Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.13 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 1, 7, 9, 10 a 12
eu grwpio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. Penderfyniad: Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.3 i addasu cylch gwaith a theitlau pwyllgorau NDM5403
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.3, yn cytuno i: 1. newid cylch gwaith y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i
gynnwys Addysg Uwch; 2. newid teitl y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i'r Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; 3. trosglwyddo twristiaeth o gylch gwaith y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gylch gwaith y Pwyllgor Menter a
Busnes. Mae cynigion y Pwyllgor Busnes i’w gweld yn yr adroddiad
‘Portffolios a Chyfrifoldebau'r Pwyllgorau yn y Pedwerydd Cynulliad’ a osodwyd
ar 15 Ionawr 2014. Dogfennau
Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 14.57 NDM5403
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.3, yn cytuno i: 1. newid cylch gwaith y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i gynnwys
Addysg Uwch; 2. newid teitl y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i'r Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; 3. trosglwyddo twristiaeth o gylch gwaith y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gylch gwaith y Pwyllgor Menter a
Busnes. Mae cynigion y Pwyllgor Busnes i’w gweld yn yr adroddiad
‘Portffolios a Chyfrifoldebau'r Pwyllgorau yn y Pedwerydd Cynulliad’ a osodwyd
ar 15 Ionawr 2014. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar yr Ymchwiliad i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc NDM5404
Nick Ramsay (Mynwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar yr Ymchwiliad
i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14
Tachwedd 2013. Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 15 Ionawr
2014. Dogfennau Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Menter a Busnes Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 14.57 NDM5404
Nick Ramsay (Mynwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar yr Ymchwiliad
i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14
Tachwedd 2013. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5407
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi llifogydd a difrod mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr
2014 sydd wedi effeithio ar bobl a chymunedau ledled Cymru. 2. Yn cydnabod gwaith rhagorol y gwasanaethau a’r sefydliadau
brys o ran darparu cefnogaeth a chymorth i'r cymunedau hynny. 3. Yn credu y dylai'r defnydd deuol posibl o brosiectau ynni
adnewyddadwy lleol gael ei ystyried o ran darparu amddiffynfeydd môr pellach. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) mynd ati ar unwaith i adolygu Nodyn Cyngor Technegol 15:
Datblygu a Pherygl o Lifogydd; b) datblygu ac ail-lansio'r cynllun grant a dreialwyd yn
2010/11 i ddarparu cyllid i'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf o lifogydd i
wneud eu cartrefi'n fwy diogel rhag llifogydd; c) cyhoeddi adroddiadau ymchwiliad Cyfoeth Naturiol Cymru i’r
llifogydd diweddar, ar ôl eu cwblhau. Mae Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Pherygl o Lifogydd
ar gael yn: http://cymru.gov.uk/docs/desh/publications/040701tan15cy.pdf Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn canmol gwirfoddolwyr lleol ar hyd a lled Cymru am eu
hymroddiad yn ystod y broses lanhau ac adfer. Gwelliant
2 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu is-bwyntiau 4a a 4b a rhoi yn eu lle: parhau â’i dull a ddisgrifir yn y Strategaeth Genedlaethol ar
gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru a’r buddsoddiad o
£240 miliwn i ddelio â llifogydd yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Gellir gweld y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli
Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru drwy ddilyn y ddolen yma:
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt 4a newydd ac ailrifo yn unol â hynny: cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru ynghylch y camau y mae wedi'u cymryd i ymchwilio i'r posibilrwydd o
ddefnyddio cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd i gynorthwyo gyda’r costau yn sgîl
gwaith atgyweirio. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt 4a newydd ac ailrifo yn unol â hynny: ymgysylltu’n gadarnhaol â phartneriaid perthnasol i sicrhau
agwedd bragmatig tuag at geisiadau gan fusnesau a thai i ôl-ffitio eiddo at
ddibenion gwella mesurau atal llifogydd. Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt 4a newydd ac ailrifo yn unol â hynny: amlinellu’r camau sy’n cael eu cymryd i ddefnyddio gwybodaeth
leol a thechnegau rheoli tir arloesol i wneud mwy o ddefnydd o adnoddau
naturiol i leihau effaith llifogydd, a chymryd camau i sicrhau bod
cynrychiolwyr yn gwella eu sgiliau’n briodol er mwyn gwella’r gallu i
wrthsefyll llifogydd. Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt 4a newydd ac ailrifo yn unol â hynny: annog adolygiad o’r polisi clirio afonydd yng Nghymru cyn
gynted â phosibl, er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd. Gwelliant
7 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4: ‘sefydlu Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i Gymru’. Gwelliant
8 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4: ‘cyfrifo'r gost ychwanegol i lywodraeth leol a sefydliadau
cyhoeddus eraill yn sgîl y stormydd diweddar, ac ystyried ar unwaith yr angen i
wneud cais am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU neu'r Undeb Ewropeaidd i
helpu i ysgwyddo'r baich ariannol’. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.44 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5407
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi llifogydd a difrod mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr
2014 sydd wedi effeithio ar bobl a chymunedau ledled Cymru. 2. Yn cydnabod gwaith rhagorol y gwasanaethau a’r sefydliadau
brys o ran darparu cefnogaeth a chymorth i'r cymunedau hynny. 3. Yn credu y dylai'r defnydd deuol posibl o brosiectau ynni
adnewyddadwy lleol gael ei ystyried o ran darparu amddiffynfeydd môr pellach. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) mynd ati ar unwaith i adolygu Nodyn Cyngor Technegol 15:
Datblygu a Pherygl o Lifogydd; b) datblygu ac ail-lansio'r cynllun grant a dreialwyd yn
2010/11 i ddarparu cyllid i'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf o lifogydd i
wneud eu cartrefi'n fwy diogel rhag llifogydd; c) cyhoeddi adroddiadau ymchwiliad Cyfoeth Naturiol Cymru i’r
llifogydd diweddar, ar ôl eu cwblhau.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn canmol gwirfoddolwyr lleol ar hyd a lled Cymru am eu
hymroddiad yn ystod y broses lanhau ac adfer. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Gwelliant
2 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu is-bwyntiau 4a a 4b a rhoi yn eu lle: parhau â’i dull a ddisgrifir yn y Strategaeth Genedlaethol ar
gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru a’r buddsoddiad o
£240 miliwn i ddelio â llifogydd yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn
y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt 4a newydd ac ailrifo yn unol â hynny: cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru ynghylch y camau y mae wedi'u cymryd i ymchwilio i'r posibilrwydd o
ddefnyddio cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd i gynorthwyo gyda’r costau yn sgîl
gwaith atgyweirio. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt 4a newydd ac ailrifo yn unol â hynny: ymgysylltu’n gadarnhaol â phartneriaid perthnasol i sicrhau
agwedd bragmatig tuag at geisiadau gan fusnesau a thai i ôl-ffitio eiddo at
ddibenion gwella mesurau atal llifogydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd
gwelliant 4. Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt 4a newydd ac ailrifo yn unol â hynny: amlinellu’r camau sy’n cael eu cymryd i ddefnyddio gwybodaeth
leol a thechnegau rheoli tir arloesol i wneud mwy o ddefnydd o adnoddau
naturiol i leihau effaith llifogydd, a chymryd camau i sicrhau bod
cynrychiolwyr yn gwella eu sgiliau’n briodol er mwyn gwella’r gallu i
wrthsefyll llifogydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd
gwelliant 5. Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt 4a newydd ac ailrifo yn unol â hynny: annog adolygiad o’r polisi clirio afonydd yng Nghymru cyn
gynted â phosibl, er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd
gwelliant 6. Gwelliant
7 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4: ‘sefydlu Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i Gymru’. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Derbyniwyd
gwelliant 7. Gwelliant
8 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4: ‘cyfrifo'r gost ychwanegol i lywodraeth leol a sefydliadau
cyhoeddus eraill yn sgîl y stormydd diweddar, ac ystyried ar unwaith yr angen i
wneud cais am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU neu'r Undeb Ewropeaidd i
helpu i ysgwyddo'r baich ariannol’. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
Derbyniwyd
gwelliant 8. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM5407
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi llifogydd a difrod mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr
2014 sydd wedi effeithio ar bobl a chymunedau ledled Cymru. 2. Yn cydnabod gwaith rhagorol y gwasanaethau a’r sefydliadau
brys o ran darparu cefnogaeth a chymorth i'r cymunedau hynny. 3. Yn canmol gwirfoddolwyr lleol ar hyd a lled Cymru am eu
hymroddiad yn ystod y broses lanhau ac adfer. 4. Yn credu y dylai'r defnydd deuol posibl o brosiectau ynni
adnewyddadwy lleol gael ei ystyried o ran darparu amddiffynfeydd môr pellach. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) annog adolygiad o’r polisi clirio afonydd yng Nghymru cyn
gynted â phosibl, er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd. b) amlinellu’r camau sy’n cael eu cymryd i ddefnyddio
gwybodaeth leol a thechnegau rheoli tir arloesol i wneud mwy o ddefnydd o
adnoddau naturiol i leihau effaith llifogydd, a chymryd camau i sicrhau bod
cynrychiolwyr yn gwella eu sgiliau’n briodol er mwyn gwella’r gallu i
wrthsefyll llifogydd. c) ymgysylltu’n gadarnhaol â phartneriaid perthnasol i
sicrhau agwedd bragmatig tuag at geisiadau gan fusnesau a thai i ôl-ffitio
eiddo at ddibenion gwella mesurau atal llifogydd. d) cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru ynghylch y camau y mae wedi'u cymryd i ymchwilio i'r posibilrwydd o
ddefnyddio cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd i gynorthwyo gyda’r costau yn sgîl
gwaith atgyweirio. e) mynd ati ar unwaith i adolygu Nodyn Cyngor Technegol 15:
Datblygu a Pherygl o Lifogydd; f) datblygu ac ail-lansio'r cynllun grant a dreialwyd yn
2010/11 i ddarparu cyllid i'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf o lifogydd i
wneud eu cartrefi'n fwy diogel rhag llifogydd; g) cyhoeddi adroddiadau ymchwiliad Cyfoeth Naturiol Cymru i’r
llifogydd diweddar, ar ôl eu cwblhau; h) sefydlu Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i Gymru; i) cyfrifo'r gost ychwanegol i lywodraeth leol a sefydliadau
cyhoeddus eraill yn sgîl y stormydd diweddar, ac ystyried ar unwaith yr angen i
wneud cais am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU neu'r Undeb Ewropeaidd i
helpu i ysgwyddo'r baich ariannol.
Fel
sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei
bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig fel y’i diwygiwyd. Felly,
gwrthodwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5405
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod dros flwyddyn wedi mynd heibio ers cyhoeddi
ffigurau cyfrifiad 2011 sy’n dangos bod gostyngiad o 2 y cant yn y nifer o
siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn galluogi’r
Gymraeg i ffynnu drwy, ymysg pethau eraill: a) sicrhau bod gan bawb yng Nghymru’r cyfle i ddysgu Cymraeg; b) buddsoddi mewn gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg; c) cynyddu nifer y disgyblion sy’n derbyn y Cyfnod Sylfaen
drwy gyfrwng y Gymraeg; d) defnyddio’r potensial o dan Fesur y Gymraeg 2011 i osod
safonau ar gyfer y Gymraeg sy’n rhoi hawliau cryfach i siaradwyr Cymraeg na
chynlluniau iaith o dan Ddeddf Iaith 1993; e) annog cyrff cyhoeddus i ddefnyddio’r Gymraeg fel iaith
weinyddol yn fewnol; f) creu cyfleoedd economaidd a swyddi yng nghadarnleoedd y
Gymraeg drwy hybu datblygiad Bangor a Menai, Aberystwyth a Chaerfyrddin fel
dinas-ranbarthau; g) sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chymryd o ddifrif yn y
system gynllunio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi methiannau Llywodraeth Cymru o ran bodloni’r safonau
yn llawn wrth hybu’r defnydd o ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol mewn bywyd
cyhoeddus, fel y nodir yn Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop. Mae ‘European Charter for Regional or Minority Languages –
Fourth report of the Committee of Experts in respect of the United Kingdom’ ar
gael yn: European
Charter for Regional or Minority Languages Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ‘yn effeithiol’ ar ddiwedd is-bwynt 2a. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt 2f a rhoi yn ei le: cefnogi cadarnleoedd y Gymraeg yng ngorllewin Cymru drwy
ddatblygu strategaeth economaidd ar gyfer yr ardaloedd hyn, sy’n adlewyrchu eu
cymeriad ac sydd wedi’u teilwra’n unol â'u hanghenion [Os derbynnir
gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant
4 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Yn is-bwynt 2f, dileu popeth ar ôl ‘Gymraeg’. Gwelliant
5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: manteisio ar y cyllid ychwanegol ar gyfer Dechrau'n Deg i
wella’r broses o hyrwyddo'r Gymraeg ymysg plant ifanc a'u teuluoedd. Gwelliant
6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: gweithio gydag oedolion sy’n dysgu Cymraeg er mwyn creu
cyfleoedd i siarad Cymraeg yn eu cymunedau. Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: rhoi sylw i’r anawsterau a wynebwyd yn lleol o ran derbyn
darllediadau yn y Gymraeg ers newid i’r digidol ar gyfer teledu yn 2010. Gwelliant
8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: rhoi sylw i’r gwendidau yn narpariaeth Cymraeg fel ail iaith
mewn ysgolion. Gwelliant
9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: sicrhau y caiff Comisiynydd y Gymraeg ei benodi gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru. Gwelliant
10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: sicrhau bod Cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg yn gadarn ac
yn cynnwys mesurau y mae modd eu cyflawni i gwrdd â’r galw am addysg cyfrwng
Cymraeg ac i sicrhau dilyniant rhwng yr addysg gynradd ac uwchradd a gynigir. Gwelliant
11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: sicrhau bod unrhyw werthusiad o’r rhaglen Dechrau’n Deg yn
rhoi sylw i’r ddarpariaeth Gymraeg. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.46 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5405
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod dros flwyddyn wedi mynd heibio ers cyhoeddi
ffigurau cyfrifiad 2011 sy’n dangos bod gostyngiad o 2 y cant yn y nifer o
siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn galluogi’r
Gymraeg i ffynnu drwy, ymysg pethau eraill: a) sicrhau bod gan bawb yng Nghymru’r cyfle i ddysgu Cymraeg; b) buddsoddi mewn gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg; c) cynyddu nifer y disgyblion sy’n derbyn y Cyfnod Sylfaen
drwy gyfrwng y Gymraeg; d) defnyddio’r potensial o dan Fesur y Gymraeg 2011 i osod
safonau ar gyfer y Gymraeg sy’n rhoi hawliau cryfach i siaradwyr Cymraeg na
chynlluniau iaith o dan Ddeddf Iaith 1993; e) annog cyrff cyhoeddus i ddefnyddio’r Gymraeg fel iaith
weinyddol yn fewnol; f) creu cyfleoedd economaidd a swyddi yng nghadarnleoedd y
Gymraeg drwy hybu datblygiad Bangor a Menai, Aberystwyth a Chaerfyrddin fel
dinas-ranbarthau; g) sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chymryd o ddifrif yn y
system gynllunio.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi methiannau Llywodraeth Cymru o ran bodloni’r safonau
yn llawn wrth hybu’r defnydd o ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol mewn bywyd
cyhoeddus, fel y nodir yn Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn
y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ‘yn effeithiol’ ar ddiwedd is-bwynt 2a. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt 2f a rhoi yn ei le: cefnogi cadarnleoedd y Gymraeg yng ngorllewin Cymru drwy
ddatblygu strategaeth economaidd ar gyfer yr ardaloedd hyn, sy’n adlewyrchu eu
cymeriad ac sydd wedi’u teilwra’n unol â'u hanghenion Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gan
fod gwelliant 3 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 4 ei ddad-ddethol. Gwelliant
5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: manteisio ar y cyllid ychwanegol ar gyfer Dechrau'n Deg i
