Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r
Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd y 5 cwestiwn
cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r
Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
14.16 Gofynnwyd y 15
cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 7 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant,
Chwaraeon a Thwristiaeth. Cafodd cwestiwn 9 ei drosglwyddo i'w ateb yn
ysgrifenedig gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5780
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynlluniau Ceidwadwyr Cymru i wella
dealltwriaeth pobl sy'n talu'r dreth gyngor o sut y mae eu treth gyngor yn cael
ei gwario. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chynghorau
i wella atebolrwydd o ran gwariant treth gyngor. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella tryloywder mewn
gwariant llywodraeth leol ledled Cymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 2
newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn nodi bod y
dreth gyngor yn cynrychioli dim ond oddeutu 14 y cant o wariant cynghorau yng
Nghymru. Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sefydlu system drethiant leol gyfiawn sy'n deg, yn
fforddiadwy ac sy'n lleihau'r baich ar y rhai sy'n ei chael hi'n anoddaf i
dalu. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.03 Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5780 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynlluniau’r
Ceidwadwyr Cymreig i wella dealltwriaeth pobl sy'n talu'r dreth gyngor o sut y
mae eu treth gyngor yn cael ei gwario. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gyda chynghorau i wella atebolrwydd o ran gwariant treth gyngor. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i wella tryloywder mewn gwariant llywodraeth leol ledled Cymru.
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Elin Jones
(Ceredigion) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn nodi bod y dreth gyngor yn cynrychioli dim ond oddeutu 14 y cant o
wariant cynghorau yng Nghymru.
Derbyniwyd Gwelliant 1. Gwelliant 2 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
sefydlu system drethiant leol gyfiawn sy'n deg, yn fforddiadwy ac sy'n
lleihau'r baich ar y rhai sy'n ei chael hi'n anoddaf i dalu.
Derbyniwyd Gwelliant 2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5780 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynlluniau’r
Ceidwadwyr Cymreig i wella dealltwriaeth pobl sy'n talu'r dreth gyngor o sut y
mae eu treth gyngor yn cael ei gwario. 2. Yn nodi bod y dreth gyngor
yn cynrychioli dim ond oddeutu 14 y cant o wariant cynghorau yng Nghymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gyda chynghorau i wella atebolrwydd o ran gwariant treth gyngor. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i wella tryloywder mewn gwariant llywodraeth leol ledled Cymru. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sefydlu system drethiant leol gyfiawn sy'n deg, yn fforddiadwy ac sy'n
lleihau'r baich ar y rhai sy'n ei chael hi'n anoddaf i dalu.
Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5781
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau effeithiol i
hyrwyddo cyfranogiad economaidd llawn gan fenywod. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu
cyflwyno rhannu cyfnodau absenoldeb rhieni, sef penderfyniad a ddaeth i rym ym
mis Ebrill 2015, a fydd yn cefnogi dynion i gymryd rôl fwy gweithredol o ran
magu plant, ac yn cefnogi menywod i ddychwelyd i gyfranogiad economaidd llawn
ar ôl rhoi genedigaeth. Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod yr
angen i gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau er mwyn sicrhau bod menywod yn cael
mynediad i gyflogaeth o ansawdd, sy'n talu'n dda ac sy'n hyblyg. Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi
manteision gofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel o ran cefnogi menywod yn ôl
i'r gweithle. Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cefnogi
galwadau i Gymru ddod yn genedl cyflog byw i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog
rhwng y rhywiau. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.59 Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5781 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gymryd camau effeithiol i hyrwyddo cyfranogiad economaidd llawn gan fenywod.
