Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
09.30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor. Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle; nid
oedd dirprwy yno ar ei rhan. |
|
(09.30 - 11.00) |
Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog: Y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi Llywodraeth
Cymru CYPE(4)-04-14
– Papur 1 Vaughan
Gething AC, y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi Martin Swain, Dirprwy Gyfarwyddwr Plant, Pobl Ifanc a
Theuluoedd Kate Cassidy, Cyfarwyddwr yr Adran Cymunedau a Threchu Tlodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy
Weinidog. Cytunodd i ddarparu nodyn ar y
canlynol: Dechrau’n deg y gwaith a
gyflawnwyd gan yr Athro Edward Melhuish; rhoi’r rhaglen ar
waith, y broses, a rôl Rheolwyr Cyfrif; nifer y plant sy’n
elwa yn sgîl pob un o’r pedair elfen o’r rhaglen (a chanran cyfanswm nifer y
rhai sy’n elwa yn sgîl Dechrau’n Deg); unrhyw wybodaeth
arall am gyfrif plant ddwywaith yng nghyfanswm nifer y plant sy’n elwa yn sgîl
Dechrau’n Deg. Teuluoedd yn Gyntaf Y canlyniadau penodol ar gyfer y plant a theuluoedd y bydd
y broses o werthuso Teuluoedd yn Gyntaf yn eu mesur; Pa ddyddiad y bydd y gyfres gyntaf o ddata sy’n mesur
tystiolaeth o ran bwrw ymlaen â’r canlyniadau hyn yn cael ei chyhoeddi. Chwarae Y cydweithio sy’n digwydd rhwng ysgolion cynradd ac
ysgolion uwchradd o ran cyfleusterau chwarae. Cytunodd y Pwyllgor i anfon y cwestiynau na chawsant eu
gofyn yn ystod y sesiwn i gael ymateb ysgrifenedig iddynt. |
|
(11.00 - 11.30) |
Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor CYPE(4)-04-14 – Papur preifat
2 Cofnodion: Bu’r Pwyllgor
yn trafod ei flaenraglen waith. |
|
(11.30 - 12.15) |
Ymchwiliad i ordewdra ymysg plant - Ystyried y prif faterion CYPE(4)-04-14
– Papur preifat 3 Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft. Caiff yr
adroddiad drafft ei drafod eto yn y cyfarfod ar 5 Mawrth. |
|
Gwybodaeth ychwanegol ar gyfer y Pwyllgor |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed CYPE(4)-04-14 – Papur Preifat
4 |
||
Adroddiad: Gwerthusiad Cenedlaethol o Dechrau’n Deg: adroddiad effaith Dogfennau ategol: |