Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Byddai’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol yn gwneud datganiad ar Lifogydd yng Nghymru.

Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes ddydd Mawrth.

Ddydd Mercher, cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai pleidlais yn digwydd yn union ar ôl y ddadl ar gynnig cyntaf y ddadl ar Fil Cymru drafft. Byddai unrhyw bleidleisio ar y cynigion eraill yn cael ei ohirio tan y cyfnod pleidleisio, a fyddai'n digwydd cyn y Ddadl Fer.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i aildrefnu'r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 20 Ionawr 2016 -

  • Dadl Cyfnod 3 ar y Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) (120 munud) symudwyd i 3 Chwefror
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) - eitem wedi'i symud o 27 Ionawr.
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) - eitem wedi'i symud o 27 Ionawr.

Dydd Mercher 27 Ionawr 2016 -

  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Cyfnod 4 ar y Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) (15 munud)  symudwyd i 10 Chwefror

 

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i drefnu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 27 Ionawr 2016 -

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau o dan Reol Sefydlog 22.9 (Adroddiad 01-16) (15 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau o dan Reol Sefydlog 22.9 (Adroddiad 02-16) (15 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

 

Dydd Mercher 3 Chwefror 2016

·         Dadl Cyfnod 3 ar y Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) (120 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei ymchwiliad i Gynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd (60 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Tai a Chynllunio

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Tai a Chynllunio.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Iau 18 Chwefror 2016 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 23 Chwefror 2016.

 

4.2

Papur i’w nodi - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor lythyr gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ynglŷn â dull gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol cyn y diddymiad. Hysbysodd y Gweinidog y Rheolwyr Busnes ei bod wedi ysgrifennu at arweinydd Tŷ’r Cyffredin i bwysleisio’r amser cyfyngedig sydd ar gael i graffu ac i nodi bod unrhyw Filiau neu welliannau a gyflwynir ar ôl 2 Chwefror 2016 yn annhebygol o sicrhau cydsyniad deddfwriaethol.

 

4.3

Papur i'w nodi - Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol: Rhaglen Ddeddfwriaethol y DU ar gyfer 2015/2016

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes bapur a ddarparwyd gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth yn amlinellu’r Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol a ddisgwylir cyn y diddymiad.

 

5.

Y Rheolau Sefydlog

5.1

Argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Ddeddfu yng Nghymru

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes ymateb drafft diwygiedig i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynglŷn â’i argymhellion yn yr adroddiad ar ddeddfu yng Nghymru, i'r graddau y maent yn ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Busnes.


Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar rai newidiadau pellach i’r drafft, a gofynnwyd i'r Ysgrifenyddiaeth ddosbarthu drafft terfynol i gytuno arno drwy e-bost.

 

6.

Pwyllgorau

6.1

Papur i'w nodi - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad at y Llywydd:

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan Mick Antoniw at y Llywydd ynghylch ei ymddiswyddiad fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i wahodd y grŵp Llafur i enwebu Aelod i lenwi'r swydd wag.