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5779
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu nad yw'r system bresennol ar gyfer sicrhau
ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd yn addas at y diben ac nad yw
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ateb yr angen i archwilio'r system iechyd yng
Nghymru yn annibynnol. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system sicrhau
ansawdd mwy cadarn sy'n cynnwys: a) cael gwared ar Arolygiaeth Iechyd Cymru a sefydlu
arolygiaeth newydd sy'n gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru; b) penodi prif arolygydd ar gyfer ysbytai a gofal iechyd; c) cyflwyno arolygiadau a arweinir yn glinigol ac a
adolygir gan gymheiriaid gyda mewnbwn sylweddol gan gleifion; d) cefnogi staff a chleifion i ddefnyddio mecanweithiau
ar gyfer chwythu'r chwiban drwy annog diwylliant cryfach o fod yn agored ac yn
dryloyw; ac e) diwygio'r drefn gwyno er mwyn sicrhau mwy o
annibyniaeth ac adfer ymddiriedaeth cleifion a'u teuluoedd. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2: f) ystyried uno'r
arolygiaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn. Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynyddu tryloywder yn y broses o arolygu a rheoleiddio
darparwyr gofal iechyd yng Nghymru drwy gomisiynu ymchwiliad llawn ac
annibynnol i'r GIG yng Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.46 Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5779 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu nad yw'r system
bresennol ar gyfer sicrhau ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd yn
addas at y diben ac nad yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ateb yr angen i
archwilio'r system iechyd yng Nghymru yn annibynnol. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sefydlu system sicrhau ansawdd mwy cadarn sy'n cynnwys: a) cael gwared ar Arolygiaeth
Iechyd Cymru a sefydlu arolygiaeth newydd sy'n gwbl annibynnol ar Lywodraeth
Cymru; b) penodi prif arolygydd ar
gyfer ysbytai a gofal iechyd; c) cyflwyno arolygiadau a
arweinir yn glinigol ac a adolygir gan gymheiriaid gyda mewnbwn sylweddol gan
gleifion; d) cefnogi staff a chleifion i
ddefnyddio mecanweithiau ar gyfer chwythu'r chwiban drwy annog diwylliant
cryfach o fod yn agored ac yn dryloyw; ac e) diwygio'r drefn gwyno er
mwyn sicrhau mwy o annibyniaeth ac adfer ymddiriedaeth cleifion a'u teuluoedd.
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Elin Jones
(Ceredigion) Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: f) ystyried uno'r arolygiaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn.
Derbyniwyd Gwelliant 1. Gwelliant 2 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gynyddu tryloywder yn y broses o arolygu a rheoleiddio darparwyr gofal iechyd
yng Nghymru drwy gomisiynu ymchwiliad llawn ac annibynnol i'r GIG yng Nghymru.
Gwrthodwyd Gwelliant 2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5779 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu nad yw'r system
bresennol ar gyfer sicrhau ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd yn
addas at y diben ac nad yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ateb yr angen i
archwilio'r system iechyd yng Nghymru yn annibynnol. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sefydlu system sicrhau ansawdd mwy cadarn sy'n cynnwys: a) cael gwared ar Arolygiaeth
Iechyd Cymru a sefydlu arolygiaeth newydd sy'n gwbl annibynnol ar Lywodraeth
Cymru; b) penodi prif arolygydd ar gyfer
ysbytai a gofal iechyd; c) cyflwyno arolygiadau a
arweinir yn glinigol ac a adolygir gan gymheiriaid gyda mewnbwn sylweddol gan
gleifion; d) cefnogi staff a chleifion i
ddefnyddio mecanweithiau ar gyfer chwythu'r chwiban drwy annog diwylliant
cryfach o fod yn agored ac yn dryloyw; e) diwygio'r drefn gwyno er
mwyn sicrhau mwy o annibyniaeth ac adfer ymddiriedaeth cleifion a'u teuluoedd. f) ystyried uno'r
arolygiaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn.
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd y gwelliant. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 17.30 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5782 Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Gastroenteroleg - gwella ymwybyddiaeth a thriniaeth yng Nghymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
17.34 NDM5782 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Gastroenteroleg
- gwella ymwybyddiaeth a thriniaeth yng Nghymru |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol:
|