Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Cyswllt: Polisi: Claire Morris / Legislation: Elizabeth Wilkinson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns a Julie Morgan. Nid oedd dim dirprwyon yn bresennol. |
||
(09.15-10.30) |
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2011-2012 Estyn Ms Ann Keane, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol Meilyr Rowlands, Cyfarwyddwr Strategol http://www.estyn.gov.uk/download/publications/268359/ar-2011-2012-compendium/ Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Ms Ann Keane, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru; Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol; a Meilyr Rowlands, Cyfarwyddwr Strategol, i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion. Cam i’w gymryd: Cytunodd y Pwyllgor i anfon cwestiynau ychwanegol gan yr Aelodau, a chytunodd y tystion i’w hateb ac i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor. |
|
(10.45-11.30) |
Ymchwiliad i Bresenoldeb ac Ymddygiad - Sesiwn dystiolaeth Estyn Ms Ann Keane, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol Meilyr Rowlands, Cyfarwyddwr Strategol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd Ms Ann Keane, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru; Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol; a Meilyr Rowlands, Cyfarwyddwr Strategol, yn ôl i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion. Cam i’w gymryd: Cytunodd y Pwyllgor i anfon cwestiynau ychwanegol gan yr Aelodau, a chytunodd y tystion i’w hateb ac i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor. |
|
(11.30-12.15) |
Ymchwiliad i Bresenoldeb ac Ymddygiad - Sesiwn dystiolaeth SNAP Cymru Caroline Rawson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Croesawodd y Cadeirydd Caroline Rawson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol SNAP Cymru, i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tyst. Cam i’w gymryd: Cytunodd y tyst i ddarparu gwybodaeth ychwanegol, gan gynnwys ffigurau ar waith achos yn ymwneud â phresenoldeb ac ymddygiad, i’r Pwyllgor. |
|
(12.15-12.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod |