Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 2 i 4 a 6 i
9. Tynnwyd cwestiynau 1, 5 a 10 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.19 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 6, 8 i 9
ac 11 i 15. Tynnwyd cwestiynau 7 a 10 yn ôl. Atebwyd cwestiwnau 1, 3, 8, 9 a 14
gan y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.04 Gofynnwyd y 4 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(120 munud) |
Dadl ar Araith y Frenhines NDM5522
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar
gyfer 2014/2015. Rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU: https://www.gov.uk/government/topical-events/queens-speech-2014
[Saesneg yn unig] Dogfennau
ategol: Datganiad
Ysgrifenedig yr Ysgrifennydd Gwladol Gwybodaeth
am y Mesurau Seneddol yn Araith y Frenhines a ddarparwyd gan Swyddfa Cymru,
Mehefin 2014 Llythyr
gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod y model datganoli treth incwm a gynigir ar
gyfer Cymru, ym Mil Cymru, yn cael ei gyfyngu gan yr hyn a elwir yn fecanwaith
“cyd-gerdded”. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y diffyg cynigion yn rhaglen ddeddfwriaethol
Llywodraeth y DU i symud ymlaen ag unrhyw feysydd datganoli pellach a
argymhellwyd gan adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru. Gwelliant
3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU fod
wedi cynnwys deddfwriaeth i ail-gydbwyso economi’r DU mewn modd sy’n mynd i’r
afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol ac yn hyrwyddo tegwch economaidd. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r ffaith y bydd rhaglen ddeddfwriaethol
Llywodraeth y DU yn parhau i adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach. Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r cyhoeddiad yn rhaglen ddeddfwriaethol
Llywodraeth y DU ar ofal plant di-dreth a fydd yn golygu y bydd oddeutu 83,600
o deuluoedd yng Nghymru yn cael budd o £2,000 oddi ar gost eu gofal plant. Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r ffaith y bydd y Bil Troseddau Difrifol, yn
dilyn yr ymgyrch gan Aelod Seneddol Ceredigion, y Democrat Rhyddfrydol Cymreig
Mark Williams, yn cynnwys darpariaeth i nodi’n glir fod creulondeb sy’n debygol
o achosi niwed seicolegol i blentyn yn drosedd. Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r diwygiadau pensiwn chwyldroadol a gynigiwyd gan
Weinidog y Democratiaid Rhyddfrydol Steve Webb sydd i’w cynnwys yn y Bil
Pensiynau Preifat, a fydd yn rhoi rhyddid a diogelwch i bobl wedi ymddeol. Gwelliant
8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r ffaith y bydd y Draft Governance of National
Parks (England) & the Broads Bill yn cynnwys darpariaethau ar gyfer
etholiadau uniongyrchol ar gyfer awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn Lloegr, yn
dilyn ymgyrchu gan Aelod Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed, y Democrat
Rhyddfrydol Roger Williams, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi diwygiadau
tebyg ar waith yng Nghymru. Gwelliant
9 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth y DU, fel yr
amlinellir yn y rhaglen ddeddfwriaethol, i adfer lles ariannol yn y DU. Gwelliant
10 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y bydd y Biliau yn rhaglen ddeddfwriaethol
Llywodraeth y DU yn sicrhau dyfodol gwell a mwy disglair i bobl Cymru. Gwelliant
11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r ffaith y bydd rhaglen ddeddfwriaethol
Llywodraeth y DU yn rhoi mesurau allweddol ar waith i gynyddu ymhellach y
lwfans personol i £10,500, gan adeiladu ar yr ymrwymiad ym maniffesto’r
Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer etholiad cyffredinol 2010 i gynyddu trothwy’r
dreth incwm i £10,000. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.16 Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15 (i), penderfynodd y Pwyllgor
Busnes y byddai unrhyw bleidlais angenrheidiol yn digwydd ar ôl y ddadl. NDM5522 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer
2014/2015. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod y model datganoli treth incwm a gynigir ar gyfer Cymru, ym
Mil Cymru, yn cael ei gyfyngu gan yr hyn a elwir yn fecanwaith “cyd-gerdded”. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y diffyg cynigion yn rhaglen
ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU i symud ymlaen ag unrhyw feysydd datganoli
pellach a argymhellwyd gan adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU fod wedi cynnwys
deddfwriaeth i ail-gydbwyso economi’r DU mewn modd sy’n mynd i’r afael ag
anghydraddoldebau rhanbarthol ac yn hyrwyddo tegwch economaidd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r ffaith y bydd rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn parhau
i adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd
gwelliant 4. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r cyhoeddiad yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar
ofal plant di-dreth a fydd yn golygu y bydd oddeutu 83,600 o deuluoedd yng
Nghymru yn cael budd o £2,000 oddi ar gost eu gofal plant. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd
gwelliant 5. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r ffaith y bydd y Bil Troseddau Difrifol, yn dilyn yr ymgyrch
gan Aelod Seneddol Ceredigion, y Democrat Rhyddfrydol Cymreig Mark Williams, yn
cynnwys darpariaeth i nodi’n glir fod creulondeb sy’n debygol o achosi niwed
seicolegol i blentyn yn drosedd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd
gwelliant 6. Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r diwygiadau pensiwn chwyldroadol a gynigiwyd gan Weinidog y
Democratiaid Rhyddfrydol Steve Webb sydd i’w cynnwys yn y Bil Pensiynau
Preifat, a fydd yn rhoi rhyddid a diogelwch i bobl wedi ymddeol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Gwrthodwyd
gwelliant 7. Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r ffaith y bydd y Draft Governance of National Parks (England)
& the Broads Bill yn cynnwys darpariaethau ar gyfer etholiadau uniongyrchol
ar gyfer awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn Lloegr, yn dilyn ymgyrchu gan Aelod
Seneddol Brycheiniog a Sir Faesyfed, y Democrat Rhyddfrydol Roger Williams, ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi diwygiadau tebyg ar waith yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
Gwrthodwyd
gwelliant 8. Gwelliant 9 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth y DU, fel yr amlinellir yn y
rhaglen ddeddfwriaethol, i adfer lles ariannol yn y DU. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
Gwrthodwyd
gwelliant 9. Gwelliant 10 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y bydd y Biliau yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn
sicrhau dyfodol gwell a mwy disglair i bobl Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
Gwrthodwyd
gwelliant 10. Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r ffaith y bydd rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn
rhoi mesurau allweddol ar waith i gynyddu ymhellach y lwfans personol i
£10,500, gan adeiladu ar yr ymrwymiad ym maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol
ar gyfer etholiad cyffredinol 2010 i gynyddu trothwy’r dreth incwm i £10,000. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
Derbyniwyd
gwelliant 11. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM5522 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol
Llywodraeth y DU ar gyfer 2014/2015. 2. Yn gresynu bod y model datganoli treth incwm
a gynigir ar gyfer Cymru, ym Mil Cymru, yn cael ei gyfyngu gan yr hyn a elwir
yn fecanwaith “cyd-gerdded”. 3. Yn credu y dylai rhaglen ddeddfwriaethol
Llywodraeth y DU fod wedi cynnwys deddfwriaeth i ail-gydbwyso economi’r DU mewn
modd sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol ac yn hyrwyddo tegwch
economaidd. 4. Yn croesawu’r ffaith y bydd y Bil Troseddau
Difrifol, yn dilyn yr ymgyrch gan Aelod Seneddol Ceredigion, y Democrat
Rhyddfrydol Cymreig Mark Williams, yn cynnwys darpariaeth i nodi’n glir fod
creulondeb sy’n debygol o achosi niwed seicolegol i blentyn yn drosedd. 5. Yn croesawu’r ffaith y bydd rhaglen
ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn rhoi mesurau allweddol ar waith i gynyddu
ymhellach y lwfans personol i £10,500, gan adeiladu ar yr ymrwymiad ym
maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer etholiad cyffredinol 2010 i
gynyddu trothwy’r dreth incwm i £10,000.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15 (i), penderfynodd y Pwyllgor Busnes y byddai unrhyw bleidlais angenrheidiol yn digwydd ar ôl y ddadl. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5524
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cefnogi Wythnos Gofalwyr 2014 sy'n cydnabod ac yn
dathlu cyfraniad mwy na 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, sy'n darparu
cymorth amhrisiadwy i deulu a ffrindiau. 2. Yn nodi'r dystiolaeth gynyddol o rôl hynod heriol gofalu,
a all gael effaith andwyol ar iechyd, cyfleoedd cyflogaeth, gweithgarwch
cymdeithasol a hamdden y rhai sy'n rhoi gofal yn ddi-dâl. 3. Yn nodi canfyddiadau adroddiad ‘Prepared to Care?’ 2013 a
ganfu nad oedd 75 y cant o ofalwyr yn barod am rôl ofalu ac nad oedd 81 y cant
yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael, sy'n aml yn golygu bod gofalwyr yn
teimlo'n agored i niwed ac yn ynysig. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cefnogi ymgyrch ymwybyddiaeth i annog hunan-nodi a
mynediad i gymorth a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o rôl gofalwyr; b) datblygu gwybodaeth i gyflogwyr gynorthwyo gweithwyr sy'n
ceisio cael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u rolau gofalu; ac c) gweithio gyda darparwyr addysg i gynnig darpariaeth mwy
hyblyg i alluogi gofalwyr o bob oed i gael mynediad i gyfleoedd ar gyfer addysg
a hyfforddiant. Gellir gweld yr adroddiad 'Prepared to Care?' yma: http://www.carersweek.org/media/k2/attachments/Prepared_to_Care_FINAL.pdf Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi bod 11,000 o blant yn ofalwyr. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi bod yr adroddiad ‘Prepared to Care?’ yn nodi’r
trafferthion ariannol y mae gofalwyr yn eu hwynebu ac yn gresynu fod newidiadau
i hawliau nawdd cymdeithasol wedi effeithio’n niweidiol ar ofalwyr a’u
teuluoedd. Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pwysigrwydd seibiant i ofalwyr ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gymryd camau i sefydlu hawl gofalwyr i seibiant. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.20 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5524 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cefnogi Wythnos Gofalwyr 2014 sy'n
cydnabod ac yn dathlu cyfraniad mwy na 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru,
sy'n darparu cymorth amhrisiadwy i deulu a ffrindiau. 2. Yn nodi'r dystiolaeth gynyddol o rôl hynod
heriol gofalu, a all gael effaith andwyol ar iechyd, cyfleoedd cyflogaeth,
gweithgarwch cymdeithasol a hamdden y rhai sy'n rhoi gofal yn ddi-dâl. 3. Yn nodi canfyddiadau adroddiad ‘Prepared to
Care?’ 2013 a ganfu nad oedd 75 y cant o ofalwyr yn barod am rôl ofalu ac nad
oedd 81 y cant yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael, sy'n aml yn golygu bod
gofalwyr yn teimlo'n agored i niwed ac yn ynysig. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cefnogi ymgyrch ymwybyddiaeth i annog
hunan-nodi a mynediad i gymorth a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o rôl gofalwyr; b) datblygu gwybodaeth i gyflogwyr gynorthwyo
gweithwyr sy'n ceisio cael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u rolau gofalu; ac c) gweithio gyda darparwyr addysg i gynnig darpariaeth mwy hyblyg i
alluogi gofalwyr o bob oed i gael mynediad i gyfleoedd ar gyfer addysg a
hyfforddiant.
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr
eitem am 18.15 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5523
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) Datganoli: Ysgogwr Arloesedd Sut y mae datganoli wedi rhoi'r cyfle i ddatblygu mesurau
arloesol yng Nghymru a sut y mae elfennau arloesol o'r fath wedi dylanwadu ar
weddill y DU. Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 18.15 NDM5523 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) Datganoli: Ysgogwr Arloesedd Sut y mae datganoli wedi rhoi'r cyfle i ddatblygu mesurau arloesol yng
Nghymru a sut y mae elfennau arloesol o'r fath wedi dylanwadu ar weddill y DU. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |