Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio
ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid
cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor
Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn: Dydd Mercher 22 Ebrill 2015 – ·
Dadl
gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) NNDM5715 Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i a)
annog moratoriwm ar gloddio glo brig ledled Cymru, er mwyn canfod a yw cyfraith
cynllunio a chanllawiau cyfredol yn darparu digon o amddiffyniad i gymunedau yr
effeithir arnynt gan gloddio glo brig; b)
ymateb i ymchwil i'r methiant i adfer safleoedd glo brig yn ne Cymru, gan
ddatgan yn benodol sut y gallai fynd i'r afael â phryderon ynghylch pa mor
ymarferol yw MTAN2 a'r glustogfa 500 medr; a c)
cynorthwyo awdurdodau lleol yr effeithir arnynt i wneud heriau cyfreithiol, lle
bo angen, wrth geisio adfer safleoedd.
Dydd Mercher 29 Ebrill 2015 ·
Amser
a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) ·
Dydd Mercher 6 Mai 2015 ·
Amser
a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser
a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser
a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol - Rhaglen ddeddfwriaethol y DU ar gyfer 2014-15. Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes y papur
a gyflwynwyd gan y Gweinidog yn amlinellu asesiad terfynol Llywodraeth Cymru o
raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer pedwaredd sesiwn y Senedd hon. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion
i’w cyhoeddi. |