wella’r broses o hyrwyddo'r Gymraeg ymysg plant ifanc a'u teuluoedd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd
gwelliant 5. Gwelliant
6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: gweithio gydag oedolion sy’n dysgu Cymraeg er mwyn creu
cyfleoedd i siarad Cymraeg yn eu cymunedau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd
gwelliant 6. Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: rhoi sylw i’r anawsterau a wynebwyd yn lleol o ran derbyn darllediadau
yn y Gymraeg ers newid i’r digidol ar gyfer teledu yn 2010. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Derbyniwyd
gwelliant 7. Gwelliant
8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: rhoi sylw i’r gwendidau yn narpariaeth Cymraeg fel ail iaith
mewn ysgolion. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
Derbyniwyd
gwelliant 8. Gwelliant
9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: sicrhau y caiff Comisiynydd y Gymraeg ei benodi gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
Gwrthodwyd
gwelliant 9. Gwelliant
10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: sicrhau bod Cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg yn gadarn ac
yn cynnwys mesurau y mae modd eu cyflawni i gwrdd â’r galw am addysg cyfrwng
Cymraeg ac i sicrhau dilyniant rhwng yr addysg gynradd ac uwchradd a gynigir. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
Derbyniwyd
gwelliant 10. Gwelliant
11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2: sicrhau bod unrhyw werthusiad o’r rhaglen Dechrau’n Deg yn
rhoi sylw i’r ddarpariaeth Gymraeg. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
Derbyniwyd
gwelliant 11. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM5405
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod dros flwyddyn wedi mynd heibio ers cyhoeddi
ffigurau cyfrifiad 2011 sy’n dangos bod gostyngiad o 2 y cant yn y nifer o
siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn galluogi’r
Gymraeg i ffynnu drwy, ymysg pethau eraill: a) sicrhau bod gan bawb yng Nghymru’r cyfle i ddysgu Cymraeg yn effeithiol; b) buddsoddi mewn gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg; c) cynyddu nifer y disgyblion sy’n derbyn y Cyfnod Sylfaen
drwy gyfrwng y Gymraeg; d) defnyddio’r potensial o dan Fesur y Gymraeg 2011 i osod
safonau ar gyfer y Gymraeg sy’n rhoi hawliau cryfach i siaradwyr Cymraeg na
chynlluniau iaith o dan Ddeddf Iaith 1993; e) annog cyrff cyhoeddus i ddefnyddio’r Gymraeg fel iaith
weinyddol yn fewnol; f) cefnogi cadarnleoedd y Gymraeg yng ngorllewin Cymru drwy
ddatblygu strategaeth economaidd ar gyfer yr ardaloedd hyn, sy’n adlewyrchu eu
cymeriad ac sydd wedi’u teilwra’n unol â'u hanghenion; g) sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chymryd o ddifrif yn y
system gynllunio; h) manteisio ar y cyllid ychwanegol ar gyfer Dechrau'n Deg i
wella’r broses o hyrwyddo'r Gymraeg ymysg plant ifanc a'u teuluoedd; i) gweithio gydag oedolion sy’n dysgu Cymraeg er mwyn creu
cyfleoedd i siarad Cymraeg yn eu cymunedau; j) rhoi sylw i’r anawsterau a wynebwyd yn lleol o ran derbyn
darllediadau yn y Gymraeg ers newid i’r digidol ar gyfer teledu yn 2010; k) rhoi sylw i’r gwendidau yn narpariaeth Cymraeg fel ail
iaith mewn ysgolion; l) sicrhau bod Cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg yn gadarn
ac yn cynnwys mesurau y mae modd eu cyflawni i gwrdd â’r galw am addysg cyfrwng
Cymraeg ac i sicrhau dilyniant rhwng yr addysg gynradd ac uwchradd a gynigir; m) sicrhau bod unrhyw werthusiad o’r rhaglen Dechrau’n Deg yn
rhoi sylw i’r ddarpariaeth Gymraeg.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Dechreuodd yr
eitem am 17.39 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5406
Leanne Wood (Canol De Cymru): Y dechrau gorau mewn bywyd: Dyhead gwirioneddol i bawb? Yr angen i sicrhau cyfle cyfartal i deuluoedd difreintiedig
fanteisio ar ddarpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg cyfrwng Cymraeg. Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 17.49 NDM5406
Leanne Wood (Canol De Cymru): Y dechrau gorau mewn bywyd: Dyhead gwirioneddol i bawb? Yr angen i sicrhau cyfle cyfartal i deuluoedd difreintiedig
fanteisio ar ddarpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg cyfrwng Cymraeg. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |