Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Ystafell Gynhadledd 4B - Ty Hywel

Cyswllt: Anna Daniel (Clerc) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

Cofnodion:

Cafodd Peter Greening, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet ac Is-adran Gwasanaethau Gweinidogol, Llywodraeth Cymru, ei gyflwyno i’r cyfarfod gan Jane Hutt, y Gweinidog Busnes. Ef fydd yn gyfrifol am reoli busnes y Llywodraeth yn y dyfodol.

 

Roedd y Pwyllgor yn dymuno nodi ei ddiolch i Marion Stapleton am ei blynyddoedd maith o wasanaeth i’r Pwyllgor Busnes fel cynghorydd i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am fusnes y Llywodraeth, ers sefydlu’r Pwyllgor yn y Cynulliad Cyntaf. Esboniodd y Gweinidog y bydd Marion Stapleton yn parhau i fod yn gyfrifol am reoli rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, a hwyrach y bydd yn parhau i ddod i gyfarfodydd y Pwyllgor pan fydd angen.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Dirprwy Lywydd i’w gyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor fel sylwedydd.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nodwyd y cofnodion gan y Pwyllgor. 

 

3.

Trefn Busnes

3(i)

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai amser pleidleisio ddydd Mercher yn digwydd ar ôl yr eitem olaf o fusnes.

 

3(ii)

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor amserlen busnes y Llwyodraeth ar gyfer y 3 wythnos nesaf.

 

3(iii)

Busnes y Cynulliad ar gyfer gweddill y tymor

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i restru’r eitemau canlynol o fusnes y Cynulliad ar gyfer gweddill tymor yr haf:

 

·         Dadl Fer wythnosol am hanner awr ar ddiwedd prynhawn Mawrth;

·         Tair awr o fusnes y Cynulliad bob prynhawn Mercher, a allai gynnwys dadleuon gan y gwrthbleidiau a fyddai’n digwydd yn y drefn a ganlyn:

o    Amser wedi ei neilltuo ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

o    Amser wedi ei neilltuo ar gyfer Plaid Cymru (60 munud)

o    Amser wedi ei neilltuo ar gyfer Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

o    Amser wedi ei neilltuo ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

o    Amser wedi ei neilltuo ar gyfer Plaid Cymru (60 munud)

Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor Busnes i restru’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 15 Mehefin

·         Cynnig i sefydlu pwyllgor dros dro i ystyried is-ddeddfwriaeth (5 munud)

·         Cynnig i sefydlu pwyllgor dros dro i ystyried deisebau i’r Cynulliad (5 munud)

Dydd Mercher 29 Mehefin

·         Cynnig o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad ag anghymhwyso Aled Roberts (15 munud)

·         Cynnig o dan adran 17(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad ag anghymhwyso John Dixon (15 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes na fyddai, am y tro, yn neilltuo amser ar gyfer dadleuon gan Aelodau unigol wedi eu dewis drwy falot. Cytunodd i roi ystyriaeth bellach i’r meini prawf ar gyfer dethol cynigion wedi eu cyflwyno gan Aelodau unigol ar gyfer dadl.

 

3(iv)

Cwestiynau’r Prif Weinidog: Cynnig ar gyfer Cwestiynau’r Arweinwyr

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cynigion gan y Llywydd i newid y ffordd o ymdrin â chwestiynau gan arweinwyr grwpiau’r gwrthbleidiau yn ystod y Cwestiynau i’r Prif Weinidog.  Cytunodd y pwyllgor y byddai pob un o arweinyddion y gwrthbleidiau yn cael gofyn un cwestiwn i’r Prif Weinidog ac yna dri chwestiwn atodol ychwanegol ar adeg benodol wedi ei nodi ar yr agenda (ar ôl cwestiwn 2) bob un yn ei dro. Byddai’r dull newydd yn cael ei adolygu ar ddiwedd y tymor hwn.

 

4.

Pwyllgorau

4(i)

Sefydlu pwyllgorau dros dro i ystyried is-deddfwriaeth a deisebau a swyddogaethau’r pwyllgorau hynny

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i sefydlu dau bwyllgor dros dro i reoli deisebau i’r Cynulliad ac i graffu ar is-deddfwriaeth tra byddai trafodaethau’n parhau ynglŷn â strwythurau pwyllgorau parhaol. Byddai’r cynigion i sefydlu’r pwyllgorau dros dro yn cael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 15 Mehefin.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai sefydlu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mor fuan â phosibl.

 

4(ii)

Llythyr oddi wrth Plant yng Nghymru – papur i’w nodi

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes bapur oddi wrth Plant yng Nghymru, yn pwyso ar y pwyllgor i ailsefydlu’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.

 

5.

Deddfwriaeth

5(i)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Senedd y DU ynghylch Ynni

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes bapur oddi wrth y Llywodraeth ynglŷn â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (LCM) ar gyfer gwelliannau sydd wedi eu cyflwyno i Fil Senedd y DU ynghylch Ynni. O gofio amseriad y Bil yn San Steffan, cytunodd y Pwyllgor Busnes na fyddai’n cael ei gyfeirio i’w ystyried gan y pwyllgor, ac felly gellid ei gyflwyno i’w drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Mehefin.

6.

Rheolau Sefydlog

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes gynigion ar gyfer newidiadau i’r Rheolau Sefydlog o ganlyniad i’r bleidlaisieyn y refferendwm ar bwerau ym mis Mawrth 2011. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â’r grwpiau gwleidyddol gyda golwg ar ddychwelyd i drafod y cynigion mewn cyfarfod cyhoeddus ar 21 Mehefin.

6(i)

Atodiad A – Rheol Sefydlog 26

6(ii)

Atodiad B – Rheol Sefydlog 25

6(iii)

Atodiad C – Rheol Sefydlog 24

6(iv)

Atodiad D – Rheol Sefydlog 21

6(v)

Atodiad E – Dehongliadau

7.

Busnes arall

7(i)

Pleidleisio yn y Pwyllgor Busnes – papur i’w nodi

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes bapur yn esbonio pleidleisio yn y Pwyllgor Busnes, ac yn benodol pan ddefnyddir pleidleisio wedi ei bwysoli a phan ddefnyddir pleidleisio cymwysedig wedi ei bwysoli.