Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Cyswllt: Polisi: Claire Morris / Legislation: Elizabeth Wilkinson
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
|
Trawsgrifiad |
||
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns. Nid oedd dim dirprwyon yn bresennol. |
||
(09.15-10.15) |
Ymchwiliad i ofal newyddenedigol Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog
Meddygol Cymru Heather Payne, Uwch Swyddog
Meddygol, Iechyd Mamau a Phlant Mark Partridge, Gwasanaethau Cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i swyddogion i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion. Camau i’w cymryd Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth ar y cwestiwn ynghylch a yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnwys enwau staff nyrsio sydd wedi cael eu gwahardd o’r gwaith neu sy’n absennol o’r gwaith am gyfnod hir oherwydd salwch ar rotas. Cytunodd y Gweinidog i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau y rhaglen wasanaeth ar gyfer rhieni a chymunedau mewn perthynas â gofal newyddenedigol. |
|
(10.30-11.30) |
Ymchwiliad i ofal newyddenedigol Mark Drayton, Neonatolegydd Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol, Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru Daniel Phillips, Cyfawyddwr Gweithredol Cynllunio ar gyfer Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr Mark Drayton a Mr Daniel Phillips i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion. Camau i’w cymryd Cytunodd y tystion i ddarparu’r
ffigurau staff meddygol a nyrsio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer
mis Gorffennaf 2012. Cytunodd y tystion i ddarparu’r
ffigurau diweddaraf ar gyfer nifer
y genedigaethau o fewn ardal Bwrdd Iechyd
Prifysgol Caerdydd a’r Fro. |
|
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Ôl-gyfarfod a thrafodaeth ar gylch gorchwyl ymchwiliad nesaf y Pwyllgor. Cofnodion: 4.1 Cytunwyd ar y cynnig. |
PDF 346 KB