Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Llywydd. Yn ei habsenoldeb, cadeiriodd y
Dirprwy Lywydd y cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Elin Jones ac Aled Roberts. Dirprwyodd Alun
Ffred Jones ar ran Elin Jones. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf
gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y
Llywodraeth ddydd Mawrth. Bydd cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu gwneud yn syth ar ôl
y Datganiad Busnes. Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer
ddydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cymeradwyodd y Pwyllgor Busnes
gynnig ar gyfer dyddiad y ddadl eleni ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y
DU, a chafodd drafodaeth ynghylch ffurf y ddadl honno. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i
drefnu'r ddadl ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer 24 Mehefin
2015. Cytunwyd hefyd y dylai'r ddadl gael ei chynnal ar yr un ffurf eleni â'r
dadleuon a gynhaliwyd yn y ddwy flynedd flaenorol, sef dadl dwy awr yn unig,
heb unrhyw ddatganiad. Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar
drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn: Dydd Mercher 24 Mehefin 2015
|
|
Deddfwriaeth |
|
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) Cofnodion: Trafododd y
Rheolwyr Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a
nodwyd pryderon y Pwyllgor ynghylch amserlen arfaethedig Bil Iechyd y Cyhoedd
(Cymru). Yn ogystal, nododd y Rheolwyr Busnes siom y Pwyllgor am y ffaith nad
oedd Llywodraeth Cymru, wrth reoli ei rhaglen ddeddfwriaethol, wedi rhoi mwy o
ystyriaeth i effaith y rhaglen hon ar Bwyllgorau'r Cynulliad. Cytunodd
Gweinidog Busnes y Llywodraeth i adolygu, gyda chyngor gan swyddogion Comisiwn
y Cynulliad, goblygiadau ymarferol ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cwblhau
trafodion Cyfnod 1 ar y Bil, yn unol â chais y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y mater hwn yng
nghyfarfod y Pwyllgor Busnes yr wythnos nesaf. |
|
Pwyllgorau |
|
Y Pwyllgor Menter a Busnes: Cais i ymweld â Brwsel a Lwcsembwrg Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar gais gan y Pwyllgor Menter a Busnes i ymweld â'r Comisiwn
Ewropeaidd ym Mrwsel a Banc Buddsoddi Ewrop yn Lwcsembwrg o ddydd Mercher 24
Mehefin tan ddydd Gwener 26 Mehefin 2015. |