Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 2 a 10 a 7 ac
11 eu grwpio. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.18 Gofynnwyd cwestiynau 2 i
12 a 14 i 15. Cafodd cwestiynau
3 a 4 eu grwpio. Tynnwyd cwestiynau 1 a 13 yn ôl. |
|||||||||
(0 muned) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Ni
chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. Penderfyniad: Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem
am 14.57 Kirsty
Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
A wnaiff y Gweinidog Iechyd ddatganiad brys ar amseroedd
ymateb Gwasanaeth Ambiwlans Cymru? |
||||||||||
Datganiad gan y Llywydd Cyhoeddodd y Llywydd fod Darren Millar wedi
ennill balot yr Aelodau i gyflwyno cynnig ar gyfer deddfwriaeth. Yn unol â
Rheol Sefydlog 26.91, caiff Darren Millar, felly, geisio cytundeb y Cynulliad i
gyflwyno Bil Meysydd Carafannau Gwyliau (Cymru). |
||||||||||
Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau Dechreuodd yr
eitem am 15.07 NDM5217 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14,
yn ethol Mick Antoniw (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Menter a Busnes yn lle
Ken Skates (Llafur Cymru). NDM5218 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol: (i)
Christine Chapman (Llafur
Cymru) a Jenny Rathbone (Llafur Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb
a Llywodraeth Leol yn lle
Ann Jones (Llafur Cymru) a Joyce Watson (Llafur Cymru), a; (ii)
Christine
Chapman (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol. NDM5219 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol: (i)
Ann Jones (Llafur Cymru),
Keith Davies (Llafur Cymru) a David Rees (Llafur Cymru) yn aelodau o’r
Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn lle
Christine Chapman (Llafur Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru) a Julie Morgan (Llafur Cymru), a; (ii)
Ann
Jones (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc. NDM5220 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14,
yn ethol Sandy Mewies (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle
Gwyn Price (Llafur Cymru). NDM5221 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14,
yn ethol Julie Morgan (Llafur Cymru) a Joyce Watson (Llafur Cymru) yn aelodau o’r
Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn lle David Rees (Llafur Cymru) a Keith Davies (Llafur
Cymru). NDM5222 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14,
yn ethol Ken Skates (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol yn lle
Mick Antoniw (Llafur Cymru). Cafodd y cynigion eu grwpio a derbyniwyd
y cynnigion yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5211 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod effaith y tywydd garw diweddar ar
gymunedau gwledig a busnesau yng Nghymru; 2.
Yn nodi'r effaith y mae
trafnidiaeth wledig a seilwaith cyfathrebu gwael wedi'u cael
ar ymdrechion i fynd i'r afael
ag amodau tywydd garw; 3.
Yn credu bod yn rhaid i strategaeth
ymateb i argyfwng Llywodraeth Cymru fod yn effeithiol
wrth ymdrin â'r heriau unigryw
sy'n wynebu cymunedau gwledig; a 4.
Yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried cronfa galedi i gynorthwyo busnesau yr effeithiwyd
arnynt gan dywydd garw. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 1: ‘ac yn nodi
bod graddfa ac amlder tywydd garw yn
debygol o gynyddu wrth i’n hinsawdd
newid.’ Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod
bod tywydd garw wedi cael effaith
anghymesur ar ffermwyr mewn Ardaloedd
Llai Ffafriol, sy’n cwmpasu 80% o dir amaethyddol
Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno cynllun cefnogaeth ariannol newydd ar gyfer ffermwyr
mewn Ardaloedd Llai Ffafriol, a fyddai yn ei
dro yn eu
helpu i reoli effaith tywydd garw. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 15.08 NDM5211
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod effaith y tywydd garw diweddar ar
gymunedau gwledig a busnesau yng Nghymru; 2.
Yn nodi'r effaith y mae
trafnidiaeth wledig a seilwaith cyfathrebu gwael wedi'u cael
ar ymdrechion i fynd i'r afael
ag amodau tywydd garw; 3.
Yn credu bod yn rhaid i strategaeth
ymateb i argyfwng Llywodraeth Cymru fod yn effeithiol
wrth ymdrin â'r heriau unigryw
sy'n wynebu cymunedau gwledig; a 4.
Yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried cronfa galedi i gynorthwyo busnesau yr effeithiwyd
arnynt gan dywydd garw. Derbyniwyd y cynnig heb ei
ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5212 William Graham (Dwyrain De Cymru) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod potensial Ynys Môn fel canolfan i ynni a thwf economaidd; 2.
Yn croesawu'r cyhoeddiad y bydd Hitachi'n datblygu Horizon
Nuclear Power ar safle Wylfa ar Ynys Môn; 3.
Yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried datblygu cynllun clir i gefnogi datblygiad Ynys Môn fel canolfan ar
gyfer cynhyrchu ynni; a 4.
Yn credu bod yn rhaid i ddatblygiad
ynni niwclear ar Ynys Môn gael
ei ategu gan gymorth pellach
i gymysgedd cadarn o ynni ledled Cymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 1: ‘ond yn gresynu bod y dasg o adfywio economi’r ynys yn cael
ei thanseilio gan raglen doriadau
Llywodraeth y DU’ Gwelliant
2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt
3 a rhoi yn ei le: Yn croesawu
dynodi Ynys Môn yn ardal fenter. Gwelliant
3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 4: ‘ac felly’n galw
am ddatganoli polisi ynni i’r Cynulliad
Cenedlaethol.’ Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod
yr angen i gryfhau’r rhwydwaith trawsyrru presennol o ganlyniad i ddatblygiadau ynni arfaethedig yng Ngogledd Cymru
ac yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau tryloywder llawn wrth ymgysylltu
â’r Grid Cenedlaethol ar seilwaith newydd
i’r grid. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 15.58 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5212
William Graham (Dwyrain De Cymru) Mae
Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1.
Yn cydnabod potensial Ynys Môn fel canolfan i ynni a thwf economaidd; 2.
Yn croesawu'r cyhoeddiad y bydd Hitachi'n datblygu Horizon
Nuclear Power ar safle Wylfa ar Ynys Môn; 3.
Yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried datblygu cynllun clir i gefnogi datblygiad Ynys Môn fel canolfan ar gyfer
cynhyrchu ynni; a 4.
Yn credu bod yn rhaid i ddatblygiad
ynni niwclear ar Ynys Môn gael
ei ategu gan gymorth pellach
i gymysgedd cadarn o ynni ledled Cymru.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5213 Jocelyn Davies
(Dwyrain De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
gresynu’n ddirfawr at anghydraddoldeb ar sail rhyw a'i fwlch cyflog parhaol ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth tymor hir i fynd i'r afael â
stereoteipio o ran rhyw. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys
pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
cefnogi cynlluniau Llywodraeth y DU i roi grym i Dribiwnlysoedd Cyflogaeth
orfodi archwiliadau cyflog ar gyflogwyr y ceir eu bod wedi gwahaniaethu ar sail
rhyw mewn materion tâl cytundebol neu anghytundebol. Gwelliant 2 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys
pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r sefyllfa ddiweddaraf am y camau a
gymerir ganddi i fynd i’r afael â’r bwlch rhwng y rhywiau ym maes
entrepreneuriaeth yng Nghymru. Gwelliant 3 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys
pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
nodi argymhelliad Adroddiad Davies ‘Women on Boards’ y dylai Byrddau FTSE 100
anelu at leiafswm o 25% o gynrychiolaeth fenywaidd erbyn 2015 ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymgynghori â busnesau Cymreig i gynyddu nifer y menywod mewn
swyddi uwch reoli. Gellir
canfod Adroddiad Davies ‘Women on Boards’ drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://www.bis.gov.uk//assets/biscore/business-law/docs/w/12-p135-women-on-boards-2012.pdf Gwelliant 4 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys
pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU am gynllun newydd ar gyfer gofal plant di-dreth
i deuluoedd sy’n gweithio ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd, yn
ogystal â Dechrau’n Deg, i gynorthwyo menywod i fynd yn ôl i’r gwaith ym mhob
rhan o Gymru. Gwelliant 5 - William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys
pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
cydnabod polisi Llywodraeth y DU i ddarparu adnoddau ar gyfer 5,000 o
fentoriaid busnes gwirfoddol ar gyfer menywod i roi cefnogaeth effeithiol i
fenywod sydd eisiau dechrau eu busnesau eu hunain neu dyfu eu busnesau, ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r trydydd sector i ddatblygu cynllun
o’r fath. Gwelliant 6 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
croesawu’r camau gan Lywodraeth y DU i symud cydbwysedd cyfrifoldeb drwy absenoldeb
rhieni ar y cyd, a fydd yn creu mwy o hyblygrwydd i rieni ac yn helpu i fynd
i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn menywod yn y gweithle, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gydweithio â busnesau yng Nghymru i sicrhau y gallant addasu
i'r trefniadau newydd. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 16.58 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5213
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn gresynu’n
ddirfawr at anghydraddoldeb
ar sail rhyw a'i fwlch cyflog
parhaol ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddatblygu strategaeth
tymor hir i fynd i'r afael
â stereoteipio o ran rhyw.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Dechreuodd yr eitem
am 17.57 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5210 Eluned Parrott (Canol De Cymru): Cefnu ar ein Brodyr
- Asesu cefnogaeth i Anhwylder Straen Wedi Trawma yng
Nghymru. Dadl am Bersonél
Arfog ac Argyfwng yng Nghymru sy'n
dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma
a'r ffyrdd y gall Cymru, Llywodraeth Cymru a'r Sector Gwirfoddol helpu. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.59 NDM5210 Eluned Parrott (Canol De Cymru): Cefnu ar
ein Brodyr - Asesu cefnogaeth i Anhwylder Straen Wedi Trawma yng
Nghymru. Dadl am Bersonél
Arfog ac Argyfwng yng Nghymru sy'n
dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma
a'r ffyrdd y gall Cymru, Llywodraeth Cymru a'r Sector Gwirfoddol helpu. |