Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13:30 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:17 Gofynnwyd
cwestiynau 1 i 9 ac 11 i 15. Ni ofynnwyd cwestiwn 10. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr ymchwiliad ynghylch sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru NDM5178 David Melding
(Canol De Cymru) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei
ymchwiliad i awdurdodaeth ar wahân i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar
12 Rhagfyr 2012. Dogfennau ategol: Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:03 NDM5178 David Melding (Canol De Cymru) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi
adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i awdurdodaeth ar wahân i Gymru, a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2012. Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5180 William Graham
(Dwyrain De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod bod yr ysgogiadau economaidd ar gael i
Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud gwahaniaeth sylweddol i economi Cymru. 2.
Yn gresynu mai Gwerth Ychwanegol Crynswth Cymru yw’r isaf o blith gwledydd y
DU. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth ar gyfer datblygu
economaidd yng ngoleuni’r pryderon a godwyd yn adroddiad Ysgol Fusnes Prifysgol
Caerdydd 'Small Businesses in Priority Sectors’ ynghylch y dull gweithredu ar
sail sectorau. 4.
Yn credu bod yn rhaid i’r Gweinidog sefydlu targedau clir a mesuradwy ar gyfer
dangosyddion economaidd allweddol i hybu cynnydd economaidd a chaniatáu
monitro’r cyflenwi. Gellir
gweld 'Small Businesses in Priority Sectors' drwy ddilyn y linc a ganlyn: Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Ym
mhwynt 1 dileu ‘yr’ cyn ‘ysgogiadau economaidd’ a chynnwys ar ddiwedd y pwynt:
‘er gwaethaf y ffaith bod nifer yn parhau i fod o dan reolaeth Llywodraeth y
DU’ Gwelliant 2 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys
ar ddechrau pwynt 2: ‘Yn
croesawu’r cynnydd sy’n cael ei wneud i gynyddu cystadleurwydd ar draws y DU ar
ôl i’r DU godi yn ddiweddar o’r degfed safle i'r wythfed safle ym Mynegai
Cystadleurwydd Byd-Eang Fforwm Economaidd y Byd 2012-2013, ond' Gellir
gweld Mynegai Cystadleurwydd Byd-Eang Fforwm Economaidd y Byd 2012-2013 drwy
ddilyn y linc a ganlyn: http://www3.weforum.org/docs/WEF_GlobalCompetitivenessReport_2012-13.pdf Gwelliant 3 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys
ar ddiwedd pwynt 2: ‘ond yn gwrthod derbyn bod y sefyllfa hon yn anochel’ Gwelliant 4 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys
pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r gefnogaeth a gynigir ar gyfer
masnacheiddio eiddo deallusol academaidd o bob Prifysgol yng Nghymru, i sicrhau
bod ein hentrepreneuriaid yn cael y cyfle gorau i ddatblygu busnesau ffyniannus
a chynhenid yng Nghymru ar gyfer y dyfodol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 15.50 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5180 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod bod yr ysgogiadau economaidd
ar gael i Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud
gwahaniaeth sylweddol i economi Cymru. 2.
Yn gresynu mai Gwerth Ychwanegol
Crynswth Cymru yw’r isaf o blith
gwledydd y DU. 3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth
ar gyfer datblygu economaidd yng ngoleuni’r pryderon a godwyd yn adroddiad Ysgol
Fusnes Prifysgol Caerdydd 'Small Businesses in Priority Sectors’ ynghylch y dull gweithredu ar sail sectorau. 4.
Yn credu bod yn rhaid i’r
Gweinidog sefydlu targedau clir a mesuradwy ar gyfer
dangosyddion economaidd allweddol i hybu cynnydd economaidd a chaniatáu monitro’r cyflenwi.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt
1 dileu ‘yr’ cyn ‘ysgogiadau economaidd’ a chynnwys ar ddiwedd y pwynt:
‘er gwaethaf y ffaith bod nifer yn parhau i fod
o dan reolaeth Llywodraeth y DU’ Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys ar
ddechrau pwynt 2: ‘Yn croesawu’r cynnydd
sy’n cael ei wneud i gynyddu
cystadleurwydd ar draws y
DU ar ôl i’r DU godi yn
ddiweddar o’r degfed safle i'r
wythfed safle ym Mynegai Cystadleurwydd
Byd-Eang Fforwm Economaidd y Byd 2012-2013, ond' Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant
3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 2: ‘ond yn gwrthod
derbyn bod y sefyllfa hon yn anochel’ Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt
3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r gefnogaeth a gynigir ar gyfer masnacheiddio
eiddo deallusol academaidd o bob Prifysgol yng Nghymru, i sicrhau bod ein hentrepreneuriaid yn cael y cyfle gorau
i ddatblygu busnesau ffyniannus a chynhenid yng Nghymru ar
gyfer y dyfodol. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5180 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod bod ysgogiadau economaidd ar gael i Lywodraeth
Cymru er mwyn gwneud gwahaniaeth
sylweddol i economi Cymru er gwaethaf y ffaith bod nifer yn parhau i fod
o dan reolaeth Llywodraeth y DU. 2.
Yn croesawu’r
cynnydd sy’n cael ei wneud
i gynyddu cystadleurwydd ar draws y DU ar ôl i’r DU godi
yn ddiweddar o’r degfed safle
i'r wythfed safle ym Mynegai
Cystadleurwydd Byd-Eang Fforwm Economaidd y Byd 2012-2013, ond yn gresynu mai
Gwerth Ychwanegol Crynswth Cymru yw’r isaf o blith
gwledydd y DU ac
yn gwrthod derbyn bod y sefyllfa hon yn anochel. 3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i adolygu’r gefnogaeth a gynigir ar gyfer
masnacheiddio eiddo deallusol academaidd o bob Prifysgol yng Nghymru,
i sicrhau bod ein hentrepreneuriaid yn cael y cyfle gorau
i ddatblygu busnesau ffyniannus a chynhenid yng Nghymru ar
gyfer y dyfodol. 4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth
ar gyfer datblygu economaidd yng ngoleuni’r pryderon a godwyd yn adroddiad Ysgol
Fusnes Prifysgol Caerdydd 'Small Businesses in Priority Sectors’ ynghylch y dull gweithredu ar sail sectorau. 5.
Yn credu bod yn rhaid i’r
Gweinidog sefydlu targedau clir a mesuradwy ar gyfer
dangosyddion economaidd allweddol i hybu cynnydd economaidd a chaniatáu monitro’r cyflenwi.
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5179 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Mae’r Cynulliad
Cenedlaethol hwn: 1.
Yn cydnabod effaith gymhleth ond negyddol yn
bennaf diffyg twf economaidd a newidiadau i fudd-daliadau lles ar fenywod
a theuluoedd yng Nghymru fel y nodwyd
yn adroddiad Sefydliad Bevan ‘Women, work and the recession in Wales'; 2.
Yn nodi rhybudd
Sefydliad Jospeh Rowntree fod Cymru
yn wynebu degawd o dlodi; 3.
Yn credu bod Llywodraeth y DU wedi dilyn y llwybr economaidd anghywir ers 2010, gan roi
menywod a theuluoedd mewn perygl; a 4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion Cuts Watch
Cymru i liniaru ar effeithiau newidiadau
mewn budd-daliadau tai i deuluoedd ac i ddatblygu cynllun i gefnogi menywod ifanc i gyflogaeth briodol sy’n talu'n
dda er mwyn
diwallu eu hanghenion. Gellir gweld
adroddiad Sefydliad Bevan drwy ddilyn y linc
a ganlyn: http://www.bevanfoundation.org/publications/women-work-and-the-recession-in-wales/ Gellir gweld
argymhellion Cuts Watch Cymru
drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://cutswatchcymru.wordpress.com/2013/02/22/cuts-watch-cymru-lauch-housing-action-paper/ Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt
1 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod
y camau y mae
Llywodraeth y DU wedi’u cymryd i fynd i’r
afael ag anghydraddoldeb yn y system budd-daliadau gan sicrhau na all neb ennill mwy ar
fudd-daliadau nag y mae teulu cyffredin yn ei ennill
drwy fynd allan i weithio. Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 2: ‘ac yn nodi ymhellach
y rhwystrau at waith a nodwyd yn flaenorol
gan Sefydliad Joseph Rowntree a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r ysgogiadau economaidd sydd ganddi i ysgogi
economi Cymru a chefnogi teuluoedd Cymru’ Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt
3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu’r
gwaith y mae Llywodraeth y DU wedi’i wneud i sicrhau bod mwy o fenywod nag erioed o’r blaen
mewn gwaith ar draws y DU gyda chwarter miliwn yn fwy o fenywod
mewn gwaith nag a oedd adeg yr
etholiad diwethaf. Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt
3 a rhoi yn ei le: Yn nodi
bod Llywodraeth y DU yn cymryd y camau angenrheidiol i leihau’r diffyg strwythurol ac yn helpu teuluoedd
gyda chostau byw drwy gymryd
camau fel torri’r dreth incwm
i 25 miliwn o bobl. Gwelliant
5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt
4 a rhoi yn ei le: Yn credu
bod Llywodraeth Cymru a rhai awdurdodau lleol wedi aros
tan yn bryderus o hwyr i baratoi tenantiaid ar gyfer
newidiadau i’r budd-dal tai ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys
i fynd i’r afael â hyn. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 16:43 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5179 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Mae’r Cynulliad
Cenedlaethol hwn: 1.
Yn cydnabod effaith gymhleth ond negyddol yn
bennaf diffyg twf economaidd a newidiadau i fudd-daliadau lles ar fenywod
a theuluoedd yng Nghymru fel y nodwyd
yn adroddiad Sefydliad Bevan ‘Women, work and the recession in Wales'; 2.
Yn nodi rhybudd
Sefydliad Jospeh Rowntree fod Cymru
yn wynebu degawd o dlodi; 3.
Yn credu bod Llywodraeth y DU wedi dilyn y llwybr economaidd anghywir ers 2010, gan roi
menywod a theuluoedd mewn perygl; a 4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion Cuts Watch
Cymru i liniaru ar effeithiau newidiadau
mewn budd-daliadau tai i deuluoedd ac i ddatblygu cynllun i gefnogi menywod ifanc i gyflogaeth briodol sy’n talu'n
dda er mwyn
diwallu eu hanghenion.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem
am 17.38 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5175 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Cefnogi’r economi wledig. Mae’r ddadl yn ymwneud
â datblygu rhwydwaith bancio gwledig. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 17.42 NDM5175
William Powell (Canolbarth a Gorllewin
Cymru): Cefnogi’r economi wledig. Mae’r ddadl yn ymwneud
â datblygu rhwydwaith bancio gwledig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |