Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Dirprwy Lywydd. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cafodd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd
Mawrth a dydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a
ganlyn: Dydd
Mercher 19 Tachwedd 2014 - ·
Cynnig i
gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015/16 (30 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) ·
Dadl fer -
Darren Millar (Gorllewin Clwyd) (30 munud) |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Cais am ragor o amser ar gyfer craffu yng Nghyfnod 1 Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gais gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gynnal
cyfarfodydd ychwanegol ar ddiwrnodau nad ydynt yn ddiwrnodau busnes neu yn
ystod toriad y Nadolig er mwyn caniatáu amser ar gyfer craffu pellach yng
Nghyfnod 1. |
|
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Cais i ymweld â Dulyn Cofnodion: Cytunodd y
rheolwyr busnes i gais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ymweld â Phwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus y Dail yn Nulyn ddydd Mercher 19 Tachwedd a dydd Iau 20
Tachwedd 2014. |
|
Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar Gofrestru a Datgan Buddiannau'r Aelodau. Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd at y cwestiwn a ddylid
cytuno mewn egwyddor i argymhellion y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ei gyfarfod
ar 11 Tachwedd 2014. |
|
Unrhyw Fater Arall Bydd
Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Hawliau
Defnyddwyr ddydd Mawrth 21 Hydref. Fodd bynnag, mae'n annhebygol y bydd gan
Bwyllgor y pum wythnos llawn i graffu arno gan fod y darpariaethau wedi'u
cyflwyno gan welliant yn Nhŷ'r Arglwyddi. Soniodd y Gweinidog y bydd papur
ffurfiol yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod nesaf. |