Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
|
2. |
Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
|
3. |
Trefn Busnes
|
3.1 |
Busnes yr Wythnos Hon
Cofnodion:
Cafodd
y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y
Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ar gyfer dydd Mawrth. Gofynnodd yr Aelodau pam y cafodd
datganiad y Gweinidog Adnoddau Naturiol ar Newid yn yr Hinsawdd ei dynnu yn ôl.
Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai’r pleidleisiau ar bob eitem o fusnes
ac eithrio'r ddadl Cyfnod 3 yn cael eu cynnal cyn cychwyn trafodion Cyfnod 3
ddydd Mawrth, ac y byddai pob pleidlais mewn perthynas â'r Bil Trais yn erbyn
Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn cael ei chynnal yn ystod
trafodion Cyfnod 3.
Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu atal y
trafodion ar gyfer egwyl o 10 munud cyn dechrau ar drafodion Cyfnod 3.
|
3.2 |
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf.
|
3.3 |
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cofnodion:
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i
amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 25 Mawrth 2015
·
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig
(60 munud)
·
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig
(60 munud)
·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
|
4. |
Pwyllgorau
|
4.1 |
Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)
Cofnodion:
Ysgrifennodd
Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Pwyllgor Busnes yn gofyn
am estyniad i'r terfyn amser ar gyfer ystyried y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio
(Cymru) yng Nghyfnod 1 fel y gallai glywed mwy o dystiolaeth.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y
cynnig i ymestyn y terfynau amser ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 1 o 10
Ebrill 2015 i 8 May 2015 ac ar estyniad cysylltiedig i’r Pwyllgor gwblhau
unrhyw drafodion posibl yng Nghyfnod 2 o 5 Mehefin 2015 i 17 Gorffennaf 2015.
|
4.2 |
Papur i'w nodi - Llythyr gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Amser cyfarfod estynedig
Cofnodion:
Nododd y Rheolwyr Busnes fwriad
y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ddechrau rhai cyfarfodydd yn gynharach na’r
amser arferol, sef 09:00, er mwyn cwblhau ymchwiliad yr oedd y Pwyllgor wedi
cytuno ei gynnal cyn y Pasg.
|
|
Unrhyw Fater Arall
Dywedodd Gweinidog Busnes y
Llywodraeth wrth Reolwyr Busnes fod posibiliad y byddai Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol yn cael ei drefnu ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth
17 Mawrth ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth mewn perthynas â pheidio
â gwahaniaethu yn erbyn chwythwyr chwiban yn y GIG. Bydd y Llywodraeth yn
cyflwyno papur ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol i'r Pwyllgor Busnes ei
ystyried yr wythnos nesaf.
|