Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor i'r cyfarfod.  Ni chafwyd ymddiheuriadau.

(09.25 - 10.25)

2.

Sesiwn friffio ffeithiol ar y Papur Gwyn: Deddfwriaeth i sefydlu corff cymwysterau newydd i Gymru

Llywodraeth Cymru

CYPE(4)-02-14 – Papur preifat 1

 

Kate Crabtree, Pennaeth yr Is-adran Rheoleiddio a Chymwysterau

Cassy Taylor, Pennaeth Cymwysterau Cymru - Cangen Pontio

Cofnodion:

Briffiodd swyddogion Llywodraeth Cymru'r Pwyllgor ar eu hymgynghoriad diweddar ar ddeddfwriaeth i sefydlu Cymwysterau Cymru a'u cynlluniau ar gyfer y Bil.

(10.30 - 11.30)

3.

Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad ar Wasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a'r Glasoed: Adolygiad Dilynol o Faterion Diogelwch

Swyddfa Archwilio Cymru

CYPE(4)-02-14 – Papur preifat 2

 

Steve Ashcroft, Rheolwr - Astudiaethau Cenedlaethol

Paul Dimblebee, Cyfarwyddwr
Rhys Jones, Pennaeth Ymchwiliadau, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

 

Cofnodion:

Briffiodd Swyddfa Archwilio Cymru'r Pwyllgor ar yr adroddiad a gyhoeddwyd ganddi yn ddiweddar ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed:  Adolygiad Dilynol o Faterion Diogelwch