Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 8 cwestiwn cyntaf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.20 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Atebwyd cwestiwn 5 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a
Thechnoleg |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau Brys Dechreuodd yr eitem am 14.56 Cwestiwn Brys 1 Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y newyddion bod ‘Statws Dibynadwy Iawn
fel Noddwr’ Prifysgol Glyndŵr wedi cael ei dynnu yn ôl? Dechreuodd yr eitem am 15.04 Cwestiwn Brys 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y gostyngiad blwyddyn ar flwyddyn o
8.4% ym mherfformiad Gwasanaeth Ambiwlans Cymru o ran ymateb i alwadau categori
A? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5534
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r digwyddiadau diweddar i goffáu D-Day, Diwrnod
Lluoedd Arfog y DU a chanmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf; 2. Yn gwerthfawrogi cyfraniadau milwyr o Gymru, yn ddynion a
menywod, ac yn cydnabod yr anawsterau y gallant eu hwynebu ar ôl dychwelyd i
fywyd sifil; 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cynllun Cerdyn
Cyn-filwyr i Gymru i alluogi: a) ehangu'r cynllun prisiau consesiynol presennol i gynnwys
cyn-filwyr b) mynediad am ddim i byllau nofio awdurdodau lleol i
gyn-filwyr c) mynediad am ddim i safleoedd Cadw i gyn-filwyr d) blaenoriaeth o ran triniaeth ar gyfer cyflyrau/anafiadau
sy'n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol ar y GIG e) blaenoriaeth o ran darparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl
i gyn-filwyr y mae angen addasiadau i'r cartref arnynt. 4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r
potensial i godi cofeb Gymreig yn yr Ardd Goed Genedlaethol yn Swydd Stafford,
i gofio ac anrhydeddu'r holl ddynion a menywod dewr o Gymru a ymladdodd ac a
gollodd eu bywydau yn gwasanaethu'r genedl. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu at y ffaith bod toriadau i fudd-daliadau ar gyfer
pobl anabl, gan gynnwys y dreth ystafell wely, yn effeithio ar gyn-aelodau’r
Lluoedd Arfog a’r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn croesawu’r cyhoeddiad yn Rhaglen Ddeddfwriaethol
Llywodraeth y DU am gynigion ar gyfer Bil Cwynion am Wasanaethau, er mwyn
gwella’r system gwynion yn y Lluoedd Arfog drwy sefydlu Ombwdsmon ar gyfer milwyr. Gwelliant
3 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Ym mhwynt 3, dileu ‘sefydlu’ a rhoi ‘ystyried’ yn ei le. Gwelliant
4 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd
yn darparu cefnogaeth ddigonol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog sydd ag
Anhwylder Straen wedi Trawma. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.15 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5534
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r digwyddiadau diweddar i goffáu D-Day, Diwrnod
Lluoedd Arfog y DU a chanmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf; 2. Yn gwerthfawrogi cyfraniadau milwyr o Gymru, yn ddynion a
menywod, ac yn cydnabod yr anawsterau y gallant eu hwynebu ar ôl dychwelyd i
fywyd sifil; 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cynllun Cerdyn
Cyn-filwyr i Gymru i alluogi: a) ehangu'r cynllun prisiau consesiynol presennol i gynnwys
cyn-filwyr b) mynediad am ddim i byllau nofio awdurdodau lleol i
gyn-filwyr c) mynediad am ddim i safleoedd Cadw i gyn-filwyr d) blaenoriaeth o ran triniaeth ar gyfer cyflyrau/anafiadau
sy'n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol ar y GIG e) blaenoriaeth o ran darparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl
i gyn-filwyr y mae angen addasiadau i'r cartref arnynt. 4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r
potensial i godi cofeb Gymreig yn yr Ardd Goed Genedlaethol yn Swydd Stafford,
i gofio ac anrhydeddu'r holl ddynion a menywod dewr o Gymru a ymladdodd ac a
gollodd eu bywydau yn gwasanaethu'r genedl.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu at y ffaith bod toriadau i fudd-daliadau ar gyfer
pobl anabl, gan gynnwys y dreth ystafell wely, yn effeithio ar gyn-aelodau’r
Lluoedd Arfog a’r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn croesawu’r cyhoeddiad yn Rhaglen Ddeddfwriaethol
Llywodraeth y DU am gynigion ar gyfer Bil Cwynion am Wasanaethau, er mwyn
gwella’r system gwynion yn y Lluoedd Arfog drwy sefydlu Ombwdsmon ar gyfer
milwyr. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant
3 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Ym mhwynt 3, dileu ‘sefydlu’ a rhoi ‘ystyried’ yn ei le. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant
4 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd
yn darparu cefnogaeth ddigonol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog sydd ag
Anhwylder Straen wedi Trawma. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd
gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM5534
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r digwyddiadau diweddar i goffáu D-Day, Diwrnod Lluoedd
Arfog y DU a chanmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf; 2. Yn gwerthfawrogi cyfraniadau milwyr o Gymru, yn ddynion a
menywod, ac yn cydnabod yr anawsterau y gallant eu hwynebu ar ôl dychwelyd i
fywyd sifil; 3. Yn croesawu’r cyhoeddiad yn Rhaglen Ddeddfwriaethol
Llywodraeth y DU am gynigion ar gyfer Bil Cwynion am Wasanaethau, er mwyn
gwella’r system gwynion yn y Lluoedd Arfog drwy sefydlu Ombwdsmon ar gyfer
milwyr. 4. Yn gresynu at y ffaith bod toriadau i fudd-daliadau ar
gyfer pobl anabl, gan gynnwys y dreth ystafell wely, yn effeithio ar
gyn-aelodau’r Lluoedd Arfog a’r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried Cynllun Cerdyn
Cyn-filwyr i Gymru i alluogi: a) ehangu'r cynllun prisiau consesiynol presennol i gynnwys
cyn-filwyr b) mynediad am ddim i byllau nofio awdurdodau lleol i
gyn-filwyr c) mynediad am ddim i safleoedd Cadw i gyn-filwyr d) blaenoriaeth o ran triniaeth ar gyfer cyflyrau/anafiadau
sy'n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol ar y GIG e) blaenoriaeth o ran darparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl
i gyn-filwyr y mae angen addasiadau i'r cartref arnynt. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwasanaeth
iechyd yn darparu cefnogaeth ddigonol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog sydd
ag Anhwylder Straen wedi Trawma. 7. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r
potensial i godi cofeb Gymreig yn yr Ardd Goed Genedlaethol yn Swydd Stafford,
i gofio ac anrhydeddu'r holl ddynion a menywod dewr o Gymru a ymladdodd ac a
gollodd eu bywydau yn gwasanaethu'r genedl.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5535
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod aelwydydd a busnesau yng Nghymru yn cael
llawer o bost heb gyfeiriad nad yw byth yn cael ei agor ac sydd naill ai'n mynd
yn syth i'w dirlenwi neu'n cael ei ailgylchu; 2. Yn credu bod hwn yn straen ychwanegol ar: a) busnesau, sy'n gorfod talu am waredu gwastraff; a b) awdurdodau lleol, sydd â chyfrifoldeb am gasglu’r
gwastraff. 3. Yn pryderu am yr effaith amgylcheddol sy'n niweidiol i'n
hadnoddau naturiol, gyda phob tunnell o bost heb gyfeiriad arno yn defnyddio 17
o goed a 7000 galwyn o ddŵr i'w gynhyrchu; 4. Yn nodi ymhellach Ymgyrch Age Cymru ‘Sgamiau a Thwyll’. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyhoeddusrwydd i gynlluniau
eithrio fel y Gwasanaeth Dewis Derbyn Post. Mae Ymgyrch ‘Sgamiau a Thwyll’ Age Cymru ar gael yn: http://www.ageuk.org.uk/cymru/get-involved/make-a-donation3/scams-and-swindles/
[Saesneg yn unig] Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 TYNNWYD YN OL Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio ag awdurdodau lleol
a’r sector preifat i fabwysiadu biliau a chyfathrebu di-bapur lle bynnag y bo'n
bosibl. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r broses ar gyfer
‘Ardaloedd Dim Galw Diwahoddiad’, i amddiffyn pobl hŷn rhag masnachwyr
twyllodrus diegwyddor a sgamiau ar garreg y drws. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.13 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5535
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod aelwydydd a busnesau yng Nghymru yn cael
llawer o bost heb gyfeiriad nad yw byth yn cael ei agor ac sydd naill ai'n mynd
yn syth i'w dirlenwi neu'n cael ei ailgylchu; 2. Yn credu bod hwn yn straen ychwanegol ar: a) busnesau, sy'n gorfod talu am waredu gwastraff; a b) awdurdodau lleol, sydd â chyfrifoldeb am gasglu’r
gwastraff. 3. Yn pryderu am yr effaith amgylcheddol sy'n niweidiol i'n
hadnoddau naturiol, gyda phob tunnell o bost heb gyfeiriad arno yn defnyddio 17
o goed a 7000 galwyn o ddŵr i'w gynhyrchu; 4. Yn nodi ymhellach Ymgyrch Age Cymru ‘Sgamiau a Thwyll’. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyhoeddusrwydd i
gynlluniau eithrio fel y Gwasanaeth Dewis Derbyn Post.
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5536
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn dymuno'n dda i dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad. 2. Yn nodi pwysigrwydd chwaraeon a gweithgarwch corfforol i
iechyd a lles. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) sicrhau bod gan bawb fynediad i chwaraeon a gweithgarwch
corfforol; b) adolygu effeithiolrwydd addysg gorfforol o ran annog
cyfranogi gydol oes mewn chwaraeon a mynd i’r afael â chyfraddau cyfranogi isel
ymhlith rhai grwpiau economaidd-gymdeithasol; ac c) gwella'r cysylltiadau rhwng cyrff llywodraethu
cenedlaethol, awdurdodau lleol, ysgolion a chlybiau chwaraeon i sicrhau bod
arferion hyfforddiant gorau yn cael eu mabwysiadu i gynyddu'r tebygolrwydd y
bydd cenedlaethau'r dyfodol yn gallu cystadlu ar y lefel uchaf. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn credu ei bod yn bwysig bod ffyrdd egnïol o fyw ar gael i
bawb. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Yn is-bwynt 3b, dileu ‘cyfranogi gydol oes mewn chwaraeon’ a
rhoi ‘ymarfer corff gydol oes’ yn ei le. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3: sicrhau bod yr amgylchedd adeiledig wedi’i ddylunio i annog
ffyrdd egnïol o fyw. Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu effaith gadarnhaol digwyddiadau chwaraeon ar
lefelau cyfranogaeth mewn chwaraeon, megis Pencampwriaethau Athletau Ewrop y
Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol sydd ar fin cael eu cynnal yn Abertawe. Gwelliant
5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod cymryd rhan mewn chwaraeon a hyfforddi
chwaraeon yn gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn y gymuned. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.00 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5536
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn dymuno'n dda i dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad. 2. Yn nodi pwysigrwydd chwaraeon a gweithgarwch corfforol i
iechyd a lles. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) sicrhau bod gan bawb fynediad i chwaraeon a gweithgarwch
corfforol; b) adolygu effeithiolrwydd addysg gorfforol o ran annog
cyfranogi gydol oes mewn chwaraeon a mynd i’r afael â chyfraddau cyfranogi isel
ymhlith rhai grwpiau economaidd-gymdeithasol; ac c) gwella'r cysylltiadau rhwng cyrff llywodraethu
cenedlaethol, awdurdodau lleol, ysgolion a chlybiau chwaraeon i sicrhau bod
arferion hyfforddiant gorau yn cael eu mabwysiadu i gynyddu'r tebygolrwydd y
bydd cenedlaethau'r dyfodol yn gallu cystadlu ar y lefel uchaf.
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr
eitem am 17.54 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5532
Andrew RT Davies (Canol De Cymru) UEFA 2020 – Caerdydd, y ddinas berffaith i gynnal y
bencampwriaeth Mae cais Caerdydd i gynnal gemau allweddol ym
Mhencampwriaethau Ewrop UEFA yn 2020 yn gyfle i atgyfnerthu lle Cymru ar lwyfan
chwaraeon y byd. Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 17.57 NDM5532
Andrew RT Davies (Canol De Cymru) UEFA 2020 – Caerdydd, y ddinas berffaith i gynnal y
bencampwriaeth Mae cais Caerdydd i gynnal gemau allweddol ym
Mhencampwriaethau Ewrop UEFA yn 2020 yn gyfle i atgyfnerthu lle Cymru ar lwyfan
chwaraeon y byd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |