Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Atebwyd
cwestiwn 1 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. |
|||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.15 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf.
Atebwyd cwestiynau 5 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Lefelau Cyfranogiad mewn Chwaraeon NDM5509
Christine Chapman (Cwm Cynon) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol ar Lefelau Cyfranogiad Mewn Chwaraeon, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 13 Mawrth 2014. Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 14 Mai 2014. Dogfennau
Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 15.02 NDM5509 Christine Chapman (Cwm Cynon) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Lefelau Cyfranogiad Mewn Chwaraeon,
a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mawrth 2014. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5512
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi methiannau polisi Llafur Cymru yn ystod 15 mlynedd
mewn llywodraeth yng Nghymru; 2. Yn gresynu at y diffyg perfformiad yn: a) Yr economi, gyda gwerth ychwanegol crynswth (GYC) bellach
ar 72.3% o gyfartaledd y DU; b) Addysg, lle mae safle Cymru yn safleoedd PISA wedi dirywio
ym mhob cyfnod asesu; c) Y GIG, gydag un o bob saith yng Nghymru ar restr aros Cyflwynwyd
y gwelliant canlynol: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddysgu o lwyddiant Llywodraeth
yr Alban o ran gwella twf economaidd a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus mewn
cyd-destun datganoledig. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.44 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5512 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi methiannau polisi Llafur Cymru yn ystod 15 mlynedd
mewn llywodraeth yng Nghymru; 2. Yn gresynu at y diffyg perfformiad yn: a) Yr economi, gyda gwerth ychwanegol crynswth (GYC) bellach
ar 72.3% o gyfartaledd y DU; b) Addysg, lle mae safle Cymru yn safleoedd PISA wedi dirywio
ym mhob cyfnod asesu; c) Y GIG, gydag un o bob saith yng Nghymru ar restr aros
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddysgu o lwyddiant Llywodraeth
yr Alban o ran gwella twf economaidd a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus mewn
cyd-destun datganoledig. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y
cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y
cynnig. |
|||||||||||||||||
Pwynt o Drefn Cododd Alun Davies bwynt o drefn ynghlych sylwadau gan
Aelod arall ynglŷn â Blaenau Gwent, a oedd allan o drefn yn ei farn ef.
Dywedodd y Dirprwy Lywydd nad oedd y sylwadau a wnaed allan o drefn. |
||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5511
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu bod rhannau o gymoedd de Cymru yn parhau i
wynebu lefelau uchel o amddifadedd. 2. Yn cydnabod bod trechu tlodi yn y Cymoedd yn ei gwneud yn ofynnol
cael buddsoddiad parhaus ac ymyriad Llywodraeth Cymru. 3. Yn nodi'r potensial sylweddol i gymoedd de Cymru hyrwyddo
eu treftadaeth gymdeithasol a diwylliannol. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cynorthwyo'n uniongyrchol fentrau ar lawr gwlad i drechu
tlodi a gwella adfywiad ardaloedd ag amddifadedd yn y Cymoedd; b) sicrhau bod digon o ofal plant fforddiadwy i ddiwallu
anghenion rhieni; c) sicrhau bod gan bob unigolyn sydd allan o waith yn y
Cymoedd fynediad i hyfforddiant prentisiaeth neu sgiliau; d) datblygu, drwy ymgynghori â'r cyhoedd, strategaeth
gynhwysfawr i fynd i'r afael â'r problemau a meithrin cymunedau cynaliadwy yn y
Cymoedd. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: 1. Yn cydnabod yr effaith y mae polisi economaidd Llywodraeth
y DU wedi’i chael ar gymoedd de Cymru o ran: a) sefydlogi’r economi a hybu twf economaidd; b) rhoi hyder i gyflogwyr gynyddu cyfleoedd cyflogaeth; c) cefnogi creu cyfoeth a fydd yn cyllido ac yn cynnal
darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 3 ar ôl ‘gymdeithasol a diwylliannol’, rhoi: ‘ac yn condemnio’r camreolaeth sydd wedi arwain at gau rhai o
ganolfannau pwysig o werth cymdeithasol a diwylliannol sylweddol yn yr
ardaloedd hynny’. Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnwys is-bwynt 4a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: cydlynu’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r gymdeithas
sifil yng nghymoedd de Cymru i sicrhau bod yr ardaloedd hynny yn manteisio i’r
eithaf ar botensial twf economaidd Cymru. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt 4d) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: ‘annog awdurdodau lleol yn y Cymoedd i ddefnyddio pwerau o
dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 i ddynodi Asedau o Werth Cymunedol a gwarchod
adeiladau pwysig rhag y perygl o orfod cau.’ Gwelliant
5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig: Yn gresynu bod Gorllewin Cymru a’r Cymoedd wedi bod yn gymwys
ar gyfer tri chylch o gyllid strwythurol yr UE gan eu bod yn is na 75% o
gynnyrch mewnwladol crynswth yr UE. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.49 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5511 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
gresynu bod rhannau o gymoedd de Cymru yn parhau i wynebu lefelau uchel o
amddifadedd. 2. Yn
cydnabod bod trechu tlodi yn y Cymoedd yn ei gwneud yn ofynnol cael buddsoddiad
parhaus ac ymyriad Llywodraeth Cymru. 3. Yn
nodi'r potensial sylweddol i gymoedd de Cymru hyrwyddo eu treftadaeth
gymdeithasol a diwylliannol. 4. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cynorthwyo'n
uniongyrchol fentrau ar lawr gwlad i drechu tlodi a gwella adfywiad ardaloedd
ag amddifadedd yn y Cymoedd; b)
sicrhau bod digon o ofal plant fforddiadwy i ddiwallu anghenion rhieni; c)
sicrhau bod gan bob unigolyn sydd allan o waith yn y Cymoedd fynediad i
hyfforddiant prentisiaeth neu sgiliau; d)
datblygu, drwy ymgynghori â'r cyhoedd, strategaeth gynhwysfawr i fynd i'r afael
â'r problemau a meithrin cymunedau cynaliadwy yn y Cymoedd.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y
gloch am 17.44 a gohiriwyd y cyfarfod gan ailgynnull am 17.46 ar gyfer y cyfnod
pleidleisio. |
||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5513
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Sgrinio ar gyfer Dyslecsia yng Nghymru Pwysigrwydd sgrinio amserol a digonol ar gyfer dyslecsia yng
Nghymru, yn enwedig o ran technegau a ddatblygwyd yn ddiweddar ar gyfer sgrinio
plant ysgol gynradd sy'n cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 17.49 NDM5513 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Sgrinio ar gyfer Dyslecsia yng Nghymru Pwysigrwydd sgrinio amserol a digonol ar gyfer dyslecsia yng
Nghymru, yn enwedig o ran technegau a ddatblygwyd yn ddiweddar ar gyfer sgrinio
plant ysgol gynradd sy'n cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. |
|||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol:
|