Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2, 4 i 6
ac 8 i 15. Cafodd cwestiynau 2, 5 a 10 eu grwpio. Atebwyd cwestiynau 1, 4 a 9
gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Tynnwyd cwestiynau 3 a 7 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.20 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 4 a 6 i 15. Tynnwyd cwestiwn 5
yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ar Isafswm Lefelau Staffio Nyrsys (Kirsty Williams) NDM5402
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.91: Yn cytuno y caiff Kirsty Williams gyflwyno Bil i weithredu'r
wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 15 Ebrill 2013 o dan Reol Sefydlog 26.90.
Gellir gweld y wybodaeth cyn y balot drwy fynd i: http://www.cynulliadcymru.org/cy/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill-046.htm Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 15.02 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio. NDM5402 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir
Faesyfed): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol
â Rheol Sefydlog 26.91; Yn cytuno y caiff Kirsty Williams gyflwyno Bil i
weithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 15 Ebrill 2013 o dan Reol
Sefydlog 26.90. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5444
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pryderon a fynegwyd gan Syr Bruce Keogh ynglyn ag
amseroedd aros a chyfraddau marwolaeth yn GIG Cymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ar unwaith adolygiad
annibynnol o ysbytai Cymru sydd â chyfraddau marwolaeth sy'n uwch na'r
cyfartaledd. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu cylch gwaith a
swyddogaethau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn dilyn y pryderon a godwyd
ynghylch amseroedd aros a chyfraddau marwolaeth yn GIG Cymru. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pa gamau y mae wedi’u
cymryd i adolygu perfformiad ysbytai gyda data Mynegai Marwolaethau wedi'i
Addasu yn ôl Risg (RAMI) sy’n uwch na’r disgwyl. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.55 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5444 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pryderon a fynegwyd gan Syr Bruce
Keogh ynglyn ag amseroedd aros a chyfraddau marwolaeth yn GIG Cymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ar
unwaith adolygiad annibynnol o ysbytai Cymru sydd â chyfraddau marwolaeth sy'n
uwch na'r cyfartaledd.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu cylch
gwaith a swyddogaethau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn dilyn y pryderon a
godwyd ynghylch amseroedd aros a chyfraddau marwolaeth yn GIG Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd
gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pa gamau
y mae wedi’u cymryd i adolygu perfformiad ysbytai gyda data Mynegai
Marwolaethau wedi'i Addasu yn ôl Risg (RAMI) sy’n uwch na’r disgwyl. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM5444 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pryderon a fynegwyd gan Syr Bruce
Keogh ynglyn ag amseroedd aros a chyfraddau marwolaeth yn GIG Cymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ar
unwaith adolygiad annibynnol o ysbytai Cymru sydd â chyfraddau marwolaeth sy'n
uwch na'r cyfartaledd. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pa
gamau y mae wedi’u cymryd i adolygu perfformiad ysbytai gyda data Mynegai
Marwolaethau wedi'i Addasu yn ôl Risg (RAMI) sy’n uwch na’r disgwyl.
Gwrthodwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5441
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod llwyddiant hanesyddol Cymru fel canolfan ar
gyfer arloesi a diwydiant; 2. Yn cydnabod rhan ganolog strategaeth sy’n seiliedig ar allforio
ar gyfer llwyddiant economaidd yn y dyfodol; 3. Yn credu bod dulliau newydd yn angenrheidiol i asesu'r
gallu i allforio; a 4. Yn cefnogi ymdrechion i sicrhau potensial mwyaf posibl
busnesau cynhenid i ehangu a chreu cyflogaeth a ffyniant. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘Cymru’ a rhoi yn ei le ‘fel
cenedl o entrepreneuriaeth, creadigrwydd, diwydiant, arloesedd cymdeithasol ac
economaidd’ Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod pwysigrwydd allforio, mewnfuddsoddi a masnach o
fewn y DU o ran unrhyw strategaeth ar gyfer llwyddiant economaidd i Gymru. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod pwysigrwydd aelodaeth Cymru o’r Undeb Ewropeaidd
i fusnesau Cymru a’r potensial o ran allforio, gyda 44% o allforion Cymru’n
mynd i aelod-wladwriaethau eraill yr UE. Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl ‘bod’ a rhoi yn ei le ‘rhaid
i Lywodraeth Cymru ddatblygu dulliau newydd i asesu’r gallu i allforio; a’ Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 4, dileu ‘busnesau cynhenid’ a rhoi yn ei le
‘busnesau a leolir yng Nghymru’. Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 16.52 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5441 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod llwyddiant hanesyddol Cymru fel
canolfan ar gyfer arloesi a diwydiant; 2. Yn cydnabod rhan ganolog strategaeth sy’n
seiliedig ar allforio ar gyfer llwyddiant economaidd yn y dyfodol; 3. Yn credu bod dulliau newydd yn angenrheidiol i
asesu'r gallu i allforio; a 4. Yn cefnogi ymdrechion i sicrhau potensial
mwyaf posibl busnesau cynhenid i ehangu a chreu cyflogaeth a ffyniant.
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17.46 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5445
William Graham (Dwyrain De Cymru) Llong Ganoloesol Casnewydd – Wedi'i suddo ym 1469 ac yn 2014? Cynyddu ymwybyddiaeth ac arwyddocâd hanesyddol unigryw'r
llong hon i sicrhau ei chadwraeth a'i harddangos yng Nghasnewydd. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
17.50 NDM5445 William Graham (Dwyrain De Cymru) Llong Ganoloesol Casnewydd – Wedi'i suddo ym 1469
ac yn 2014? Cynyddu ymwybyddiaeth ac arwyddocâd hanesyddol
unigryw'r llong hon i sicrhau ei chadwraeth a'i harddangos yng Nghasnewydd |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |