeth briffio ar y ddarpariaeth gofal sylfaenol.

(10.30 - 11.00)

3.

Trafodaeth ar yr Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi

CYPE(4)-25-15 – Papur preifat 1

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor bapur ar yr ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi.  Bydd yr adroddiad drafft yn cael ei drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.

(11.00 - 11.30)

4.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2016-17 : trafod llythyrau cyllideb drafft

CYPE(4)-25-15 – Papur preifat 2

CYPE(4)-25-15 – Papur preifat 3

CYPE(4)-25-15 – Papur preifat 4

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar lythyrau cyllideb drafft.

(11.30 - 12.00)

5.

Trafod y ffordd o ystyried y Bil Cymru drafft

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei ffordd o ystyried y Bil Cymru drafft.  Caiff papur ei drafod yn y cyfarfod nesaf.