Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns; nid oedd neb yn dirprwyo ar ei rhan.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Rebecca Evans am ei gwaith caled yn ystod ei hamser fel aelod o'r Pwyllgor.   

(09.30 - 10.30)

2.

Y Bil Addysg Uwch (Cymru) - Sesiwn dystiolaeth 7

CYPE(4)-19-14 – Papur 1

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Neil Surman, Pennaeth Yr Is-Adran Uwch
Grace Martins, Cyfreithiwr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil, sef y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a'i swyddogion.

Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y materion a ganlyn:

Nid yw'r Bil, fel y'i drafftiwyd, yn cynnwys gofyniad i Weinidogion Cymru nodi bod yr holl reoliadau penodedig yn rhai sydd yn 'rhaid' eu dilyn.  Felly, a all y Gweinidog gadarnhau bod gan y Bil ddarpariaeth ddeddfwriaethol ddigonol i alluogi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ymgymryd â phob un o'i swyddogaethau yn effeithiol a rhoi holl fwriadau polisi Llywodraeth Cymru ar waith?

Eglurhad ar y pwyntiau a godwyd yn nhystiolaeth Addysg Uwch Cymru ynghylch y pŵer i wrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad;

 

Diffiniad o'r hyn y mae'r term 'darparu' yn ei olygu yn adran 17, ac eglurhad ar y rhaglenni sy'n cael eu dilysu dramor: cyrsiau sy'n cael eu dilysu gan sefydliad o Gymru / cyrsiau sy'n cael eu dilysu gan sefydliad tramor sydd y tu allan i Gymru ond nid yw o reidrwydd yn sefydliad sydd wedi'i freinio.

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

3.1

Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn dilyn y cyfarfod ar 5 Mehefin 2014

CYPE(4)-19 -14 – Papur i'w nodi 2

Dogfennau ategol:

3.2

Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid

CYPE(4)-19-20 – Papur i’w nodi 3

Dogfennau ategol:

3.3

Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

CYPE(4)-19-20 – Papur i’w nodi 4

Dogfennau ategol:

(10.30 - 11.00)

5.

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

CYPE(4)-19-14 – Papur preifat 5

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith.