Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Bydd y
Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd
Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a
ganlyn: Dydd
Mercher 10 Rhagfyr 2014 – ·
Dadl gan
Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NNDM5636 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd) Mick
Antoniw (Pontypridd) Alun Ffred
Jones (Arfon) Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cefnogi
egwyddorion y Bil Cymorth i Farw. Mae'r Bil
Cymorth i Farw ar gael yn: http://services.parliament.uk/bills/2014-15/assisteddying.html Dydd Mercher
21 Ionawr 2015 - ·
Dadl ar
Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Dwristiaeth (60 munud) ·
Dadl gan
Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ail-amserlennu’r eitem ganlynol o fusnes o 10 Rhagfyr 2014 i
gyfarfod yn y dyfodol: ·
Dadl gan
Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) NNDM5630 Antoinette
Sandbach (Gogledd Cymru) Bethan
Jenkins (Gorllewin De Cymru) Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
nodi: a) bod
menywod wedi gwneud cyfraniad enfawr i fywyd gwaith Cymru ac yn parhau i fod yn
rhan hanfodol o economi Cymru; b) ei bod
bron i 100 mlynedd ers i fenywod gael y bleidlais a bron i 40 mlynedd ers y
Ddeddf Cyflog Cyfartal; c) bod gan
Lywodraeth Cymru ran bwysig i'w chwarae o ran sicrhau nad oes gwahaniaethu
sefydliadol yn digwydd yn y gweithle. 2. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i beidio â dyfarnu contractau caffael neu arian grant
Llywodraeth Cymru i gwmnïau nad oes ganddynt unrhyw gyfarwyddwyr benywaidd ar
eu byrddau. |
|
Pwyllgorau |
|
Cytuno ar aelodaeth o Bwyllgor y Cynulliad Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes faterion ynghylch cytuno ar aelodaeth y Pwyllgor Cynulliad i ystyried
amddiffyn plant rhag cael eu curo ar sail cosb resymol. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 17.3 i
sefydlu aelodaeth y Pwyllgor. Trwy gyfrwng pleidleisio wedi'i bwysoli, yn unol
â Rheol Sefydlog 11.5(ii), pleidleisiodd Rheolwyr Busnes o blaid aelodaeth yn
cynnwys dau Aelod Llafur a chynrychiolydd o bob un o'r pleidiau eraill, ac i'r
Pwyllgor gael ei gadeirio gan Aelod Llafur. Pleidleisiodd Llafur a Democratiaid
Rhyddfrydol Cymru o blaid aelodaeth y pwyllgor, tra pleidleisiodd y Ceidwadwyr
Cymreig a Phlaid Cymru yn erbyn. Fodd
bynnag, drwy bleidleisio wedi'i bwysoli, yn unol â Rheol Sefydlog 11.5(iv),
pleidleisiodd Rheolwyr Busnes yn erbyn trefnu dadl ar y cynnig. Pleidleisiodd
Llafur a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru o blaid trefnu dadl ar y cynnig, tra
pleidleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru yn erbyn. |
|
Y Cyfarfod Llawn |
|
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Nadolig Cofnodion: Cymeradwyodd
y Pwyllgor Busnes y trefniadau cyflwyno arfaethedig ar gyfer toriad y
Nadolig. |
|
Unrhyw Fater Arall Dywedodd y
Gweinidog wrth y Pwyllgor Busnes, er nad yw ar y Datganiad Busnes eto, y bydd
Llywodraeth Cymru yn trefnu dadl ar y Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r
Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2015 ar
20 Ionawr 2015. Gan y bydd y cyfnod sydd
ar gael i graffu ar y Rheoliadau yn fyrrach na'r arfer, mae'r Gweinidog
Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol ac wedi cael ymateb.
Caiff y ddadl ei hychwanegu at y Datganiad Busnes ar gyfer cyfarfod yr
wythnos nesaf, ar ôl i'r Gweinidog rannu'r Rheoliadau drafft gyda'r Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
|