Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad y Llywydd Gan fod saith o’r cwestiynau a gyflwynwyd ar gyfer yr
agenda heddiw wedi’u tynnu yn ôl, atgoffodd y Llywydd yr Aelodau fod tynnu
cwestiynau yn ôl, wedi iddynt gael eu cyflwyno, yn effeithio’n ddifrifol ar
allu’r Cynulliad i graffu ar waith y Llywodraeth. Mae Aelodau sy’n cyflwyno
cwestiwn ar gyfer sesiwn na fyddant yn bresennol ynddi yn amddifadu Aelodau
eraill o’r cyfle i ofyn cwestiwn. Atgoffodd y Llywydd yr Aelodau mai braint,
nid hawl, yw cael eu galw i siarad yn y Cynulliad, ac y byddai’n cymryd camau
priodol yn erbyn Aelodau sydd, drwy eu gweithredoedd eu hunain, yn amddifadu
eraill o’r cyfle i ofyn cwestiwn. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.31 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 6, 8 a 10 i 14. Tynnwyd cwestiynau
7, 9 a 15 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.22 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 5, 7 i 8 ac 11 i 15. Tynnwyd
cwestiynau 6, 9 a 10 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.59 Tynnwyd y cwestiwn yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5493
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi argymhellion adroddiad diweddar y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar rôl Cymru yn y broses o wneud
penderfyniadau yn yr UE. 2. Yn nodi ymhellach bod Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn
cael eu dyfarnu i ranbarthau â chynnyrch mewnwladol crynswth o lai na 75% o
gyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd ac yn gresynu bod Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
yn gymwys am drydedd rownd o gyllid. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cynlluniau a
gyllidir gan yr UE yn cael eu diweddaru yn fwy cynhwysfawr ac yn fwy rheolaidd
drwy WEFO. 4. Yn gresynu at fethiant dramatig prosiectau proffil uchel
gan gynnwys Genesis 2 Cymru. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyllid ar
gyfer y cyfnod 2014-2020 yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol i sicrhau nad yw
Cymru yn gymwys am bedwaredd rownd. Mae adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol ar rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE ar gael
yn: http://www.cynulliadcymru.org/cy/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs/cr-ld9674-e.pdf Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod pa mor bwysig ydyw bod y DU yn parhau i fod yn
aelod o’r Undeb Ewropeaidd i wneud Cymru yn lle mwy llewyrchus, cynaliadwy a
diogel. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pe byddai’r DU yn rhoi’r gorau i fod yn aelod o’r
Undeb Ewropeaidd, mai dyna fyddai diwedd rôl Cymru yn y broses o wneud
penderfyniadau yn yr UE ac y byddai'n niweidiol i'r economi. Gwelliant
3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gweithio ar lefel Ewropeaidd i gryfhau rôl Pwyllgor y
Rhanbarthau; a b) ceisio cael llais cryfach i Gymru yn y Sefydliadau
Ewropeaidd Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.59 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5493 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi argymhellion adroddiad diweddar y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar rôl Cymru yn y broses o
wneud penderfyniadau yn yr UE. 2. Yn nodi ymhellach bod Cronfeydd Strwythurol
Ewropeaidd yn cael eu dyfarnu i ranbarthau â chynnyrch mewnwladol crynswth o
lai na 75% o gyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd ac yn gresynu bod Gorllewin Cymru
a'r Cymoedd yn gymwys am drydedd rownd o gyllid. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
cynlluniau a gyllidir gan yr UE yn cael eu diweddaru yn fwy cynhwysfawr ac yn
fwy rheolaidd drwy WEFO. 4. Yn gresynu at fethiant dramatig prosiectau
proffil uchel gan gynnwys Genesis 2 Cymru. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyllid ar gyfer y cyfnod
2014-2020 yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol i sicrhau nad yw Cymru yn gymwys
am bedwaredd rownd.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny: Yn cydnabod pa mor bwysig ydyw bod y DU yn parhau i fod yn aelod o’r Undeb
Ewropeaidd i wneud Cymru yn lle mwy llewyrchus, cynaliadwy a diogel. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pe byddai’r DU yn rhoi’r gorau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd,
mai dyna fyddai diwedd rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE ac
y byddai'n niweidiol i'r economi. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gweithio ar lefel Ewropeaidd i gryfhau rôl
Pwyllgor y Rhanbarthau; a b) ceisio cael llais cryfach i Gymru yn y Sefydliadau Ewropeaidd Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM5493 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi argymhellion adroddiad diweddar y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar rôl Cymru yn y broses o
wneud penderfyniadau yn yr UE. 2. Yn nodi ymhellach bod Cronfeydd Strwythurol
Ewropeaidd yn cael eu dyfarnu i ranbarthau â chynnyrch mewnwladol crynswth o
lai na 75% o gyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd ac yn gresynu bod Gorllewin Cymru
a'r Cymoedd yn gymwys am drydedd rownd o gyllid. 3. Yn cydnabod pa mor bwysig ydyw bod y DU yn parhau i fod yn aelod o’r
Undeb Ewropeaidd i wneud Cymru yn lle mwy llewyrchus, cynaliadwy a diogel. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
cynlluniau a gyllidir gan yr UE yn cael eu diweddaru yn fwy cynhwysfawr ac yn
fwy rheolaidd drwy WEFO. 5. Yn gresynu at fethiant dramatig prosiectau
proffil uchel gan gynnwys Genesis 2 Cymru. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyllid ar gyfer y cyfnod
2014-2020 yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol i sicrhau nad yw Cymru yn gymwys
am bedwaredd rownd. 7. Yn nodi pe byddai’r DU yn rhoi’r gorau i fod yn aelod o’r Undeb
Ewropeaidd, mai dyna fyddai diwedd rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau
yn yr UE ac y byddai'n niweidiol i'r economi. 8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gweithio ar lefel Ewropeaidd i gryfhau rôl
Pwyllgor y Rhanbarthau; a b) ceisio cael llais cryfach i Gymru yn y Sefydliadau Ewropeaidd.
Gwrthodwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5494
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r effaith economaidd a chymdeithasol gadarnhaol y
mae'r dafarn yn ei chael ar gymunedau lleol. 2. Yn nodi ymhellach y gwaith nodedig sy'n cael ei wneud gan
gynlluniau fel Pub is the Hub, ledled Cymru a Lloegr, o ran sicrhau y gall
tafarnau ganolbwyntio mwy ar y gymuned. 3. Yn cydnabod bod yr astudiaethau achos gan grwpiau
ymgyrchu, fel Pub is the Hub a'r Campaign for Real Ale, yn astudiaethau pwysig
i ddysgu ohonynt. 4. Yn gresynu bod ystadegau diweddar y Campaign for Real Ale
yn awgrymu bod tair tafarn yr wythnos yn cau yng Nghymru. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n fwy effeithiol gyda’r
diwydiant tafarnau yng Nghymru i sicrhau llwyddiant parhaus tafarnau Cymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu cronfa mentrau cymunedol
er mwyn i gymunedau allu prynu tafarnau sydd mewn perygl o gau. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar y posibilrwydd o
gefnogi tafarnau cymunedol drwy ddefnyddio pwerau rhyddhad ardrethi busnes. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y system gynllunio fel na
ellir dymchwel yr un tafarn neu newid ei ddefnydd heb gael caniatâd cynllunio. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu dosbarth defnydd ar wahân
ar gyfer tafarnau cymunedol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.02 NDM5494 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r effaith economaidd a chymdeithasol
gadarnhaol y mae'r dafarn yn ei chael ar gymunedau lleol. 2. Yn nodi ymhellach y gwaith nodedig sy'n cael
ei wneud gan gynlluniau fel Pub is the Hub, ledled Cymru a Lloegr, o ran
sicrhau y gall tafarnau ganolbwyntio mwy ar y gymuned. 3. Yn cydnabod bod yr astudiaethau achos gan
grwpiau ymgyrchu, fel Pub is the Hub a'r Campaign for Real Ale, yn astudiaethau
pwysig i ddysgu ohonynt. 4. Yn gresynu bod ystadegau diweddar y Campaign
for Real Ale yn awgrymu bod tair tafarn yr wythnos yn cau yng Nghymru. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n fwy effeithiol gyda’r diwydiant
tafarnau yng Nghymru i sicrhau llwyddiant parhaus tafarnau Cymru. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5495
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith ieuenctid yn
21.3% - y lefel uchaf o blith pedair gwlad y DU; 2. Yn gresynu bod diweithdra hirdymor ymhlith pobl ifanc wedi
cynyddu bedair gwaith ers ffurfio'r Llywodraeth Cymru bresennol; 3. Yn cydnabod gwerth pobl ifanc i economi Cymru; a 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar unwaith i
wella rhagolygon economaidd pobl ifanc. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 3, ar ôl 'Cymru’ rhoi ‘ac yn gresynu mai dim ond
60% o raddedigion gradd gyntaf cyflogedig, llawn amser o Sefydliadau Addysg
Uwch Cymru a arhosodd yng Nghymru i weithio chwe mis ar ôl graddio.' [Nid yw’r Llywydd wedi dethol gwelliant 2 ar gyfer y ddadl] Gwelliant
2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 3 a’i roi yn ôl i mewn fel pwynt 1 newydd ac
ailrifo yn unol â hynny. Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ym mhwynt 4, dileu ‘gymryd camau ar unwaith’ a rhoi yn ei le
‘weithio ar y cyd gyda Llywodraeth y DU’. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gasglu gwell data er mwyn
cyfrannu at bolisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i allu cydweddu cyfleoedd hyfforddi
a graddedigion yng Nghymru yn well. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.56 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5495 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith
ieuenctid yn 21.3% - y lefel uchaf o blith pedair gwlad y DU; 2. Yn gresynu bod diweithdra hirdymor ymhlith
pobl ifanc wedi cynyddu bedair gwaith ers ffurfio'r Llywodraeth Cymru
bresennol; 3. Yn cydnabod gwerth pobl ifanc i economi
Cymru; a 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar unwaith i wella
rhagolygon economaidd pobl ifanc.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 3, ar ôl 'Cymru’ rhoi ‘ac yn gresynu mai dim ond 60% o
raddedigion gradd gyntaf cyflogedig, llawn amser o Sefydliadau Addysg Uwch
Cymru a arhosodd yng Nghymru i weithio chwe mis ar ôl graddio.' Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd
gwelliant 1. Ni ddetholwyd gwelliant 2 a gyflwynwyd ar gyfer
y ddadl. Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ym mhwynt 4, dileu ‘gymryd camau ar unwaith’ a rhoi yn ei le ‘weithio ar y
cyd gyda Llywodraeth y DU’. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gasglu gwell data er mwyn cyfrannu at
bolisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i allu cydweddu cyfleoedd hyfforddi a
graddedigion yng Nghymru yn well. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd
gwelliant 4. Gan fod
y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y
gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr
eitem am 17.41 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5488
Christine Chapman (Cwm Cynon) 200,000 o blant tawel? Ystyried anghenion plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni
wedi’u carcharu. Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 17.46 NDM5488 Christine Chapman (Cwm Cynon) 200,000 o blant tawel? Ystyried anghenion plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |