Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns a Lynne Neagle; nid oedd dirprwy yno ar eu rhan.

(09.30 - 10.30)

2.

Y Bil Addysg Uwch (Cymru) - Sesiwn dystiolaeth 2

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

CYPE(4) – 16 – 14 – Papur 1

 

Dr David Blaney, Prif Weithredwr

Celia Hunt, Cyfarwyddwr Datblygu Strategol

Bethan Owen, Pennaeth Ymgysylltu Sefydliadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan CCAUC.  Cytunwyd i ddarparu'r canlynol:

 

Eu hasesiad effaith a;

 

Dadansoddiad manwl o beth y caiff adnoddau CCAUC eu gwario arnynt. 

(10.30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 4

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(10.30 - 11.30)

4.

Ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed - Trafod y dystiolaeth

CYPE(4)-16-14 – Papur preifat 2

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at bob bwrdd iechyd lleol yn gofyn am ragor o wybodaeth a chytunwyd i wahodd y Gweinidog i roi tystiolaeth cyn diwedd y tymor. 

5.

Papur i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

5.1

Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

CYPE(4)-16-14 – Papur i’w nodi 3

Dogfennau ategol: