Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau cyllid i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Penderfyniad: Gofynnwyd y 10 cwestiwn
cyntaf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth Penderfyniad: Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Trosglwyddwyd cwestiwn 8 i’w ateb gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau. Cafodd cwestiynau 10 a 11 eu grwpio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau NNDM4801 Rosemary Butler (Gorllewin
Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
17.14, yn ethol: 1. Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig)
yn aelod o’r Pwyllgor Menter
a Busnes yn lle Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig); a 2. Nick Ramsay yn Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn lle Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig). NNDM4802 Rosemary Butler (Gorllewin
Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
17.14, yn ethol Suzy Davies
(Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle Antoinette Sandbach (Ceidwadwyr Cymreig). NNDM4803 Rosemary Butler (Gorllewin
Casnewydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r
Pwyllgor Cyllid yn lle Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig). NNDM4804 Rosemary Butler (Gorllewin
Casnewydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol William Graham (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r
Pwyllgor Busnes yn lle Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig). NNDM4805 Rosemary Butler (Gorllewin
Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
17.14, yn ethol Janet
Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig)
yn aelod o’r Pwyllgor Cymunedau,
Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lle
William Graham (Ceidwadwyr Cymreig). NNDM4806 Rosemary Butler (Gorllewin
Casnewydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol William Graham (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r
Pwyllgor Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr
Cymreig). Penderfyniad: Derbyniwyd
y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4798 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi â phryder bod llai na hanner gorsafoedd rheilffordd Cymru yn hollol hygyrch i bobl anabl; 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) Wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch, drwy ddarparu gwybodaeth glyweledol ac ymestyn y Cerdyn Bws Cydymaith; b) Hybu ymwybyddiaeth a hyfforddiant staff mewn perthynas â gofynion teithwyr anabl. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn ymgynghori’n
llawn â phobl anabl a chynrychiolwyr grwpiau anabledd wrth ddatblygu unrhyw gynlluniau ar gyfer gwella
hygyrchedd i drafnidiaeth gyhoeddus. Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM4798 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi â phryder bod llai na hanner gorsafoedd rheilffordd Cymru yn hollol hygyrch i bobl anabl; 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) Wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch, drwy ddarparu gwybodaeth glyweledol ac ymestyn y Cerdyn Bws Cydymaith; b) Hybu ymwybyddiaeth a hyfforddiant staff mewn perthynas â gofynion teithwyr anabl.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn ymgynghori’n llawn â phobl anabl
a chynrychiolwyr grwpiau anabledd wrth ddatblygu
unrhyw gynlluniau ar gyfer gwella
hygyrchedd i drafnidiaeth gyhoeddus Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi
â phryder bod llai na hanner
gorsafoedd rheilffordd
Cymru yn hollol hygyrch i bobl anabl; 2. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i: a) Wneud trafnidiaeth
gyhoeddus yn fwy hygyrch, drwy
ddarparu gwybodaeth glyweledol ac ymestyn y Cerdyn Bws Cydymaith; b) Hybu ymwybyddiaeth a hyfforddiant staff mewn perthynas â gofynion teithwyr anabl. 3. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn ymgynghori’n llawn â phobl anabl
a chynrychiolwyr grwpiau anabledd wrth ddatblygu
unrhyw gynlluniau ar gyfer gwella
hygyrchedd i drafnidiaeth gyhoeddus
Gwrthodwyd y cynnig wedi’I ddiwygio Gan fod y Cynulliad
wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant I’r cynnig, nid
yw’r cynnig wedi gymeradwyo. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4800 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) Y toriadau difrifol yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru; b) Y diffyg gweithredu a fu gan Lywodraeth gyfredol Cymru i ganfod a denu ffynonellau newydd o gyllid i Gymru; ac c) Effeithiau’r hinsawdd economaidd bresennol, gan gynnwys yr anawsterau sy’n wynebu busnesau Cymru oherwydd yr amodau byd-eang sy’n arafu a’r bygythiadau i swyddi yn sgil hynny; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) Mynd ati’n rhagweithiol i chwilio am ffrydiau ariannu ychwanegol i Gymru yn yr un modd ag y mae llywodraethau gwledydd datganoledig eraill wedi'i wneud; b) Gweithio gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gyflwyno newidiadau i arferion caffael ar frys er mwyn ysgogi diwydiant a chreu swyddi yng Nghymru; a c) Chyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gyflwyno toriad dros dro mewn TAW er mwyn ysgogi twf economaidd ymhellach. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: [os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt 1a) a rhoi yn ei le: 'Yr angen i Lywodraeth Cymru wneud y defnydd gorau o’r arian cyfalaf sydd ar gael yn yr hinsawdd economaidd bresennol. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ym mhwynt 1a), ar ôl “Llywodraeth Cymru” rhoi, “ac o dan gynlluniau a gyhoeddwyd gan Alastair Darling yn ei gyllideb yn 2009, byddai toriadau o 45% dros 3 blynedd yng nghyllideb cyfalaf Cymru. Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu “diffyg ” ym mhwynt 1b). [os derbynnir gwelliant 4, bydd gwelliant 5 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt 2c) a rhoi yn ei le: Sefydlu cynllun partneriaeth cyhoeddus-preifat ‘Gwnaed yng Nghymru’ fel rhan o gynllun Seilwaith Cymru. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Dileu pwynt 2c). Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar yr holl bleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad i weithio’n adeiladol ar y broses debyg i Calman sy’n cael ei chynnal gan Lywodraeth y DU. Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4800 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) Y toriadau difrifol yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru; b) Y diffyg gweithredu a fu gan Lywodraeth gyfredol Cymru i ganfod a denu ffynonellau newydd o gyllid i Gymru; ac c) Effeithiau’r hinsawdd economaidd bresennol, gan gynnwys yr anawsterau sy’n wynebu busnesau Cymru oherwydd yr amodau byd-eang sy’n arafu a’r bygythiadau i swyddi yn sgil hynny; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) Mynd ati’n rhagweithiol i chwilio am ffrydiau ariannu ychwanegol i Gymru yn yr un modd ag y mae llywodraethau gwledydd datganoledig eraill wedi'i wneud; b) Gweithio gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gyflwyno newidiadau i arferion caffael ar frys er mwyn ysgogi diwydiant a chreu swyddi yng Nghymru; a c) Chyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gyflwyno toriad dros dro mewn TAW er mwyn ysgogi twf economaidd ymhellach.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Dileu pwynt 1a) a rhoi yn ei le: 'Yr angen i Lywodraeth Cymru wneud y defnydd gorau o’r arian cyfalaf sydd ar gael yn yr hinsawdd economaidd bresennol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ym mhwynt 1a), ar ôl “Llywodraeth Cymru” rhoi, “ac o dan gynlluniau a gyhoeddwyd gan Alastair Darling yn ei gyllideb yn 2009, byddai toriadau o 45% dros 3 blynedd yng nghyllideb cyfalaf Cymru.
Gwrthodwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu “diffyg ” ym mhwynt 1b).
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt 2c) a rhoi yn ei le: Sefydlu cynllun partneriaeth cyhoeddus-preifat ‘Gwnaed yng Nghymru’ fel rhan o gynllun Seilwaith Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Dileu pwynt 2c). Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd
gwelliant 5. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar yr holl bleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad i weithio’n adeiladol ar y broses debyg i Calman sy’n cael ei chynnal gan Lywodraeth y DU. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant
6. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM4800 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) Y toriadau difrifol yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru; b) Y gweithredu a fu gan Lywodraeth gyfredol Cymru i ganfod a denu ffynonellau newydd o gyllid i Gymru; ac c) Effeithiau’r hinsawdd economaidd bresennol, gan gynnwys yr anawsterau sy’n wynebu busnesau Cymru oherwydd yr amodau byd-eang sy’n arafu a’r bygythiadau i swyddi yn sgil hynny; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) Mynd ati’n rhagweithiol i chwilio am ffrydiau ariannu ychwanegol i Gymru yn yr un modd ag y mae llywodraethau gwledydd datganoledig eraill wedi'i wneud; b) Gweithio gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gyflwyno newidiadau i arferion caffael ar frys er mwyn ysgogi diwydiant a chreu swyddi yng Nghymru; a c) Sefydlu cynllun
partneriaeth cyhoeddus-preifat
‘Gwnaed yng Nghymru’ fel rhan
o gynllun Seilwaith Cymru. 3. Yn galw ar yr holl bleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad i weithio’n adeiladol ar y broses debyg i Calman sy’n cael ei chynnal gan Lywodraeth y DU.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4799 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn mynegi pryder ynghylch y diffyg tryloywder gan Lywodraeth Cymru ynghylch dyfodol llywodraeth leol; 2. Yn cydnabod pwysigrwydd bod llywodraeth leol yn rhan sylfaenol o ddemocratiaeth yng Nghymru; a 3. Yn galw am ddadl lawn ac agored ynghylch cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le Yn nodi’r cyfarwyddyd clir a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i lywodraeth leol, gan gynnwys yn y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol ym mis Gorffennaf ac yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i’r Cynulliad ar 13 Gorffennaf 2011. Linc i bapur “Y dull o gydweithredu’n rhanbarthol: hyrwyddo cysoni” (PC 37-04) ar gyfer cyfarfod y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol ar 21 Gorffennaf 2011. http://cymru.gov.uk/topics/localgovernment/partnership/council/agendas/37thmeeting/?skip=1&lang=cy Linc i Ddatganiad 13 Gorffennaf 2011 http://cymru.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2011/13julypublicservices/?lang=cy Gwelliant 2 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Yn cydnabod y pwysau sylweddol a roddir ar lywodraeth leol o ganlyniad i’r toriadau mewn cyllid a orfodwyd gan Lywodraeth y DU. Gwelliant 3 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Ym mhwynt 3, ar ôl ‘gwasanaethau cyhoeddus’ rhoi ‘sy’n cynnwys trafodaeth am ad-drefnu a’r gwasanaethau y tu allan i lywodraeth leol fel iechyd, addysg uwch ac addysg bellach, trafnidiaeth a datblygu economaidd a chymunedol. Gwelliant 4 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn dal yn bryderus am y pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru i uno awdurdodau lleol drwy is-ddeddfwriaeth. Gwelliant 5 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn mynegi pryder am y posibilrwydd o sefydlu chwe grŵp rhanbarthol o awdurdodau lleol yn ogystal â phedwar grŵp addysg rhanbarthol. Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4799 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn mynegi
pryder ynghylch y diffyg tryloywder gan Lywodraeth Cymru ynghylch dyfodol llywodraeth leol; 2. Yn cydnabod
pwysigrwydd bod llywodraeth
leol yn rhan
sylfaenol o ddemocratiaeth yng Nghymru; a 3. Yn galw
am ddadl lawn ac agored ynghylch cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le Yn nodi’r cyfarwyddyd clir a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i lywodraeth leol, gan gynnwys yn y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol ym mis Gorffennaf ac yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i’r Cynulliad ar 13 Gorffennaf 2011. Linc i bapur “Y dull o gydweithredu’n rhanbarthol: hyrwyddo cysoni” (PC 37-04) ar gyfer cyfarfod y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol ar 21 Gorffennaf 2011. http://cymru.gov.uk/topics/localgovernment/partnership/council/agendas/37thmeeting/?skip=1&lang=cy Linc i Ddatganiad 13 Gorffennaf 2011 http://cymru.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2011/13julypublicservices/?lang=cy Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl
pwynt 2 ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: Yn cydnabod y pwysau
sylweddol a roddir ar lywodraeth leol
o ganlyniad i’r toriadau mewn cyllid
a orfodwyd gan Lywodraeth y DU. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ym mhwynt 3, ar
ôl ‘gwasanaethau cyhoeddus’ rhoi ‘sy’n cynnwys trafodaeth
am ad-drefnu a’r gwasanaethau y tu allan i lywodraeth leol fel iechyd,
addysg uwch ac addysg bellach, trafnidiaeth a datblygu economaidd a chymunedol’. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig: Yn dal yn bryderus
am y pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru i uno awdurdodau lleol drwy is-ddeddfwriaeth. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd
gwelliant 4. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig: Yn mynegi pryder
am y posibilrwydd o sefydlu
chwe grŵp rhanbarthol
o awdurdodau lleol yn ogystal â phedwar
grŵp
addysg rhanbarthol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd
gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi’r cyfarwyddyd clir a roddwyd gan Lywodraeth
Cymru i lywodraeth leol, gan gynnwys yn
y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol ym mis Gorffennaf
ac yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i’r Cynulliad ar 13 Gorffennaf 2011. Linc i bapur “Y dull o gydweithredu’n rhanbarthol: hyrwyddo cysoni” (PC 37-04) ar gyfer cyfarfod
y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol ar 21 Gorffennaf 2011. http://cymru.gov.uk/topics/localgovernment/partnership/council/agendas/37thmeeting/?skip=1&lang=cy Linc i Ddatganiad 13 Gorffennaf 2011 http://cymru.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2011/13julypublicservices/?lang=cy 2. Yn cydnabod pwysigrwydd bod llywodraeth leol yn rhan sylfaenol o ddemocratiaeth yng Nghymru; 3.
Yn cydnabod y pwysau sylweddol a roddir ar lywodraeth
leol o ganlyniad i’r toriadau mewn
cyllid a orfodwyd gan Lywodraeth y DU; a 4. Yn galw am ddadl lawn ac agored ynghylch cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus sy’n cynnwys trafodaeth am ad-drefnu a’r gwasanaethau y tu allan i lywodraeth leol fel iechyd, addysg uwch ac addysg bellach, trafnidiaeth a datblygu economaidd a chymunedol .
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4797 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |