Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Penderfyniad: Gofynnwyd y 13 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Gofynnwyd y 7 cwestiwn. |
|||||||||
(15 munud) |
Cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog yn dilyn y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad NDM4849 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Newidiadau arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog yn dilyn y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad – Gorchmynion adran 109’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2011; 2. Yn cymeradwyo’r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B o Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Dogfen ategol: Penderfyniad: Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(30 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2012/13 NDM4851 Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16: Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2012-13, fel y pennir yn Nhabl 5 o’r ddogfen “Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cynigion Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2012-13”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Tachwedd 2011 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllideb Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). Dogfennau ategol: Cynulliad
Cenedlaethol Cymru Cynigion: Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2012-13 Penderfyniad: Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4852 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu’r sector preifat yng Nghymru i dyfu; 2. Yn annog Llywodraeth Cymru i wella’r amodau ar gyfer twf economaidd yng Nghymru drwy: a. gwella seilwaith a sgiliau; b. darparu eglurder ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r economi; c. hybu mewnfuddsoddiad i Gymru a chefnogi allforion Cymru; a 3. Yn nodi y bydd Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn gymwys i gael arian Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd am y trydydd tro. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Dileu is-bwyntiau 2a, 2b a 2c a rhoi yn eu lle: a) gwella seilwaith a sgiliau drwy sefydlu rhaglen arloesi i ddatblygu’r seilwaith modern a’r sgiliau lefel uchaf y mae eu hangen ar gyfer economi fodern. b) rhoi eglurder ynghylch cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r economi drwy leihau cyfanswm nifer y rheoliadau sydd ar fusnesau Cymru, gan gynnwys defnyddio cymalau machlud, dull un i mewn un allan, i reoliadau newydd; c) cydnabod y bydd sector preifat llwyddiannus yn dibynnu ar fewnfuddsoddiad a busnesau sydd wedi'u creu yng Nghymru; a d) darparu rhaglen gymorth well i fusnesau newydd Cymru, gan gynnwys undeb credyd busnesau a Chyfnewidfa Stoc Cymru. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen buddsoddi cyfalaf gynhwysfawr ledled Cymru. Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM4852 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu’r sector preifat yng Nghymru i dyfu; 2. Yn annog Llywodraeth Cymru i wella’r amodau ar gyfer twf economaidd yng Nghymru drwy: a. gwella seilwaith a sgiliau; b. darparu eglurder ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r economi; c. hybu mewnfuddsoddiad i Gymru a chefnogi allforion Cymru; a 3. Yn nodi y bydd Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn gymwys i gael arian Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd am y trydydd tro.
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4850 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cadarnhau targedau ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ a ‘Strategaeth Cymru ar Newid yn yr Hinsawdd’ ac yn croesawu’r cyfraniad nodedig at gyrraedd y targedau hyn gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen yn ei strategaeth ar gyfer ‘Prydain Di-garbon 2030’; ac 2. Yn galw ar Weinidogion Cymru i lansio ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus ar newid yn yr hinsawdd hyd at Gynhadledd Rio+20. Gellir gweld ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ drwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://wales.gov.uk/topics/sustainabledevelopment/publications/onewalesoneplanet/?skip=1&lang=cy Gellir gweld ‘Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd’ drwy ddilyn y ddolen ganlynol: Gellir gweld y strategaeth ar gyfer ‘Prydain Di-garbon 2030’ drwy ddilyn y ddolen ganlynol: Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: [os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei dad-ddethol] Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn camau rhagweithiol i leihau cyfraniad Cymru at y newid yn yr hinsawdd drwy fuddsoddi mewn cynlluniau effeithlonrwydd ynni a fydd hefyd yn helpu i leihau tlodi tanwydd ledled Cymru. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ym mhwynt 2, dileu ‘gwybodaeth’ a rhoi ‘ymgysylltu’ yn ei le. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) rhoi’r Strategaeth Ymgysylltu ar y Newid yn yr Hinsawdd ar waith yn gynt; b) gweithredu fel esiampl i eraill drwy ymrwymo i wneud rhagor o doriadau sylweddol i ôl troed carbon ystad y Llywodraeth a helpu i hybu lleihau allyriadau drwy’r sector cyhoeddus, y sector busnes a'r sector gwirfoddol ehangach yng Nghymru; c) cefnogi busnesau i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd economi carbon isel; a d) ailedrych ar ei tharged i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 3% i weld a yw’n dal yn feincnod cenedlaethol priodol i geisio lliniaru’r cynnydd o 2°C yn yr hinsawdd fyd-eang. Gellir gweld y Strategaeth Ymgysylltu ar y Newid yn yr Hinsawdd drwy ddilyn y ddolen ganlynol: Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM4850 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cadarnhau targedau ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ a ‘Strategaeth Cymru ar Newid yn yr Hinsawdd’ ac yn croesawu’r cyfraniad nodedig at gyrraedd y targedau hyn gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen yn ei strategaeth ar gyfer ‘Prydain Di-garbon 2030’; ac 2. Yn galw ar Weinidogion Cymru i lansio ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus ar newid yn yr hinsawdd hyd at Gynhadledd Rio+20. Gellir gweld ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ drwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://wales.gov.uk/topics/sustainabledevelopment/publications/onewalesoneplanet/?skip=1&lang=cy Gellir gweld ‘Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd’ drwy ddilyn y ddolen ganlynol: Gellir gweld y strategaeth ar gyfer ‘Prydain Di-garbon 2030’ drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4853 Lynne Neagle
(Tor-faen): Tynnu’r plwg – Effaith torri’r tariff cyflenwi trydan yng Nghymru |
|||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |