Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Ystafell Gynhadledd 4B - Ty Hywel
Cyswllt: Anna Daniel (Clerc)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Nododd y Pwyllgor fusnes yr wythnos hon. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Pwyllgorau |
|
Sefydlu’r pwyllgorau a’u cylch gwaith Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Busnes bapur yn cynnig dewisiadau ar gyfer sefydlu strwythur ar gyfer pwyllgorau’r Pedwerydd Cynulliad. Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i sefydlu strwythur yn seiliedig ar y trydydd dewis a gyflwynwyd (sef, pwyllgorau i ymgymryd â gwaith deddfwriaeth a chraffu ar yr un pryd), yn amodol ar drafodaethau pellach. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried teitlau a chylch gwaith y pwyllgorau yn ei gyfarfod ar 21 Mehefin. Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor y dylid atal y Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu’r cynigion i sefydlu pwyllgorau i gael eu trafod ddydd Mercher 22 Mehefin, gan gynnwys y cynnig i sefydlu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i adolygu sut mae’r strwythur yn gweithio ymhen rhyw 12 mis. |
|
Sefydlu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'i swyddogaethau Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes
lythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru ynghylch strwythur y pwyllgorau ar gyfer
y Pedwerydd Cynulliad, a chytunodd i ymateb iddo. |
|
Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru ynghylch strwythur y pwyllgorau yn y Pedwerydd Cynulliad a chytunodd i anfon ateb ato. |