Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar
gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr Wythnos Hon Cofnodion: Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd
Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal
y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes
y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar
drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn: Dydd Mercher 4 Mawrth 2015 ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gwaith craffu ar ôl
deddfu o ran y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Dadl Aelod Unigol: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl Cofnodion: Dewisodd y
Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl: Dydd Mercher 11 Chwefror 2015 NNDM5683 a) diwrnod cofrestru pleidleiswyr
Bite the Ballot ar 5 Chwefror ac yr wythnos genedlaethol o weithgareddau a
gynhelir rhwng 2 a 8 Chwefror; b) Yn nodi adroddiad y Comisiwn
Etholiadol, 'The quality of the 2014 electoral registers in Great Britain', a
ganfu nad oedd 49% o bobl ifanc rhwng 16 a 17 oed wedi cofrestru i bleidleisio. c) adroddiad cynnydd y Comisiwn
Etholiadol, 'Dadansoddiad o'r Arbrawf Cadarnhau Byw yng Nghymru a Lloegr', a
ganfu bod y gyfradd baru i bobl rhwng 16 a 17 oed sydd wedi cofrestru i
bleidleisio'n unigol wedi gostwng o 86% i 52%; a d) llwyddiant menter ysgolion
Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon a wnaeth arwain 57,000 o bobl ifanc (tua
50% o'r grŵp oedran) yn cael eu hychwanegu at y gofrestr. 2. Yn gresynu at y ffaith bod nifer
y bobl sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad wedi bod yn gostwng ac yn
cefnogi camau i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth. 3. Yn galw am gamau i rymuso
swyddogion cofrestru i wella prosesau rhannu data, cynyddu nifer y bobl sydd
wedi'u cofrestru o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol – yn enwedig
etholwyr ifanc a myfyrwyr - a sicrhau lefelau uwch o gyfranogiad ymhlith pobl
ifanc. Mae'r adroddiad 'The quality of the
2014 electoral registers in Great Britain' gan y Comisiwn Etholiadol ar gael
yn: http://www.electoralcommission.org.uk/__data/assets/pdf_file/0005/169889/Completeness-and-accuracy-of-the-2014-electoral-registers-in-Great-Britain.pdf (Saesneg yn unig) Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylai'r ddadl nesaf gan Aelod unigol gael ei chynnal ddydd
Mercher 18 Mawrth, 2015. |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 6) ar gyfer y Bil Dadreoleiddio Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 6) yn ymwneud â'r Bil Dadreoleiddio. Dywedodd y
Gweinidog Busnes y Llywodraeth wrth y Pwyllgor fod y Bil yn agosáu at ddiwedd
ei daith drwy'r Senedd, a chan mai egluro amwysedd cydnabyddedig yn y
ddeddfwriaeth bresennol yw diben y gwelliant, yn hytrach na gwneud darpariaeth
newydd o sylwedd, cytunodd y Rheolwyr Busnes i nodi’r Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol ac na ddylid ei gyfeirio at un o bwyllgorau’r Cynulliad
ar gyfer craffu arno. Bwriedir cynnal dadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol
mewn perthynas â'r darpariaethau yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Chwefror 2015. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar gyfer y Bil Troseddau Difrifol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) yn ymwneud â'r Bil Troseddu Difrifol. Dywedodd y
Gweinidog Busnes y Llywodraeth wrth y Pwyllgor fod y Bil yn agosáu at ddiwedd
ei daith drwy'r Senedd. Gan fod amser yn brin, cytunodd y Rheolwyr Busnes i
nodi'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ac na ddylid ei anfon at un o
bwyllgorau'r Cynulliad ar gyfer ei graffu. Bwriedir cynnal dadl ar y Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r ddarpariaeth yn y Cyfarfod Llawn ar
10 Chwefror 2015. |
|
Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) Cofnodion: Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn
egwyddor a wnaed ar 11 Tachwedd i gyfeirio'r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal
Cymdeithasol (Cymru) at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer ei
ystyried yng Nghyfnod 1, a chytunwyd mai 3 Gorffennaf 2015 fyddai’r dyddiad i'r
Pwyllgor adrodd ar y Bil yng Nghyfnod 1, a 16 Hydref 2015 fyddai’r dyddiad ar
gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2. |
|
Y Rheolau Sefydlog |
|
Caniatáu Newidiadau i Swyddogaethau’r Cynulliad Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan yr Ysgrifenyddiaeth
ynghylch newidiadau i'r Rheolau Sefydlog fel y’u hargymhellwyd gan y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch newidiadau i swyddogaethau'r
Cynulliad. Ystyriodd y Rheolwyr Busnes y gwahanol opsiynau a
chytunwyd mewn egwyddor i ddiwygio Rheol Sefydlog 30 yn unol ag opsiwn C. |