Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5194 William Graham
(Dwyrain De Cymru) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi methiant llwyr a chyson Llywodraeth Cymru i sicrhau gwelliannau ym mywydau
pobl Cymru, yn benodol ei: a)
anallu i ddatblygu economi Cymru; b)
methiant i gau bylchau cyrhaeddiad allweddol mewn addysg; c)
perfformiad gwael o ran cyrraedd targedau amseroedd aros ac ymateb y GIG; a d)
aneffeithiolrwydd wrth fynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd tlodi. Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn: Gwelliant 1 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Dileu
popeth ar ôl ‘pobl Cymru,’ a rhoi yn ei le ‘ac yn galw arni i wneud iawn am ei: a)
anallu i ddatblygu economi Cymru drwy ddatblygu ystod lawn o wasanaethau er
mwyn i fusnesau allu cael gafael ar gredyd, cyngor busnes a chymorth marchnata,
a ddarperir o un pwynt cyswllt; b)
methiant i gau bylchau cyrhaeddiad allweddol mewn
addysg drwy gynyddu gwerth y premiwm disgybl a sicrhau ei fod yn cael ei
wario’n effeithiol ar leihau’r bwlch rhwng tlodi a chyrhaeddiad; c)
perfformiad gwael o ran cyrraedd targedau amseroedd
aros ac ymateb y GIG drwy sicrhau gwariant effeithiol ar wasanaethau rheng
flaen y GIG; a d)
aneffeithiolrwydd wrth fynd i’r afael â’r hyn sydd
wrth wraidd tlodi drwy roi sylw i effaith yr ystod lawn o wasanaethau cyhoeddus
gwael ar wreiddio tlodi ac anghydraddoldeb ac adrodd yn rheolaidd i'r Cynulliad
Cenedlaethol ar ei chynnydd.’ Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5194
William Graham (Dwyrain De Cymru) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi
methiant llwyr a chyson Llywodraeth Cymru i sicrhau gwelliannau ym mywydau pobl Cymru,
yn benodol ei: a)
anallu i ddatblygu
economi Cymru; b)
methiant i gau bylchau cyrhaeddiad
allweddol mewn addysg; c)
perfformiad gwael o ran cyrraedd targedau amseroedd aros ac ymateb y GIG; a d)
aneffeithiolrwydd wrth fynd i’r
afael â’r hyn sydd wrth
wraidd tlodi.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5195 William Graham (Dwyrain De Cymru) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth
uwch i agenda lleoliaeth yng Nghymru; gan
sicrhau bod cymunedau yng Nghymru yn
elwa o fwy o benderfyniadau a grymuso lleol. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu
y bydd modd gwella penderfyniadau a grymuso lleol yn
sylweddol drwy: a)
cyflwyno’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau cynghorau lleol; b)
caniatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio mewn etholiadau cynghorau lleol; ac c)
datganoli plismona i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod plismona’n gallu ymateb i anghenion cymunedau lleol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 13.57 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5195
William Graham (Dwyrain De Cymru) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth
uwch i agenda lleoliaeth yng Nghymru; gan
sicrhau bod cymunedau yng Nghymru yn
elwa o fwy o benderfyniadau a grymuso lleol.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 14.26 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |