Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(09.30 - 10.30) |
Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog CYP(4)-26-13
– Papur 1 Jeff Cuthbert,
y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Vaughan
Gething, y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi Peter Jones, Pennaeth Cyllid Martin Swain, Dirprwy Gyfarwyddwr Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog, y Dirprwy Weinidog a’u swyddogion i’r cyfarfod. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn: Enghreifftiau o’r gwaith arbed costau sy’n mynd rhagddo i sicrhau bod Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn cael ei weithredu’n llawn, a dadansoddiad o’r gost o weithredu’r Mesur pan fo hynny ar gael; Gwybodaeth am yr arian a ddyrennir i Weinidogion eraill er mwyn gweithredu dyletswyddau newydd o dan y Mesur; Eglurder o ran yr arian a ddyrennir er mwyn bodloni’r argymhellion eiriolaeth a gyflwynwyd dros y blynyddoedd diwethaf; Ymatebion ysgrifenedig i’r cwestiynau na chawsant eu gofyn. |
|
(10.30 - 11.30) |
Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog CYP(4)-26-13
– Papur 2 Huw Lewis,
y Gweinidog Addysg a Sgiliau Ken Skates,
y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Owen Evans,
Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Adran Addysg a Sgiliau Jo-Anne
Daniels, Cyfarwyddwr Dros Dro, Isadeiledd, Cwricwlwm, Cymwysterau a Chymorth i
Ddysgwyr Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog, y Dirprwy Weinidog a’u swyddogion i’r cyfarfod. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn: Eglurhad o’r arian a ddyrennir
ar gyfer llythrennedd a rhifedd o’r llinell wariant yn y Gyllideb ar gyfer y cwricwlwm
ac asesu; Rhagor o wybodaeth am yr is-grŵp a grewyd i ystyried
effaith y toriadau ym maes Addysg Bellach ar lefelau staffio a’r asesiad a gynhaliwyd
o’r effaith ar gydraddoldeb; Ymatebion ysgrifenedig i’r cwestiynau na chawsant eu gofyn. |
|
(11.30 - 12.30) |
Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog CYP(4)-26-13
– Papur 3 Mark
Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Gwenda Thomas,
y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Osland,
Dirprwy Cyfarwyddwr Cyllid, CGIGC David Sissling, Cyfarwyddwr Gyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog, y Dirprwy Weinidog a’u swyddogion i’r cyfarfod. |