Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Cyswllt: Polisi: Claire Morris 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jocelyn Davies.

(9.15 - 11.00)

2.

Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru

Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru

 

Eleri Thomas, Prif Weithredwr

 

 

Cofnodion:

2. 1 Croesawodd y Cadeirydd Keith Towler ac Eleri Thomas. Holodd yr Aelodau’r tystion ynghylch adroddiad blynyddol y comisiynydd plant.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd y comisiynydd plant i ddarparu rhagor o wybodaeth am:

 

·         yr arbedion effeithlonrwydd a wnaed gan ei swyddfa mewn ymateb i’r gostyngiad mewn incwm ar gyfer blwyddyn ariannol 2011-12.

 

·         yr amser a gymerwyd i ddatrys yr astudiaeth achos ar dudalen 26 adroddiad blynyddol y Comisiynydd ynghylch plentyn mewn gofal maeth nad yw mewn addysg.

 

·         statws presennol y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol (NSF) ar gyfer gwasanaethau plant, pobl ifanc a mamolaeth, unwaith y daw i law gan Lywodraeth Cymru;

 

·         fesur tlodi plant.

 

(11.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y pwyllgor â’r cynnig.

(11:15 - 11:45)

4.

Sesiwn friffio ar y Papur Gwyn ar Fil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru)

Bil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru)

 

·         Neil Surman, Pennaeth yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru

·         Jane Ellis, Uwch Swyddog Llywodraethu Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru

 

Cofnodion:

4.1 Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau aelodau o’r pwyllgor am y Papur Gwyn ar Fil addysg bellach ac uwch (Cymru).

(11:45 - 12:45)

5.

Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru): Cyfnod 1 - Ystyried yr adroddiad terfynol

Cofnodion:

5.1 Cytunwyd â’r adroddiad drafft.

Trawsgrifiad