Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r
cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(09.30 - 10.30) |
Ymchwiliad i ordewdra ymysg plant - Sesiwn dystiolaeth 3 Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru CYP(4)-01-14
– Papur 1 Dr
Chris Llewelyn, Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Peter
Gomer, Arweinydd Polisïau Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Daisy
Seabourne, Rheolwr Polisïau Dysgu Gydol Oes Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Cytunodd y
gymdeithas i ddarparu'r wybodaeth ganlynol: Llwybr
Gordewdra Cymru Gyfan Enghreifftiau
o gynllunio integredig rhwng awdurdodau lleol, partneriaid iechyd a sefydliadau
trydydd sector, ac unrhyw fframwaith gwerthuso, os oes un ar gael. Tystiolaeth
bellach o'r rhaglenni addysgol ac ysgogol sydd ar gael i deuluoedd. Y
gynrychiolaeth gan lywodraeth leol ar fyrddau partneriaeth. Rhaglen Mesur
Plant Prosesau sydd
ar waith i rannu gwybodaeth rhwng awdurdodau lleol ac ardaloedd Dechrau'n Deg,
gan gynnwys gwybodaeth am ddulliau i ymdrin ag achosion unigol. Newid am
Oes Rhagor o
wybodaeth am weithredu ei chwaer-gynllun, sef Dechrau am Oes. Blas am Oes Canran y
plant ysgol yng Nghymru sy'n cael prydau ysgol. Sut y
gallai'r goblygiadau adnoddau presennol sydd ar awdurdodau lleol effeithio ar y
rhaglenni gordewdra presennol. |
|
(10.30 - 11.30) |
Ymchwiliad i ordewdra ymysg plant - Sesiwn dystiolaeth 4 Llywodraeth
Cymru CYP(4)-01-14
– Papur 2 Mark
Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr
Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog a'r Prif Swyddog Meddygol. Cytunodd y Pwyllgor i anfon y cwestiynau na
chawsant eu gofyn yn ystod y sesiwn i gael ymateb ysgrifenedig iddynt. |
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: Nodwyd y
papurau. |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiynydd Plant Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 6 Tachwedd CYP(4)-01-14
– Papur i'w nodi 3 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch Adroddiad y Pwyllgor ar Fuddsoddi Cyfalaf mewn Ysgolion CYP(4)-01-13
– Papur i'w nodi 4 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ynghylch cael gwared ar ddarpariaethau AAA o'r Bil Addysg (Cymru) CYP(4)-01-14
– Papur i'w nodi 5 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Jonathan Edwards AS ynghylch y Bil Addysg (Cymru) CYP(4)-01-14
– Papur i'w nodi 6 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ynghylch y Bil Addysg (Cymru) – Rhan 2; Cyngor y Gweithlu Addysg CYP(4)-01-14
– Papur i'w nodi 7 Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar y cynnig. |
||
(11.30 - 12.00) |
Blaenraglen Waith y Pwyllgor CYP(4)-01-14
– Papur Preifat 8 – Y Flaenraglen Waith Cofnodion: 7.1
Bu’r Pwyllgor yn ystyried ei flaenraglen waith. Cytunwyd ar y cylch gorchwyl ar
gyfer ei ymchwiliad nesaf i wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. |