Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins, John Griffiths a Lynne Neagle.

(09.30 - 11.00)

2.

Ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed - Sesiwn friffio ar yr adroddiad ar gyfnod un yr adolygiad rhagnodi

Dr Ann John, Athro Cyswllt Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe

 

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Dr Ann John ar dueddiadau rhagnodi.

(11.00 - 11.30)

3.

Ymchwiliad i Athrawon Cyflenwi - Trafod y prif faterion

CYPE(4)-17-15 – Papur preifat 1

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y prif faterion.  Bydd y Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft yn y cyfarfod a gynhelir ar 2 Gorffennaf.