Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns AC.

 

 

(09.30 - 11.30)

2.

Y Bil Addysg Uwch (Cymru) - Sesiwn dystiolaeth 1

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

 

Bil Addysg (Cymru), fel y’i cyflwynwyd a Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil, y Gweinidog Addysg a Sgiliau a'i swyddogion.

Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r nodyn am y canlynol:

 

  • A yw swyddogaethau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) wedi'u cynnwys yn y fframwaith rheoleiddio diwygiedig;

 

  • Y costau sydd ynghlwm wrth y Bil yn awr ac yn y dyfodol;

 

  • Esboniad o'r ffordd y bydd y Bil yn effeithio ar ddarparwyr addysg uwch sy'n cynnig cyrsiau rhan-amser yn bennaf;

 

  • Y trefniadau gweithredu rhwng ysgolion meddygol i raddedigion yng nghogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr;

 

  • Y gwaith o ddarparu addysg uwch a'r berthynas rhwng CCAUC a'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch.   

 

 

 

(11.30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 4 a 5

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.30 - 12.00)

4.

Craffu ar y Bil Cymwysterau (Cymru) cyn y broses ddeddfu - trafod y prif faterion

CYPE(4)-15-14 – Papur preifat 1

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y prif faterion. Byddai'r Pwyllgor yn trafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol. 

 

(12.00 - 12.30)

5.

Ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) - Trafod y dystiolaeth

CYPE(4)-15-14 – Papur preifat 2

Cofnodion:

Trafodir yr eitem hon yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.

 

6.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd yr ohebiaeth.

 

6.1

Penodi Comisiynydd Plant Cymru yn 2015 – Llythyr gan y Llywydd

CYPE(4)-15-14 - Papur i’w nodi 3

Dogfennau ategol: