Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Cyswllt: Polisi: Claire Morris
/ Legislation: Sarah Beasley
Eitemau
Amseriad disgwyliedig |
Rhif |
Eitem |
1. |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cofnodion:
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
|
2. |
Graddau TGAU Saesneg Iaith Haf 2012
CBAC
Gareth Pierce, Prif Weithredwr
Jo Richards, Pennaeth Ymchwil
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Gareth Pierce a Jo Richards i’r
cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.
Camau i’w cymryd:
·
Dywedodd
Gareth Pierce fod CBAC wedi
bod yn gwneud rhywfaint o waith adolygol i edrych ar yr effaith
y byddai methodoleg Cyfnod Allweddol 2 yn ei chael
ar ganlyniadau’r arholiadau TGAU, ar wahân i Saesneg lle'r oedd y mwyafrif
o’r ymgeiswyr yn Lloegr. Ni wiriwyd
y gwaith eto,
ond cytunodd i’w rannu gyda’r
Pwyllgor maes o law.
·
Cytunodd Gareth Pierce
i gadarnhau a oedd rheolydd Cymru yng nghyfarfod y Grŵp Safonau a Materion Technegol ar 14 Mawrth 2012.
|
3. |
Graddau TGAU Saesneg Iaith Haf 2012
Ofqual
Glenys Stacey, Prif Reoleiddiwr
Cath Jadhav, Cyfarwyddwr Dros Dros Safonau ac Ymchwil
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y
Cadeirydd Glenys Stacey a Cath
Jadhav i’r cyfarfod. Holodd yr aelodau y tystion.
Cam i’w gymryd:
Cytunodd Glenys Stacey i ddarparu
ffigur canrannol cyffredinol y farchnad ar gyfer y gyfres
newydd o gymwysterau TGAU Saesneg y mae
pob un o’r cyrff dyfarnu (CBAC, AQA,
Edexcel, OCR a CCEA) yn ei chynrychioli.
|
4. |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Cofnodion:
4.1 Cytunodd y Pwyllgor
ar y cynnig.
|
5. |
Ymchwiliad i fabwysiadu - ystyried yr adroddiad drafft
Cofnodion:
5.1 Cymeradwyodd
y Pwyllgor yr adroddiad, yn amodol
ar ambell ddiwygiad bach.
|
6. |
Trafod y flaenraglen waith
Cofnodion:
6.1 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y
Gweinidog Addysg a Sgiliau ynghylch sgiliau achub bywyd mewn argyfwng.
|
|
Trawsgrifiad
|