Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Claire Morris  / Deddfwriaeth: Steve George

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru): Cyfnod 1 – Sesiwn dystiolaeth 8

Tyst: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

 

- Graeme Walker, Cadeirydd y Pwyllgor Dosbarthu Cyfrifon Cenedlaethol

- Phil Stokoe, Dosbarthu Cyfrifon Cenedlaethol, Yr Is-adran Sector Cyhoeddus a Chartrefi, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

 

Dogfennau atodol:

CYP(4)-19-13(p1) Dosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol

 

 

Cofnodion:

Yn seiliedig ar benderfynaid y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 13 Mehefin 2013, yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vii), bu’r Pwyllgor yn ystyried yr eitem hon mewn sesiwn breifat.

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle AC a Suzy Davies AC. Nid oedd dirprwyon. Roedd Jocelyn Davies yn bresennol yn y cyfarfod o dan Reol Sefydlog 17.49.

3.

Y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru): Cyfnod 1 – Sesiwn dystiolaeth 9

Tyst:

 

 

- Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru

 

- Andrew Clark, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Llywodraeth Cymru

 

- Grace Martins, Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

 

 

Cofnodion:

3.1 Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau. Roedd swyddogion y Gweinidog yn bresennol gydag ef.

4.

Papurau i'w nodi

Papurau i’w nodi

 

Dogfennau ategol:

CYP(4)-19-13 (p2) – Tystiolaeth ychwanegol gan Colegau Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd y dystiolaeth atodol a gyflwynwyd gan ColegauCymru ei nodi gan y Pwyllgor.

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) a (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6 ar yr agenda hwn ac o'r cyfarfodydd ar 27 Mehefin 2013, 3 Gorffennaf 2013 ac 11 Gorffennaf 2013.

 

Eitem 6

 

Y cyfarfodydd ar:

27 Mehefin 2013;

3 Gorffennaf 2013; ac

11 Gorffennaf 2013.

 

 

Cofnodion:

5.1 Penderfynodd y Pwyllgor, yn unol â Rheolau Sefydlog 17.42(ix) a (vi), gyfarfod yn breifat ar gyfer eitem 5 ar yr agenda presennol ac ar gyfer y cyfarfodydd ar 3 Gorffennaf 2013 a 11 Gorffennaf 2013.

6.

Y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru): Ystyried tystiolaeth heddiw

Eitem 6

Sesiwn breifat

 

 

Cofnodion:

6.1 Bu’r pwyllgor yn ystyried yr eitem hon mewn sesiwn breifat.