Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Bydd y
Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd
Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a
ganlyn: Dydd
Mercher 10 Rhagfyr 2014 ·
Dadl gan
Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) Dydd
Mercher 14 Ionawr 2015 ·
Dadl ar
Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyflogau Uwch-reolwyr (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ail-amserlennu’r eitem ganlynol o fusnes: Dydd
Mercher 10 Rhagfyr 2014 ·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig ( |
|
Dadl Aelod Unigol: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl Cofnodion: Oherwydd
ansawdd uchel y cynigion a gyflwynwyd, dewisodd y Pwyllgor Busnes y pedwar
cynnig. Bydd dyddiadau'r cynigion ar gymorth i farw ac awtistiaeth yn y
flwyddyn newydd, a bydd y Pwyllgor Busnes yn penderfynu arnynt yn y dyfodol. Dydd
Mercher 3 Rhagfyr 2014 NNDM5625 Mike Hedges
(Dwyrain Abertawe) Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Peter Black
(Gorllewin De Cymru) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn credu y
dylid datganoli plismona (heblaw am Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU a
diogelwch gwladol). Dydd
Mercher 10 Rhagfyr 2014 NNDM5630 Antoinette
Sandbach (Gogledd Cymru) Bethan
Jenkins (Gorllewin De Cymru) Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
nodi: a) bod
menywod wedi gwneud cyfraniad enfawr i fywyd gwaith Cymru ac yn parhau i fod yn
rhan hanfodol o economi Cymru; b) ei bod
bron i 100 mlynedd ers i fenywod gael y bleidlais a bron i 40 mlynedd ers y
Ddeddf Cyflog Cyfartal; c) bod gan
Lywodraeth Cymru ran bwysig i'w chwarae o ran sicrhau nad oes gwahaniaethu
sefydliadol yn digwydd yn y gweithle. 2. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i beidio â dyfarnu contractau caffael neu arian grant
Llywodraeth Cymru i gwmnïau nad oes ganddynt unrhyw gyfarwyddwyr benywaidd ar
eu byrddau. Dyddiad i'w
benderfynu NNDM5636 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd) Mick
Antoniw (Pontypridd) Alun Ffred
Jones (Arfon) Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cefnogi
egwyddorion y Bil Cymorth i Farw. Mae'r Bil
Cymorth i Farw ar gael yn: http://services.parliament.uk/bills/2014-15/assisteddying.html Dyddiad i'w
benderfynu NNDM5639 Mark
Isherwood (Gogledd Cymru) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
croesawu llwyddiant Cynllun Gweithredu Strategol Anhwylder ar y Sbectrwm
Awtistig Llywodraeth Cymru. 2. Yn nodi
bod mwy i'w wneud i gwrdd ag anghenion plant ac oedolion ag awtistiaeth yng
Nghymru. 3. Yn credu
y byddai gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn
arwain at fwy o eglurder ynghylch y gofal a'r cymorth y gall pobl ag
awtistiaeth ei ddisgwyl. 4. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Awtistiaeth ar gyfer Cymru. Mae Cynllun
Gweithredu Strategol Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig Llywodraeth Cymru ar gael
yn: http://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/autisticspectrumdisorderplan/?lang=en |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Dadreoleiddio Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Dadreoleiddio. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol i'r
Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar gyfer craffu arno. Cytunodd y Pwyllgor
Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol erbyn dydd Iau 8 Ionawr 2015 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 13 Ionawr
2015. |