Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1 i
4 a 6 i 15. Tynnwyd cwestiwn
5 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.15 Gofynnwyd cwestiynau 1 i
5 a 7 i 15. Cafodd cwestiynau
4 a 5 eu grwpio. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(120 muned) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5323 William Graham (Dwyrain De Cymru) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod gwerth cyfartal addysg alwedigaethol ac academaidd; 2.
Yn credu bod economi ffyniannus yn cael budd
o fyfyrwyr â sgiliau cynhwysfawr; a 3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymgynghori â rhanddeiliaid a gweithio gyda hwy i
gynllunio cwricwlwm galwedigaethol sy'n annog cydraddoldeb ag addysg academaidd
yng Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi
bod Llywodraeth Glymblaid y
DU wedi creu 1.2 miliwn o brentisiaethau yn Lloegr ers
2010, tra bo nifer y bobl ar
brentisiaethau yng Nghymru wedi gostwng
bron i 30% rhwng 2006 a 2012. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt
3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn croesawu
cytundeb cyllideb Plaid Cymru i greu
dros 5,500 o brentisiaethau
ac, yn benodol, dros 2,500 o brentisiaethau uwch. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt
3, dileu ‘cwricwlwm galwedigaethol sy’n annog cydraddoldeb’ ac yn lle hynny,
rhoi: ‘strategaeth sgiliau sy’n annog cydraddoldeb
o ran parch a chyfle’ Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i edrych
ar ffyrdd o wella mynediad at brentisiaethau a goresgyn y rhwystrau ymarferol a chanfyddiadol sy’n atal pobl ifanc
rhag chwilio am raglen brentisiaeth a gwneud cais amdani
yng Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 14.53 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5323
William Graham (Dwyrain De Cymru) Mae
Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1.
Yn cydnabod gwerth cyfartal addysg alwedigaethol ac academaidd; 2.
Yn credu bod economi ffyniannus yn cael budd
o fyfyrwyr â sgiliau cynhwysfawr; a 3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymgynghori
â rhanddeiliaid a gweithio gyda hwy i gynllunio
cwricwlwm galwedigaethol sy'n annog cydraddoldeb
ag addysg
academaidd yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5324 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn condemnio bwriad Llywodraeth y DU i breifateiddio'r Post Brenhinol; 2.
Yn cydnabod bod preifateiddio yn agor y drws i
fygythiadau i wasanaethau post yng Nghymru wledig a threfol yn y dyfodol; 3.
Yn nodi pwysigrwydd
y Post Brenhinol i Rwydwaith Swyddfa’r Post; 4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a)
cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar bwysigrwydd gwasanaethau post sy'n atebol i'r cyhoedd
i economi Cymru ac i gymunedau
Cymru; a b)
ystyried cynnig Plaid Cymru ar gyfer
datganoli gwasanaethau post
er mwyn diogelu
gwasanaeth cyffredinol a fforddiadwy. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu’r cyfan
a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1)
Yn nodi bwriad
Llywodraeth y DU i breifateiddio’r Post Brenhinol. 2)
Yn cydnabod: a)
y bydd preifateiddio yn diogelu’r gwasanaeth
cyffredinol, yn galluogi’r Post Brenhinol i gasglu arian
yn yr un modd â'i gystadleuwyr,
ac yn rhoi cyfranddaliadau am ddim i’r 150,000 o bobl sy’n gweithio i’r
Post Brenhinol; a b)
y bydd gan y Post Brenhinol wedi’i breifateiddio gyfrifoldeb cyfreithiol o hyd i ddanfon i
bob cyfeiriad, boed mewn ardal drefol
neu wledig, o dan ofynion sylfaenol
y Gwasanaeth Cyffredinol. 3)
Yn cydnabod pa mor bwysig yw’r
Post Brenhinol i rwydwaith Swyddfa’r Post, nad yw Swyddfa’r
Post ar werth, ac na fydd cynllun
i gau Swyddfeydd
Post o dan Lywodraeth bresennol y DU. 4)
Yn gresynu bod 7,000 o Swyddfeydd Post wedi cael eu cau
o dan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU. 5)
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda
Llywodraeth y DU ar ei rhaglen £1.34 biliwn i gynnal
rhwydwaith sy’n cynnwys o leiaf 11,500 o ganghennau Swyddfa’r Post ledled y DU. [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt
1, dileu “Yn condemnio” a rhoi “Yn nodi” yn
ei le. Gwelliant
3 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnwys pwynt
2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn rhannu
pryderon yr undebau llafur ynghylch y bygythiad posibl i weithlu’r
Post Brenhinol yng Nghymru; [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 4 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt
2 a rhoi yn ei le: Yn croesawu'r
ffaith bod Llywodraeth y DU
yn trosglwyddo rhwymedigaethau hanesyddol o oddeutu £37.5 biliwn o Gynllun Pensiwn y Post Brenhinol i Gynllun
Pensiwn Statudol newydd y Post Brenhinol. Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn croesawu
ymrwymiad Llywodraeth y DU i wasanaeth post cyffredinol, chwe diwrnod yr wythnos,
a ddiogelir gan y gyfraith yn Neddf
Gwasanaethau Post 2011. Mae
Deddf Gwasanaethau Post
2011 ar gael drwy ddilyn y linc
a ganlyn: http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2011/5/contents [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 6 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 3: ‘ac
nad yw’r bwriad i breifateiddio
yn cynnwys Swyddfa’r Post.’ Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
4 newydd, ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi
ymdrechion niferus y Blaid Lafur i
breifateiddio’r Post Brenhinol
hyd at 2009 a'r rhaglen i gau
Swyddfeydd Post, lle cafodd 216 o swyddfeydd post eu cau yng
Nghymru o dan y Blaid Lafur rhwng
mis Hydref 2007 a mis Ionawr 2009; Gwelliant
8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
4 newydd, ac ailrifo yn unol â hynny: Yn croesawu’r
ffaith nad oes unrhyw swyddfeydd
post wedi cau ers 2010 o ganlyniad i bolisi Llywodraeth
Glymblaid y DU. [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 9 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant
9 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu is-bwynt
4b. [Os
derbynnir gwelliant 1 neu cynigir gwelliant
9, bydd gwelliant 10 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant
10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu is-bwynt
4(b). Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 16.28 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5324
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn condemnio bwriad Llywodraeth y DU i breifateiddio'r Post Brenhinol; 2.
Yn cydnabod bod preifateiddio yn agor y drws i fygythiadau
i wasanaethau post yng Nghymru wledig a threfol yn y dyfodol;
3.
Yn nodi pwysigrwydd
y Post Brenhinol i Rwydwaith
Swyddfa’r Post; 4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a)
cyflwyno sylwadau
i Lywodraeth y DU ar bwysigrwydd gwasanaethau post sy'n atebol i'r
cyhoedd i economi Cymru ac i gymunedau Cymru; a b)
ystyried cynnig
Plaid Cymru ar gyfer datganoli gwasanaethau post er mwyn diogelu gwasanaeth
cyffredinol a fforddiadwy.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu’r cyfan
a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1)
Yn nodi bwriad
Llywodraeth y DU i breifateiddio’r
Post Brenhinol. 2)
Yn cydnabod: a)
y bydd preifateiddio
yn diogelu’r gwasanaeth cyffredinol, yn galluogi’r Post Brenhinol i gasglu arian yn yr
un modd â'i gystadleuwyr, ac yn rhoi cyfranddaliadau am ddim i’r 150,000 o bobl sy’n gweithio
i’r Post Brenhinol; a b)
y bydd gan
y Post Brenhinol wedi’i breifateiddio gyfrifoldeb cyfreithiol o hyd i ddanfon i bob cyfeiriad, boed mewn ardal
drefol neu wledig, o dan ofynion
sylfaenol y Gwasanaeth Cyffredinol. 3)
Yn cydnabod pa mor bwysig
yw’r Post Brenhinol i rwydwaith Swyddfa’r Post, nad yw Swyddfa’r
Post ar werth, ac na fydd cynllun
i gau Swyddfeydd Post o dan Lywodraeth bresennol y DU. 4)
Yn gresynu bod 7,000 o Swyddfeydd Post wedi cael eu cau
o dan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU. 5)
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth
y DU ar ei rhaglen £1.34 biliwn i gynnal rhwydwaith sy’n cynnwys o leiaf 11,500 o ganghennau Swyddfa’r Post ledled y DU. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 1, dileu “Yn condemnio” a rhoi “Yn nodi”
yn ei le. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant
3 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnwys pwynt
2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn rhannu
pryderon yr undebau llafur ynghylch y bygythiad posibl i weithlu’r Post Brenhinol yng Nghymru; Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt
2 a rhoi yn ei le: Yn croesawu'r
ffaith bod Llywodraeth y DU
yn trosglwyddo rhwymedigaethau hanesyddol o oddeutu £37.5 biliwn o Gynllun Pensiwn y Post Brenhinol i Gynllun Pensiwn Statudol newydd y Post Brenhinol. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i wasanaeth post
cyffredinol, chwe diwrnod yr wythnos,
a ddiogelir gan y gyfraith yn Neddf
Gwasanaethau Post 2011. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 3: ‘ac nad yw’r
bwriad i breifateiddio yn cynnwys Swyddfa’r
Post.’ Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant 6. Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
4 newydd, ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi
ymdrechion niferus y Blaid Lafur i breifateiddio’r
Post Brenhinol hyd at 2009 a'r rhaglen i gau
Swyddfeydd Post, lle cafodd 216 o swyddfeydd post eu cau yng
Nghymru o dan y Blaid Lafur rhwng
mis Hydref 2007 a mis Ionawr 2009; Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 7:
Gwrthodwyd gwelliant 7. Gwelliant
8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
4 newydd, ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu’r
ffaith nad
oes unrhyw swyddfeydd post wedi cau ers 2010 o ganlyniad i bolisi Llywodraeth Glymblaid y DU. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 8:
Gwrthodwyd gwelliant 8. Gwelliant
9 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu is-bwynt 4b. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 9:
Derbyniwyd gwelliant 9. Gan fod gwelliant 9 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 10 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5324 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn condemnio bwriad Llywodraeth y DU i breifateiddio'r Post Brenhinol; 2.
Yn rhannu pryderon yr undebau
llafur ynghylch y bygythiad posibl i weithlu’r Post Brenhinol yng Nghymru; 3.
Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn trosglwyddo rhwymedigaethau hanesyddol o oddeutu £37.5 biliwn o Gynllun Pensiwn y Post Brenhinol i Gynllun Pensiwn Statudol newydd y Post Brenhinol; 4.
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i wasanaeth post cyffredinol, chwe diwrnod yr
wythnos, a ddiogelir gan y gyfraith yn Neddf Gwasanaethau
Post 2011; 5.
Yn nodi pwysigrwydd
y Post Brenhinol i Rwydwaith
Swyddfa’r Post; 6.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a)
cyflwyno sylwadau
i Lywodraeth y DU ar bwysigrwydd gwasanaethau post sy'n atebol i'r
cyhoedd i economi Cymru ac i gymunedau Cymru.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Dechreuodd yr
eitem am 17.26 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5320 Eluned Parrott (Canol De Cymru): Dewisiadau Cadarnhaol
– rhoi'r sgiliau a'r profiad i bobl
ifanc ddatblygu gyrfa. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 17.31 NDM5320
Eluned Parrott (Canol De
Cymru): Dewisiadau Cadarnhaol
– rhoi'r sgiliau
a'r profiad i bobl ifanc ddatblygu
gyrfa. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer - Ail-drefnwyd ers 2 Hydref 2013 NDM5322 Andrew RT Davies
(Canol De Cymru): Gwasanaethau Bws
Gwledig yng Nghymru – Ar y Ffordd i Nunlle Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 17.49 NDM5322
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gwasanaethau Bws
Gwledig yng Nghymru – Ar y Ffordd i Nunlle |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |