Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Penderfyniad: Gofynnwyd y 13 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 1 a 6 eu grwpio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.14 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 8 a 12 eu grwpio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4892 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd darparu cyfres ragorol o raglenni wedi'u hanelu’n benodol at y blynyddoedd cynnar er mwyn galluogi plant i ffynnu’n addysgol ac yn gymdeithasol; 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) rhoi sylw i ganfyddiadau Gwerthusiad o Dechrau’n Deg 2011 sy’n dweud mai cyrraedd teuluoedd dan anfantais economaidd-gymdeithasol sydd leiaf llwyddiannus; ac b) adolygu’r amrywiadau presennol ar draws y Cyfnod Sylfaen, yn benodol o ran cysondeb ac ansawdd yr hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr. Gellir gweld Gwerthusiad o Dechrau’n Deg 2011 drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://wales.gov.uk/about/aboutresearch/social/latestresearch/EvalFlyStart7-20/?lang=cy Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Mewnosod fel
pwynt newydd ar ôl pwynt
1: Yn croesawu’r
£20 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer
disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a gyhoeddwyd yn y Gyllideb Derfynol
ym mis Rhagfyr,
a fydd yn helpu plant i ffynnu’n addysgol. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Mewnosod fel
pwynt newydd ar ôl pwynt
1: Yn nodi mai dim ond 21 y cant o ddisgyblion sydd â hawl i gael prydau
ysgol am ddim sy’n cael pump TGAU da gradd A* i C. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Mewnosod fel
is-bwynt newydd ar ôl pwynt
2a: sefydlu’r arfer
gorau yn y rhaglen Dechrau’n Deg bresennol er
mwyn llywio’r gwaith o ymestyn y rhaglen. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Mewnosod fel
pwynt 2b newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: sicrhau, wrth
gyflwyno Dechrau'n Deg, fod yr
arfer gorau a ganfuwyd yn ystod
y cynllun peilot yn cael ei
ledaenu’n effeithiol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.58 Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4893 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru dros GIG Cymru a’r ddarpariaeth o dros £5 biliwn i Fyrddau Iechyd Lleol i gyflenwi gwasanaethau iechyd; 2. Yn gresynu wrth ddiffyg tryloywder ac atebolrwydd y Byrddau Iechyd Lleol wrth wneud penderfyniadau ac ym maes rheoli ariannol hyd yma. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1 ‘ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos mwy o gyfrifoldeb dros berfformiad Byrddau Iechyd Lleol’. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diweddaru ei harweiniad i Fyrddau Iechyd Lleol ar gynnwys
y cyhoedd yn y gwaith o gynllunio a chyflenwi gwasanaethau’r GIG. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu y bydd cyllideb ddiweddar Llywodraeth Cymru yn arwain at dorri 6.6% ar gyllideb y GIG mewn termau real. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.03 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4893 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru dros GIG Cymru a’r ddarpariaeth o dros £5 biliwn i Fyrddau Iechyd Lleol i gyflenwi gwasanaethau iechyd; 2. Yn gresynu wrth ddiffyg tryloywder ac atebolrwydd y Byrddau Iechyd Lleol wrth wneud penderfyniadau ac ym maes rheoli ariannol hyd yma.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1 ‘ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos mwy o gyfrifoldeb dros berfformiad Byrddau Iechyd Lleol’. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Llywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd
y gwelliant. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diweddaru ei harweiniad i Fyrddau Iechyd Lleol ar gynnwys y cyhoedd yn y gwaith o gynllunio a chyflenwi gwasanaethau’r GIG. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu y bydd cyllideb ddiweddar Llywodraeth Cymru yn arwain at dorri 6.6 y cant ar gyllideb y GIG mewn termau real. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4893 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru dros GIG Cymru a’r ddarpariaeth o dros £5 biliwn i Fyrddau Iechyd Lleol i gyflenwi gwasanaethau iechyd;
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM4894 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r £56.9 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer band eang y genhedlaeth nesaf a fydd o fudd i holl ardaloedd Cymru; 2. Yn croesawu’r cyllid pellach ar gyfer band eang yng Nghaerdydd a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref y Canghellor; ac 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r arian hwn i roi blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r mannau gwan ar gyfer derbyn band eang. Gellir gweld Datganiad yr Hydref drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://www.hm-treasury.gov.uk/as2011_index.htm Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: [os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwyntiau 1 a 2 a rhoi pwynt 1 newydd yn eu lle: Yn nodi’r dyraniadau diweddar o gyllid cyhoeddus ar gyfer darparu band eang. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt
1, dileu "band eang y genhedlaeth nesaf" a rhoi yn ei
le "prosiect band eang
y genhedlaeth nesaf Llywodraeth Cymru" Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt
2, ar ôl "Canghellor" mewnosod "er mwyn creu
hyd at ddeg o ‘ddinasoedd uwch-gysylltiedig’ ar draws y DU" [os derbynnir gwelliant 4, bydd gwelliant 5 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 3. Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ym mhwynt 3, dileu ‘i ddefnyddio’r arian hwn’. Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad am ei thrafodaethau gyda BT Openworld ar gyfer cyflwyno
band eang y genhedlaeth nesaf ledled Cymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.02 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4894 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r £56.9 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer band eang y genhedlaeth nesaf a fydd o fudd i holl ardaloedd Cymru; 2. Yn croesawu’r cyllid pellach ar gyfer band eang yng Nghaerdydd a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref y Canghellor; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r arian hwn i roi blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r mannau gwan ar gyfer derbyn band eang.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwyntiau 1 a 2 a rhoi pwynt 1 newydd yn eu lle: Yn nodi’r dyraniadau diweddar o gyllid cyhoeddus ar gyfer darparu band eang. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod
gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 3. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gan fod gwelliant 4 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad am ei thrafodaethau gyda BT Openworld ar gyfer cyflwyno band eang y genhedlaeth nesaf ledled Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd
gwelliant 6. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4894 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r dyraniadau diweddar o gyllid cyhoeddus ar gyfer darparu band eang.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.54 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4891 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd): Mae gan bobl hŷn hawliau hefyd Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.00 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |